Codi trethi ar petrol

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Al Jeek » Iau 13 Tach 2003 1:14 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Mae gen i insiwrans fy hun ar Fiesta 1.1, a dwi'n talu llai na £300 y flwyddyn.


Pa mor hen ydio? Faint yw ei werth? Ers sawl blwyddyn wyt ti'n gyrru? Ers sawl blwyddyn rwyt ti wedi yswirio arna fo dy hun? Faint oed wyt ti? Mae rhain i gyd yn ffactorau.
Mae insiwrans ceir bach efo injan bach yn rhatach eniwe. Mae nhw mewn categori is na peugot 306 a VW Golf.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Garnet Bowen » Iau 13 Tach 2003 4:41 pm

Al Jeek a ddywedodd:
Garnet Bowen a ddywedodd:Mae gen i insiwrans fy hun ar Fiesta 1.1, a dwi'n talu llai na £300 y flwyddyn.


Pa mor hen ydio? Faint yw ei werth? Ers sawl blwyddyn wyt ti'n gyrru? Ers sawl blwyddyn rwyt ti wedi yswirio arna fo dy hun? Faint oed wyt ti? Mae rhain i gyd yn ffactorau.
Mae insiwrans ceir bach efo injan bach yn rhatach eniwe. Mae nhw mewn categori is na peugot 306 a VW Golf.


Mae ishio i chdi werthu dy VW Golff a prynnu Fiesta 1.1 'ta 'does. :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 5:23 pm

Al Jeek a ddywedodd:Diom yn rip off o gwbl. Dyna faint ma inswirans yn gostio i ddyn ifanc gyda car ei hun.



Cywir.

Mae inswrans fy nghar i yn y pedwar ffigwr, drud iawn ond alla i ddim ei gael o'n ddim rhatach. Os buaswn i'n ferch buasai o'n lot rhatach (enghraifft o sexism). Fedra i symud i fyw mewn fflat arall a cnocio cwpl o ganoedd i ffwrdd bob blwyddyn ond buasai hyn yn golygu byw yn belllach o'r gwaith a talu fwy am deithio mewn bob dydd, parcio, taxis ar y penwythnos ac anghyfleustra: felly dwi ddim yn cwyno gan dwi ddim yn enill un ffordd neu'r llall.

Dwi erioed wedi deall mentality pobl o alw inswrans mae eraill yn dalu am eu ceir fel 'rip-off'. Os ti wedi siopio o gwmpas a ffeindio'r quote rhataf i ti yna ti heb gael dy ripio off o gwbl. Dyna'r oll fedr rhywun ei wneud: mae o ond yn rip off os ti'n talu inswrans uchel a chdithau'n gallu ei gael yn lot rhatach yn rywle arall.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan RET79 » Iau 13 Tach 2003 5:30 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:(Gyda llaw, 'da chi i gyd yn talu gormod am eich insiwrans. Mae gen i insiwrans fy hun ar Fiesta 1.1, a dwi'n talu llai na £300 y flwyddyn. )


Os buaswn i'n symud nol i Gwynedd buasai fy inswrans yn disgyn 50% yn syth. Gen ti postcode ffafriol a car bach felly mae o'n rhad i ti. Yn bersonnol well gen i ddreifio ceir hefo mwy o gic ac felly dwi ddim yn meindio talu yn ychwanegol.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Gruff Goch » Iau 13 Tach 2003 6:31 pm

Fel Garnet Bowen, dwi'm yn siwr os mai trafnidiaeth gyhoeddus i gefn gwlad ydi'r ateb. Dwi'm yn gweld ceisio ateb dinesig/trefol i broblem cefn-gwlad yn rhywbeth synhwyrol. Heb fod yno ddigon o boblogaeth mewn un lle, dydi darparu gwasanaeth trenau/bysys llawn ddim yn gwneud synnwyr yn economaidd nac ychwaith yn amgylcheddol.

Heb ddarpariaeth lawn mae'r rhan fwyaf o drigolion cefn-gwlad yn mynd i droi at gysur, preifatrwydd a rhyddid eu ceir gan fod rhain yn bethau y mae pobl yn barod i dalu amdanynt.

A dyna lle dydw i ddim yn rhyw fodlon iawn ar y trethi dwi'n ei dalu fel rhywun sy'n berchen car. Dwi'm yn gweld fod yr arian dwi'n ei dalu i mewn i goffrau'r llywodraeth fel cosb am y llygredd mae fy nghar i'n ei greu yn mynd i ddarparu dewis arall i bobl cefn gwlad fydd yn gadael i yrrwyr gadw'u cysur, preifatrwydd a'r rhyddid i allu mynd i le o'u dewis, pryd mae nhw'n dewis.

I fod yn onest dwi'n meddwl mai ceir bach rhad ac ysgafn sy'n rhedeg ar danwydd amgylcheddol-gyfeillgar ac sy'n amgylcheddol gyfeillgar i'w cynhyrchu a'u cynnal ydi'r ateb. Dyna lle hoffwn i weld fy nhrethi i'n cael ei wario, nid ar sybsideiddio ehangu'r 'commuter belt yn Ne-ddwyrain Lloegr, fel sydd i weld yn digwydd ar y foment.

Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl y dylwn ni fod yn ail-edrych ar ein patrwm byw/gweithio. Erbyn hyn, does dim angen i ni i gyd fod yn gweithio mewn canolfannau canolog, gan gymudo yno o'r cyrion. Dwi'n byw mewn pentre bach o tua 150 o dai, a'r unig gyflogaeth yno ydi un ddynes Swyddfa Bost a'r athrawon a'r staff yn yr Ysgol Gynradd; mae pawb araal yn cymudo i'r gwaith ym Mangor/Caernarfon a.y.b.

Beth am ddod a gwaith i'r pentref, fel nad oes rhaid gwastraffu arian, amser na'r amgylchedd yn mynd a dod? Fel y mae hi ar y funud does yna ddim hyd yn oed Band-llydan (na chynlluniau i'w osod)yma, a dim ond bws anghyffyrddus bob 2 awr sy'n teithio ar hyd lonydd cefn troellog ac yn cymryd bron i ddwywaith cymaint a'r taith mewn car. Dim rhyfedd fod pawb yn cadw at eu ceir...

[Wedi golygu hwn er mwyn i rai brawddegau wneud sens. Roedd hi'n hwyr...]
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Postiogan Cynog » Gwe 14 Tach 2003 6:52 pm

Oi Bowen! Ateba gwesdiwn Jeek! Man swnio fel dy fod wedi bod yn yswirio dy gar am fwy na blwyddyn!
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan huwwaters » Sul 16 Tach 2003 4:44 pm

Mae fy chwaer, sydd efo 1 blwyddyn no claims, yn ugain ac efo speeding convictions (SP30, yn talu £330 y flwyddyn ar Fiat Uno, 1.0 litr.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Cynog » Llun 17 Tach 2003 2:32 pm

Huw. Dyma di'r pwint. Sgen i ddim 1 blwyddyn no claims achos dwi heb fod efo car fy hyn am flwyddyn eto. (oni yn arfer bod ar car Dad a odd o yn talu £320 am y ddau o hona ni!) Blwyddyn nesa neith un fi hanneru i rhwng £300 a £400. (oni bai fod fi'n cal crash)

Ma car fi yn 1.6 ddo. Gorfod cadw un cam o flaen y dyn!
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan Gruff Goch » Llun 17 Tach 2003 3:30 pm

Cynog a ddywedodd:Ma car fi yn 1.6 ddo.


Ac yn damp.
Rhithffurf defnyddiwr
Gruff Goch
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1148
Ymunwyd: Iau 12 Rhag 2002 1:22 pm
Lleoliad: neuadd fawr rhwng cyfyng furiau

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 24 gwestai