Codi trethi ar petrol

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Macsen » Mer 12 Tach 2003 3:22 pm

Dw i yn cerdded i bob man. :D
Am fod gen i ddim leisans dreifio. :drwg:
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan nicdafis » Mer 12 Tach 2003 4:35 pm

Cynog a ddywedodd:Ma pris petrol yn anheg o ychal i ni yng nghefn gwlad. Pa opsiwn arall sydd geni ond gyrru car?


Mae gen ti ddau opsiwn (o leia):

  1. Newid dy ffordd o fyw
  2. Symud i'r dre

(Wel, mae gen ti opsiwn arall, wrth gwrs, sef cario ymlaen fel yr wyt ;-))

Dw i'n byw gyda fy nghymer mas yn Llangrannog, ac mae un car 'da ni rhwng y ddau ohonom. Mae hi mas heddi, felly dyma fi'n wastraffu'r dydd pori'r maes a chwarae Nethack. Swn i moyn mynd i Aberteifi am ryw rheswm fyddai dim opsiwn 'da fi ond i gerdded i Frynhoffnant (dwy a hanner milltir) i ddal y bws, neu ei fodio fe.

Heno, dw i'n mynd mas i ddarlith yn Nhalgarreg, a bydd rhaid iddi hi ffeindio lifft i'w chyfarfod MyW (tybiwn i taw fi yw'r unig aelod y maes gyda wejen sy'n mynd i Ferched y Wawr. Roc a rol!)

Pan oedd dau gar 'da ni, oedd lot mwy o "rydded" 'da ni, ond oedd dau lot o drethi'r heol, swiriant, gwasanaeth torri i lawr, ac yr oedden ni'n defnyddio lot mwy o betrol. Pan penderfynnon ni gael gwared o un o'r ceir oedd rhaid i ni ail-drefnu ein dosbarthiadau rownd yr amserlen bysus, a derbyn na fydden ni'n gallu wneud pob dim ro'n ni moyn ei wneud. Y prif wahaniaeth mae hyn wedi wneud i fi yw dydw i ddim yn mynd i'r sinema yn Aberteifi mor aml, achos bod lot o gyfarfodydd ac ati 'da fy nghymer yn y nos. Ond yn lwcus iawn, does dim amser 'da fi am fywyd cymdeithasol yn y cig-fyd ta beth, diolch i chi, y fastards ;-)

Beth dw i'n dweud, sbo, yw, ie, mae'n annheg bod pobl yn y dre yn talu'r un pris am eu petrol (llai, fel arfer) â ni'r hambôns yn y cefn gwlad, ond does dim lot o bwynt poeni am hyn, achos does dim ffordd yn y byd bydd y llwydraeth yn gallu newid y cyfundrefn prisio tanwydd. Mae pleidleisiau'r trefi yn rhy pwysig.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Garnet Bowen » Mer 12 Tach 2003 5:06 pm

nicdafis a ddywedodd:Does dim ffordd yn y byd bydd y llwydraeth yn gallu newid y cyfundrefn prisio tanwydd. Mae pleidleisiau'r trefi yn rhy pwysig.


Ella na fedri di godi gwahanol bris ar betrol yn y wlad a'r dref, ond mi fedri di newid y gyfundrefn drethi. Codi treth ffordd is ar drigolion y wlad, tra'n codi "congestion charge" ar drigolion y dref. Unwaith bydd system o'r fath yn ei lle, yna mi fedri di ostwng y dreth ar betrol.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan nicdafis » Mer 12 Tach 2003 5:19 pm

Cytunaf.

(Diawl, dyna gair ti'n ddim yn gweld yn aml rownd fan hyn. ;-))

Sa i'n gwybod os ydy hyn yn berthnasol, ond ydy pobl yn gwybod am yr ETA? Nid y Basgwyr, ond yr <a href="http://www.eta.co.uk/">Environmental Transport Association</a>. Maen nhw'n cwmni gwasanaeth torri i lawr/swiriant sy'n ymgyrchu dros trafnidiaeth cyhoeddus a lleihau maint o geir sydd ar yr heol.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan RET79 » Mer 12 Tach 2003 6:00 pm

Dwi ddim yn meddwl wnei di dynu pobl oddi ar y lon yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ddim hyd yn oed yn y trefi dyddie yma gan mae'r siopau, sinemau gorau tu allan i'r trefi a ti angen car i fynd yno.

Os ti am siopio, chwarae golff, pigo dy date fyny, cario dy stwff pan ti'n symud fflat, cael annibyniaeth a mwy o ddewis yn dy fywyd yna rhaid i ti gael car.

Wnes i fyw fan hyn am 2 flynedd heb car. OK roeddwn i'n gallu ymdopi hefo dal bysus a cerdded, doedd o ddim yn amhosib. Ond mae cael car yn lot gwell: fedra i fynd i siopio mewn siopau sydd yn agor yn hwyrach (fel Asda Walmart 24 awr pryd dwi'n dewis), fedra i fynd i chwarae golff (amhosib mynd i gwrs golff ar fws), fedra i fynd a dod fel dwi'n teimlo a dim mwy o gerdded strydoedd y dref ma i Tesco a cael fy hasslo gan beggars - neid i'r car a dim trafferth. Dim mwy o ddisgwyl yn y glaw am fws, dim mwy o gael fy nal i fyny gan drenau - safon byw lot gwell.

Ond mae rhedeg car yn blydi drud.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan huwwaters » Mer 12 Tach 2003 6:46 pm

Cadwch y trethi ar danwydd yr un fath ag y mae o rwad, a'i godi efo chwyddiant.

Fy hun, rydym yn talu lot o drethi ond y rheswm does ganddym dim i'w ddangos amdano yw fod Blair yn mynnu rhoi'r pres tuag at taflegrynnau sy'n costio' gyfartalog £2,000 yr un. Rwan priant o bomiau sy'n cael eu gollwng?

Dwin talu tua £700 y flwyddyn ar yswiriant


Ma hwne'n rip-off! Dwi efo yswiriant am Audi A4 i mi, fy nhad a'm chwaer, a dwi ond newydd dechre gyrru ac yn 17, a ma hwne'c costio £800.

Nodyn: Prynwch Diesel. Ma nhw'n 40% effeithiol a petrol yn 30%, ac efo Diesel, fedri di ei redeg oddi ar olew llysiau.
Huw
Rhithffurf defnyddiwr
huwwaters
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2850
Ymunwyd: Gwe 30 Awst 2002 9:16 pm

Postiogan Cynog » Mer 12 Tach 2003 8:17 pm

Disgwilia di Huw nes dy fod digon hen i brynnu car! Man cosdio bom i chdi yswirio fo yn enw dy hun (Dim yn enw Dad) am y flwyddyn gynta fel dwi di neud. Mi eith o lawr ar ol blwyddyn yn sydyn iawn, ond am wan sgen im dewis.

Dwin gwbod bo fi'n slo ond swni byth yn gwario gymaint o bres os swni ddim yn gorfod.
:winc:
I know my own nation the best. That's why I despise it the most. And I know and love my own people too, the swine. I'm a patriot. A dangerous man.
-Edward Abbey

http://blogcynog.blogspot.com/
Rhithffurf defnyddiwr
Cynog
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 438
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 5:43 pm

Postiogan Al Jeek » Mer 12 Tach 2003 9:10 pm

huwwaters a ddywedodd:Ma hwne'n rip-off! Dwi efo yswiriant am Audi A4 i mi, fy nhad a'm chwaer, a dwi ond newydd dechre gyrru ac yn 17, a ma hwne'c costio £800.


Diom yn rip off o gwbl. Dyna faint ma inswirans yn gostio i ddyn ifanc gyda car ei hun.

Fysa fo llawer iawn mwy os na jyst chdi fysa yn defnyddio'r car ac yn talu am insiwrans. Mae'r cwmniau yswiriant yn cymeryd eich bod yn rhannu'r car, a felly yn cymeryd nad chdi sy'n ei yrru drwy'r amser. Mae gan dy dad a dy chwaer no claims mae'n siwr so mae'n llawer rhatach. Y rheswm mae eich yswiriant am yr audi gymaint a mae o yw fod chdi arna fo.
Fel ma Cynog yn ddweud, eith o lawr ar ol blwyddyn o no-claims (gobeithio fyddai dal yn "no-claims" de!).

Dwi efo insiwrans car efo Tesco (un o'r rhata sydd i'w gael, dwi di neud fy ngwaith cartra) am fy Peugot 306 LX 1.9D W-reg. Mae'n costio rhyw £700 y flwyddyn i mi yma yn Waunfawr. Os byswn i'n byw yng Nghaerdydd fysa fo ymhell dros fil o buna.
Al Jeek
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 651
Ymunwyd: Sul 27 Gor 2003 6:45 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Garnet Bowen » Iau 13 Tach 2003 9:20 am

RET79 a ddywedodd:Dwi ddim yn meddwl wnei di dynu pobl oddi ar y lon yn enwedig mewn ardaloedd gwledig. Ddim hyd yn oed yn y trefi dyddie yma gan mae'r siopau, sinemau gorau tu allan i'r trefi a ti angen car i fynd yno.

Os ti am siopio, chwarae golff, pigo dy date fyny, cario dy stwff pan ti'n symud fflat, cael annibyniaeth a mwy o ddewis yn dy fywyd yna rhaid i ti gael car.


Y pwynt ydi fod rhywun sy'n byw yn y dref yn medru byw heb gar. Ella bo chdi ddim yn medru mynd i'r cwrs golff, ond mi fedri di fyw dy fywyd bob dydd. Dwi'n byw mewn pentref bach yng Ngwynedd. Mae hi'n cymryd 20 munud i fi ddreifio i ngwaith bob dydd, ond fe fyddai rhaid dal 3 bws gwahanol i wneud yr un daith, a fe fyddai'n cymeryd tua awr a hanner.

Mae car yn angenrheidiol i drigolion y wlad, ac yn luxury i bobl y dref.

(Gyda llaw, 'da chi i gyd yn talu gormod am eich insiwrans. Mae gen i insiwrans fy hun ar Fiesta 1.1, a dwi'n talu llai na £300 y flwyddyn. )
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Cardi Bach » Iau 13 Tach 2003 10:40 am

difyr iawn.
Y cwbwl wy am gyfrannu'n hunan ar y foment yw fod adroddiad yn dangos ein bod ni yn talu fwy am betrol yng Ngheredigion nag unrhyw ran arall o Gymru (ac ymhlith y drytaf ym Mhrydain).

Mae adroddiad Castle Fuel Cards yn dangos cyfartaledd Dyfed am Liter o betrol fel - 78.01c, ond yng Ngheredigion mae e'n 83.1c (Trefdraeth gyda 75.7c y liter). Cyfartaledd Cymru yw 77.25c, a Phrydain yw 77.1. Yr Alban sydd a'r prysiau rhataf. Cyfartaledd Disel yma yw 78.7c (Cymru), ond yn yr Alban mae Liter o betrol yn 76.97c a disel yn 78.41c.

Mae pobol Ceredigion (ardal amcan 1) yn gorfod talu fwy am yr un cynnyrch a phobol... Caerdydd, dyweder. Odi hyn yn iawn?

Mae cynyddu treth i ardaloedd gwledig tlawd felly yn dreth ychwanegol ar y tlawd. Dylai fod yna wahaniaethu rhwng rheidrwydd y defnydd o dannwydd a'r defnydd o dannwydd fel rhywbeth dianghenrhaid.

Fi'n ffodus. Wy ddim yn dreifo, ond fi'n byw yn Aber - ma popeth sydd ishe arna i o fewn cerdded. Rili dylid addasu'r system fysus lleol yng ngefn gwlad i fod yn system o dacsis falle wedi ei sybsideiddio gan lywodraeth leol i fynd i lefydd fel Llangrannog a Phontgarreg ayb. Byddai hyn yn arbed ar ddisel trwm y bysus ac yn llawer mwy effeithiol.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai