Bagiau Plastig - dyfais y diafol

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ffwrchamotobeics » Sul 09 Mai 2004 11:16 pm

ond..ma' nhw'n handi mewn eisteddfodau sy' heb siopau wellingtons na chemists yn y cyffiniau
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan garynysmon » Sul 09 Mai 2004 11:17 pm

Yn fy stafell yn JMJ mae gen i un cwpwrdd llawn bagiau plastig gwag. Mae na ormod o'r blydi things.
Rhithffurf defnyddiwr
garynysmon
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 4232
Ymunwyd: Maw 01 Gor 2003 4:24 pm
Lleoliad: Ynys Mon

Postiogan Baps » Sul 09 Mai 2004 11:19 pm

bag plastig yn mynd yn y gwynt- y peth prydferthaf yn America! (yn ol pob tebyg)
Rhithffurf defnyddiwr
Baps
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 244
Ymunwyd: Gwe 12 Rhag 2003 1:13 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Mihangel Macintosh » Llun 10 Mai 2004 3:49 pm

brenin alltud a ddywedodd: Yn y pen draw, codi ryw 30c y bag sy' eisie dw i'n meddwl.


Ma Lidl yn neud hyn yn barod. 15c dwi'n meddwl mae nhw'n costio.

Ydy Lidl wedi cyrraedd Goglandia erbyn hyn?
Rhithffurf defnyddiwr
Mihangel Macintosh
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 4234
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 12:44 pm
Lleoliad: Disgotec y deillion

Postiogan brenin alltud » Iau 13 Mai 2004 12:01 pm

Odi, i Fangor.

Mae Kwik Save Bala neu Ddolgellau'n codi ryw 15c yr un hefyd, a nhw oedd byth yn rhoi bags ond yn rhoi bocsys i bobol. Gweld bod bocsys ar gael yn Nhescos Caernarfon erbyn hyn.

Ond ma pobol yn dal i iwsio cannoedd o'r hyllbethau yn eu trolis...

Un arwydd bach sy' eisie ym mhob siop fawr yn atoffa pawb wrth adael i ddod â bag gyda nhw tro nesa', a stopio'r hysbysebion teledu sy'n dangos pawb yn fwnis hapus yn cludo eu danteithion gwerthfawr (mewn cydynnau plastig) mewn bag plastig yn wen o glust i glust. :drwg:
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Dylan » Iau 13 Mai 2004 7:25 pm

Mae bagiau Lidl yn rhai da, cryf, sy'n well byth. Mae Lidl yn wych. Delwedd
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Macsen » Iau 13 Mai 2004 7:39 pm

Dylan a ddywedodd:Mae bagiau Lidl yn rhai da, cryf, sy'n well byth. Mae Lidl yn wych. Delwedd


Nadi ddim! Roedd rhaid i mi brynu bag heddiw; a diolch i dy fotel o Iron Brew mi rwygodd y peth yn ddim yr eiliad gerddais i allan o'r siop. Mae Lidl yn evil. :drwg:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Dylan » Iau 13 Mai 2004 7:45 pm

Cymera mwy o ofal wrth roi'r botel i mewn felly. Os ydi'r top yn gwasgu yn erbyn yr ochr yna ti'n gofyn am drwbl. Tsk.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan denzil dexter » Maw 25 Mai 2004 10:22 am

lowri larsen a ddywedodd:Siarad am blastic mae baloons ny drychinebus i' r amgylchfyd. Pam ti' n gweld nw' n diflanu mewn i' r awyr mae nhw' n gorffen yn y cefnforoedd ac mae pysgod a dolphins yn llyncu nw gan feddwl mae bwyd ydi nw ac yn tagu i farwolaeth- trist ia. :crio:


weles i raglen ddociwmentari rwbryd, ag oedd o'n son fydd y crwban mor (leather back) yn diflannu erbyn 2010 achos bod nw'n camgymryd bagiau plastig i'w prif fwyd sef jellyfish. wrth gwrs, hynny ydi os nag oes na safeways ar ochr y bag!
Rhithffurf defnyddiwr
denzil dexter
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 537
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 9:17 am
Lleoliad: Os na dwi'n fan hyn - dwi rhwle'n agos!

Postiogan S.W. » Maw 25 Mai 2004 1:47 pm

Dylid rhoi treth uchel o rhyw 50ceiniog ar pob bag plastig ym Mhrydain. Dylai'r treth hwn wedyn cael ei rhoi yn syth yn nôl i cymunedau i gael datblygu cynlluniau ailgylchu ac amgylcheddol eraill.

Dwi ddim yn credu gallai unrhyw un gwyno am y dreth hwn oherwydd byddai ddim yn rhaid ei dalu - os dydych chi ddim eisiau talu 50 ceiniog o dreth ar eich bagiau plastig, yna ailddefnyddiwch be sydd gennych chi yn barod.

Dwin cofio pan oeddwn in byw gyda fy rhieni oedd gan pob bin yn y ty fag plastig a wedyn pan roedd hi'n amser rhoi'r bin allan byddai pob un o'r bagiau hynny yn mynd i'r bag bin hefyd. Am wastraff!
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai