gan Gruff Goch » Iau 13 Tach 2003 6:31 pm
Fel Garnet Bowen, dwi'm yn siwr os mai trafnidiaeth gyhoeddus i gefn gwlad ydi'r ateb. Dwi'm yn gweld ceisio ateb dinesig/trefol i broblem cefn-gwlad yn rhywbeth synhwyrol. Heb fod yno ddigon o boblogaeth mewn un lle, dydi darparu gwasanaeth trenau/bysys llawn ddim yn gwneud synnwyr yn economaidd nac ychwaith yn amgylcheddol.
Heb ddarpariaeth lawn mae'r rhan fwyaf o drigolion cefn-gwlad yn mynd i droi at gysur, preifatrwydd a rhyddid eu ceir gan fod rhain yn bethau y mae pobl yn barod i dalu amdanynt.
A dyna lle dydw i ddim yn rhyw fodlon iawn ar y trethi dwi'n ei dalu fel rhywun sy'n berchen car. Dwi'm yn gweld fod yr arian dwi'n ei dalu i mewn i goffrau'r llywodraeth fel cosb am y llygredd mae fy nghar i'n ei greu yn mynd i ddarparu dewis arall i bobl cefn gwlad fydd yn gadael i yrrwyr gadw'u cysur, preifatrwydd a'r rhyddid i allu mynd i le o'u dewis, pryd mae nhw'n dewis.
I fod yn onest dwi'n meddwl mai ceir bach rhad ac ysgafn sy'n rhedeg ar danwydd amgylcheddol-gyfeillgar ac sy'n amgylcheddol gyfeillgar i'w cynhyrchu a'u cynnal ydi'r ateb. Dyna lle hoffwn i weld fy nhrethi i'n cael ei wario, nid ar sybsideiddio ehangu'r 'commuter belt yn Ne-ddwyrain Lloegr, fel sydd i weld yn digwydd ar y foment.
Wedi dweud hynny, dwi'n meddwl y dylwn ni fod yn ail-edrych ar ein patrwm byw/gweithio. Erbyn hyn, does dim angen i ni i gyd fod yn gweithio mewn canolfannau canolog, gan gymudo yno o'r cyrion. Dwi'n byw mewn pentre bach o tua 150 o dai, a'r unig gyflogaeth yno ydi un ddynes Swyddfa Bost a'r athrawon a'r staff yn yr Ysgol Gynradd; mae pawb araal yn cymudo i'r gwaith ym Mangor/Caernarfon a.y.b.
Beth am ddod a gwaith i'r pentref, fel nad oes rhaid gwastraffu arian, amser na'r amgylchedd yn mynd a dod? Fel y mae hi ar y funud does yna ddim hyd yn oed Band-llydan (na chynlluniau i'w osod)yma, a dim ond bws anghyffyrddus bob 2 awr sy'n teithio ar hyd lonydd cefn troellog ac yn cymryd bron i ddwywaith cymaint a'r taith mewn car. Dim rhyfedd fod pawb yn cadw at eu ceir...
[Wedi golygu hwn er mwyn i rai brawddegau wneud sens. Roedd hi'n hwyr...]