Tudalen 1 o 1
Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Mer 17 Tach 2010 7:53 pm
gan EsAi
Helo helo,
wrthi'n pendroni dros system wresogi ar gyfer y ty (new build).
Dwi'n temted i fynd am yr air source heat pump, ac dwi ar ddalld (o le da) na does dim angan boilar ar gyfyl y sioe, ac ei fod yn gwresogi, ac yn cnesu dwr yn effeithiol. (?)
Oes rhiwyn efo unrhyw brofiad ohonyn nhw?
Dwi'n cymryd ei bod yn reit ddrud ar letric, ond o bosib yn rhatach na tanc o oel/gas? dwi'm yn gwbod?
hefyd pa mor swnllyd ydyn nhw?
Mi fyswn i'n falch iawn o unrhyw gyngor!
diolch
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Mer 17 Tach 2010 9:16 pm
gan Hazel
EsAi. Ces i 'heat pump' yn Kansas. Roedd yn braf heblaw pan y tymheredd yn mynd dan sero. Wedyn, roedd yn oer iawn! Dydy'r 'heat pump' ddim yn gwneud yn dda pan hi'n oer iawn. O leiaf, nid yn Kansas. Drud? Doedd dim rhy ddrwg. Swnllyd? Dydw i ddim yn cofio ei glywed e.
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Mer 17 Tach 2010 9:22 pm
gan EsAi
diolch hazel, dwi'n poeni chydig am hynu, gan fod y ty ar ochor mynydd, ond mi oni'n siarad hefo rhiwyn oedd yn dweud na fyddai'n broblem, ac fod na 'boom' ynddynt yn canada a scadinafia! dwi'm yn siwr!
oedd o'n cynhesu dwr hefyd?
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Iau 18 Tach 2010 9:36 am
gan Manon
Wyt ti ''di cysidro ground source yn lle air source? Ffrind i fi efo fo, ac mae o'n gret. Fel ti'n deud, ma' rhaid talu amy trydan ond yn ol y son mae o'n llawer rhatach nag unrhywbeth arall.
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Gwe 19 Tach 2010 5:44 pm
gan EsAi
do wedi cysidro, ond ma lle yn brin! ma'r ddau reit debig o be dwi'n ddalld, ond fod y 'ground source' yn fwy effeithiol.
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Llun 22 Tach 2010 12:27 pm
gan Manon
Ia, felly oedd fy ffrind i'n deud. 'Swn i wrth fy modd (dim gwres canolog yn ty ni!) ond mae o'n reit ddrud i'w roi i mewn, er bod o'n werth y gwario yn y tymor hir.
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Llun 22 Tach 2010 12:46 pm
gan Doctor Sanchez
EsAi a ddywedodd:do wedi cysidro, ond ma lle yn brin! ma'r ddau reit debig o be dwi'n ddalld, ond fod y 'ground source' yn fwy effeithiol
Bore hole y lwmp! Tua £4k yr un.
Mae gin Aled Caerau ground source heat pumps, ti di siarad efo fo?
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Llun 22 Tach 2010 6:05 pm
gan EsAi
Doctor Sanchez a ddywedodd:EsAi a ddywedodd:do wedi cysidro, ond ma lle yn brin! ma'r ddau reit debig o be dwi'n ddalld, ond fod y 'ground source' yn fwy effeithiol
Bore hole y lwmp! Tua £4k yr un.
Mae gin Aled Caerau ground source heat pumps, ti di siarad efo fo?
£4k yr un! air source mond riw dair!
siarad fo ceura, rai fi neud.
pw' ti ta?
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Llun 22 Tach 2010 8:36 pm
gan Doctor Sanchez
EsAi a ddywedodd:£4k yr un! air source mond riw dair!
Ella mond un bore hole ti angan, dwim yn saff iawn.
Ma na joban nath John Wenallt yn Dweiliog, lle nathon nhw iwsio bore holes. 4 dwi'n meddwl felly ma hynny'n ddrud. Nai holi Dafydd Bach os tisio.
Dwi'n ama ma rhyw 8k oedd heat pumps Caerau, ond fydd y system di talu am i hun mewn llai na deg mlynadd.
A hitia di befo pwy dwi, welai di'n fuan rhen foi!
Re: Air Source Heat Pump!
Postiwyd:
Maw 23 Tach 2010 6:41 pm
gan EsAi
lwmp, aled caerau, dafydd bach.
gini eidia.