Ni heb gael trafodaeth am felynnau gwynt eto.
Fi heb ddechre fe ynghynt achos mod i'n gwbod fy marn, ac yn gwbod barn Plaid Cymru, ond yn gwbod fod barn y Blaid yn aml yn amhoblogaidd.
Ond dyw hwnna ddim yn reswm pan na ddylwn ni gael trafodaeth call ac adeiladol ar y pwnc, a pwy a wyr newid meddyliau.
Ma'r pwnc wedi dennu llu o lythyrau yn y wasg Gymreig dros y blynyddoedd (yn aml gyda'r un criw o bobol).
Fi'n gwbod fod Owain wedi dechrau trafodaeth ar Ynni adnewyddol, ond fi'n gobitho fod hon am fod yn fwy uniongyrchol am felynnau gwynt a datblygiadau fel Camddwr yng Nghanolbarth Cymru a'r rheiny yn y Bristol Channel ymhlith llefydd eraill.
Beth yw'ch barn chi am y datblygiadau yma ac ynni o felinnau gynt yn gyffredinol?
Oes melin wynt neu fferm wynt ar eich pwys chi?
Ydy chi'n aelod o un o'r mudiadau sydd o blaid neu'n gwrthwynebu'r datblygiadau?
I bob pwrpas fi o blaid y datblygiadau, ac mi ymhelaetha i yn nes ymlaen.
Chi? Os odych chi'n cefnogi'r egwyddor ond yn ei erbyn melynnau gwynt, beth fyddech chi'n wneud?
Pam bo chi o blaid neu yn erbyn?