ceribethlem a ddywedodd:Ar y cyfan dwi o blaid i felinau gwynt a ffyrdd amgen arall o gynhyrchu trydan ond mae'n bwysig mai ni sy'n elwa o'r peth, yn nhermau trydan 'glan' ac arian.
Cwmni o Fangor, wedi ei redeg gan Gymro Cymraeg (Cambrian Engineering) ydi un o'r cyflenwyr mwyaf o felinau gwynt yn Ewrop. A drwy ddilyn y drefn (caniatad cynllunio etc.), gall unrhyw un sydd a llecyn o dir gwyntog, a digon o gyfalaf cychwynol, fynd ati i godi fferm wynt. Mewn byd lle mae ffermio traddodiadol yn dirwyn i ben yng Nghymru, mae ffermio gwynt yn un o'r diwydiannau sy'n cynnig dyfodol hir-dymor i'r economi wledig.
Toes na'm pwynt gweld bai ar bobl eraill sy'n ddigon mentrus i fynd ati i godi fferm. Digon gwir, mae un melin yn medru costio'n agos at filiwn o bunoedd, ond mae hi hefyd yn medru cynhyrchu gwerth miloedd o bunoedd y dydd o drydan. Petai mwy o ffermwyr Cymru'n fodlon mentro, a dibynnu llai ar fudd-daliadau o Ewrop, mi allen ni wneud y mwya o'r adnodd naturiol yma. Mae 'na ddigon o wynt yng Nghymru i bawb, wedi'r cwbwl.