Mewn ymateb i alwad gan nick urse (gobeithio nad oedd hi'n tynnu'r pys), dw i am ddechre edefyn, neu ymgyrch, i gael pawb i STOPIO DEFNYDDIO BAGIAU PLASTIG neu o leia' stopio cymryd rhagor ohonyn nhw o siopau mawrion twyllodrus, celwyddgar, haerllug, cyfalafol, barus (yn y 'marn i) fel Tescos a Sainsburys.
Sdim raid i chi gytuno â marn i am Tescos (dieflig o le) et al, ond PLIS, meddyliwch am y peth - a oes wir angen dau fag Spar arnoch chi pan chi'n cario potel o win, pac o ffags a potel lefrith o'r siop? Slipwch hen un ym mhoced eich cot cyn gadel ty^ (wir, dyw e ddim trafferth, unwaith y dechreuwch chi wnewch chi byth anghofio) neu ewch a rycsac neu fag ysgwydd mawr da chi.
Mae Iwerddon eisoes wedi stopio rhoi bagie plastig am ddim i bobol. Pam, o pam nad yw'n Llywodraeth ni'n gwneud yr un peth? Gormod o arian gan Lord Sainsburys via y cwmnïoedd cemegol siwr o fod. Pam nad yw'r siope mawrion ma'n annog pobol i ailgylchu eu bagie? Dyw'r binie bach na tu fas yn neud dim gwahaniaeth. Watsiwch chi faint o fagie mae pobol yn llwytho'n 'u ceir, mond i'w taflu'n syth i'r bin.
Maen nhw'n dweud fod na ddarn maint Cymru o fagie plastig dan y môr. CYM ON. JUST SAY NO.
O.N. Nicyrs - wedes i bod fi'n teimlo'n flin am y peth...