RET79 a ddywedodd:Dwi ddim yn deall sut mae person sy'n byw yn y wlad fel ti o blaid y dreth yma sydd yn taro busnesau bach a ffermydd yn dy gymuned?
Y peth yw, dw i ddim yn gallu cofio syfyllfa ble dw i ddim wedi defnyddio fy nghar achos bod petrol yn rhy ddrud. Dw i'n defnyddio fy nghar achos does dim trafnidiaeth cyhoeddus (dau fws yr wythnos o Langrannog i Aberteifi) a dw i'n rhy ddiog (a rhagrithwr, fel pawb "ar y chwith") i gerdded y ddwy filltir i'r prif-ffordd, lle mae bws bob awr neu ddwy. Pan symudais i yma, doedd dim car 'da fi, ac o'n i'n defnyddio'r bws yn fwy, ac yn mynd ar gefn beic i fy ngwaith 5 milltir i ffordd. Gyda'r car, mae mwy o ddewisiadau 'da fi, ond dw i ddim yn well off yn ariannol, ac yn sicr dw i'n llai iach nag o'n i yn 1997.
RET79 a ddywedodd:Fedra i ddim gweld lle mae'r ddadl o'r amgylchedd yn ffitio hefo'r cefn gwlad pan mae'n dod i betrol gan fod y cefn gwlad ddim yn le hefo lot o lygredd... felly sut mae cyfiawnhau y dreth?
Mae petrol sy'n cael ei losgi yn y cefn gwlad yn creu yn union yr un fath o lygredd. Does dim "CO2 gwledig", ti'n gwybod
Ar daith o 10 milltir yn y cefn gwlad (fel dw i'n wneud i'r gwaith, er enghraifft) wyt ti'n tueddu defnyddio mwy o betrol (mwy o lygredd, felly) achos dy fod di'n gyrru ar lonydd bychain mewn ger isel.
Y her yw, nid i wneud e'n haws i bobl y cefn gwlad ddefnyddio eu ceir nhw, ond i newid y ffordd mae pobl ym mhobman yn meddwl am losgi tanwydd ffosil.
Jyst i fod yn glir, achos mod i'n gwybod bod RET yn ffeindio hyn yn annodd i'w credu, ond byddai'n well 'da fi fynd i'r gwaith ar y bws nag i ddefnyddio fy nghar. Ar hyn o bryd nid yw hynny'n bosibl, a na fyddai petrol rhatach ddim yn newid y sefyllfa honna. Ie, byddai mwy o arian 'da fi, ond dydy hynny ddim yn flaenoriaeth.