Brynle Wiliams yn cwyno am bris petrol

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Brynle Wiliams a'r Pris Petrol

Cywir i gwyno
7
29%
Anghywir
2
8%
Wedi colli'r plot
15
63%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 24

Postiogan Panom Yeerum » Sul 16 Mai 2004 9:09 pm

cadwch at y drafodaeth ferched!

efo prisiau trafnidiaeth cyhoeddus mae car yn rhatach ar adegau. Ystyriwch tocyn tren o Gaerdydd i'r gogledd. £40! Gwirion! neu Caerdydd i Llundain - £50! Ac mae prisiau petrol yn wirion o ddrud. Oes unrhyw un yn gwybod am wlad arall yn ewrop neu hyd yn oed y byd sydd â pris petrol uwch na ni?

Ond derbyniaf y ffaith nad yw gwledydd eraill efo NHS
Panom Yeerum
 

Postiogan GT » Sul 16 Mai 2004 9:24 pm

Go brin bod na wlad efo'r cyfuniad sydd gennym ni o drafnidiaeth cyhoeddus gwael, a phrisiau petrol uchel.

Mae'n bosibl gweld rhesymeg y Llywodraeth i geisio cael llai o geir ar y ffordd mewn gwlad (gwledydd, dwi'n feddwl) fach, boblog. Ond mae gwneud hynny yn absenoldeb buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus yn achosi dioddef gwirioneddol - yn arbennig mewn ardaloedd cefn gwlad.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan RET79 » Sul 16 Mai 2004 9:35 pm

Well gen i gael car na trafnidiaeth gyhoeddus. Lot mwy hwylus. Ym amlwg y rhai tlotaf mewn cymdeithas fydd yn gorfod mynd heb y car a dal bysus a trenau os buasai mwy o drethi yn cael ei roi ar geir. Felly mae y sosialwyr amgylcheddol ma am weld pobl dlawd yn byw heb gar.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Newt Gingrich » Sul 16 Mai 2004 10:17 pm

RET79 a ddywedodd:Mae'r pwynt oedd Newt yn ei wneud yn eitha amlwg, dyw 'technicality' felna ddim yn gwneud gwahanieth.


Dyna steil GT - smug a hunan bwysig ac osgoi dadl lle bod modd.

Diddorol gweld fod ei gyfiawnhad yn symud ymlaen i fater trafnidiaeth cyhoeddus - gret, cei fws i Ddinbych bob dydd mawrth a dydd Iau os ti'n byw yn Bylchau - rol on sosialaeth PC. Ac wrth gwrs, mae gan GT gar a swydd dda sy'n golygu y gall fforddio talu am ei betrol a chael peint yn y Black.
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan GT » Sul 16 Mai 2004 10:33 pm

Paid a chael y myll 'rhen Newt!

Mae pwyntiau diddorol yma.

Yn gyntaf, nid wyf yn cyfiawnhau trethi tanwydd uchel - dim ond nodi bod yr effaith yn waeth os ydi trafnidiaeth gyhoeddus yn sal.

Yn ail, gall rhywun weld rhywsut pam y byddai llywodraeth yn Llundain eisiau annog pobl i beidio a defnyddio eu ceir - mae Lloegr yn llawn o geir. Nid yw hyn yn wir am Gymru, ond am ein bod wedi ein clymu yn wleidyddol at Loegr, rydym yn gorfod byw efo polisi cwbl anaddas ar ein cyfer.

Yn drydydd 'dwi'n gobeithio nad wyt ti'n awgrymu fod y Black yn ddrud. Mae cynnig yno ar hyn o bryd - peint o Fosters am £1.25. Dos draw un noson.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Newt Gingrich » Sul 16 Mai 2004 10:47 pm

GT a ddywedodd:Yn drydydd 'dwi'n gobeithio nad wyt ti'n awgrymu fod y Black yn ddrud. Mae cynnig yno ar hyn o bryd - peint o Fosters am £1.25. Dos draw un noson.


Tro nesaf dwi adref - ganol yr haf, a derbyn fod y cynnig yn parhau.

O ran gweddil dy bwyntiau - digon teg OND pam dwi'n cael y teimlad mae plaid wleidyddol Brynle sy'n dy boeni ac nid ei safbwynt?
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

Postiogan RET79 » Sul 16 Mai 2004 10:47 pm

Wel, y pobl ar incwm isel sy'n mynd i deimlo'r pinsh hefo codi trethi ar fodura a nhw fydd efallai yn gorfod gwerthu eu car a dal y bysus. Ddim y dosbarth canol sy'n honni i boeni am yr amgylchedd, fe fydda nhw dal yn moduro.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Sul 16 Mai 2004 10:50 pm

Gyda llaw, 52% o'r maeswyr yn meddwl fod Brynle Williams wedi "colli'r plot" drwy gwyno am bris petrol.

Fel dywed y sais: "words fail me".
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan GT » Sul 16 Mai 2004 10:56 pm

Newt Gingrich a ddywedodd:O ran gweddil dy bwyntiau - digon teg OND pam dwi'n cael y teimlad mae plaid wleidyddol Brynle sy'n dy boeni ac nid ei safbwynt?


Fel y gwyddost, nid hon yw fy hoff blaid. Yn ogystal mae safonau dwbl yma 'dwi'n meddwl - rhai mathau o brotestio yn wrthyn, ond mathau eraill yn OK.
A great man. He could have been Pope!
Blog Menai
Gwasanaeth i'r Gymuned
Rhithffurf defnyddiwr
GT
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2774
Ymunwyd: Maw 20 Ion 2004 11:35 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Newt Gingrich » Sul 16 Mai 2004 11:00 pm

GT a ddywedodd:
Fel y gwyddost, nid hon yw fy hoff blaid. Yn ogystal mae safonau dwbl yma 'dwi'n meddwl - rhai mathau o brotestio yn wrthyn, ond mathau eraill yn OK.


A vice versa o be wela i
Rhithffurf defnyddiwr
Newt Gingrich
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 384
Ymunwyd: Llun 20 Hyd 2003 9:24 pm
Lleoliad: Pell, pell i ffwrdd

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 22 gwestai