Tudalen 1 o 1

Help! Angen bagiau canfas *Cymraeg* ar frys!

PostioPostiwyd: Sad 24 Gor 2010 10:13 am
gan nicdafis
Oes rhywun gyda cyflenwad o fagiau canfas (rhai sy'n hybu Menter Iaith neu rhywbeth fel 'na) alla i gael trwy'r post os gwelwch yn dda? Dw i'n hapus i dalu amdanyn nhw.

Cwpl o wythnosau yn ôl, wnes i ymuno â phrosiect fach ar Metafilter i gyfnewid bagiau siopa canfas â phobl y byd. Nawr dw i'n sylweddoli bod dim digon o fagiau sbâr, glân gyda fi yn y tŷ, ac mae'r syniad o yrru'r holl ffordd i Aberteifi dim ond i brynu bagiau sydd i fod i achub y byd bach yn ddwl.

Sdim angen lot arna i, wyth bag mewn o leia dau steil gwahanol.

Dw i'n gywbod bod lot ar gael yn y Steddfod, am ddim fel arfer, ond dw i ddim yn mynd eleni :(

Diolch bois.

Re: Help! Angen bagiau canfas *Cymraeg* ar frys!

PostioPostiwyd: Sad 24 Gor 2010 10:21 pm
gan sian
Roedd rhai neis gyda Taliesin yn y lansiad heno. Wnes i ddim meddwl gofyn faint oedden nhw.

taliesin @ academi . org

Re: Help! Angen bagiau canfas *Cymraeg* ar frys!

PostioPostiwyd: Sad 24 Gor 2010 11:05 pm
gan nicdafis
Diolch - os dw i ddim wedi ffeindio rhai cyn y Steddfod, wna i ofyn i Philippa codi rhai o'r Maes.