gan nicdafis » Mer 29 Hyd 2003 11:27 am
Dim ond cwestiwn o ddod yn arfer yw e, ondyfe? Fyddet ti ddim yn mynd i'r siop heb dy waled/pwrs, neu dy allweddi, felly beth yw'r gwahaniaeth.
Fel Mihangel, dw i fel arfer â phacbac gyda fi, a chwpl o fagiau plastig yn hwnna, jyst rhag ofn.
Dyw eu hail-gylchu ddim yr "opsiwn gwyrdd", o bell ffordd. Llawer gwell, os oes bagiau sbar 'da ti, mynd â nhw i siop gynnyrch lleol, sy'n eu hail-ddefnyddio.
Ar y siopau mae bai am hyn i gyd, ac arnon ni am fod mor ddiog, ac ar y llwydraeth am fod mor lwfr.
Mae gan ein siop bwyd iach leol, Go Mango, Aberteifi, bolisi o ofyn bob tro "ti moyn cwdyn?", sy'n tueddu atgoffa pobl o'r gwastraff, ac i'w haddysgu nhw. Maen nhw hefyd yn derbyn hen fagiau i'w hail-ddefnyddio. Mae'r siop fferm yn Sarnau yn wneud yr un peth. I siopau bychain mae hyn yn wneud sens, wrth gwrs, achos mae bagiau plastig yn bwyta i mewn i'w helw, a does dim sgil-effeithiau hysbysebu iddyn nhw, fel arfer.
Os dych chi moyn stori wir dychrynllyd: pan o'n i'n gweithio i siop Oriel, ar ôl iddyn nhw gael eu cymryd trosodd gan HMSO, cawson ni filoedd o fagiau plastig newydd, dwyieithog, oedd newydd eu hargraffu gan yr uned argraffu ym Mryste (os ydw i'n cofio'n iawn). Wrth gwrs, oedd camgymeriad yn y Gymraeg. Dwedodd rhywun "wel, bydd hyn bach o embaras", dwedodd un o swyddogion HMSO, "na, paid poeni, twli nhw i gyd a chewch chi batch cwbl newydd". Oedd hwnna o leia 10,000 o fagiau. Mewn sgip. Pan awgrymais i y gallwn ni eu rhoi i siop "Mad Gareth" (siop fwyd iach yn y Rhath o'n i'n arfer eu defnyddio) dwedodd y swyddog na fyddai hynny'n addas.