Railcards

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Railcards

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 18 Tach 2003 1:06 am

Dwi'm yn gyrru car.
Dwi bron yn dod at derfyn yr oedd lle gallai gael railcard pobol ifanc (di hyn yn feddwl bo fi'n hen?...)

Os dwi ddim yn dreifio car ac drwy neud hyn yn lleihau congestion a llygredd pam ddylswn i orfod talu crocbris am ddefnyddio tren. Dwi'n meddwl ddylsa pobol sydd heb geir gael disgownt ar eu teithio tren oherwydd eu bod yn lleihau traffig, ac felly'n lleihau gwariant ar ffyrdd a lleihau llygru. Tasa hyn yn digwydd fasa na lot mwy o bobol yn defnyddio tren ac felly'n dileu y golled fasa'r gwasanaeth yn neud o'r disgownt...

Cytuno neu anghytuno?
Dwi'n jest winjo am bo fi ddim yn cael disgownt rhagor ne sgennai bwynt?
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Re: Railcards

Postiogan dafydd » Maw 18 Tach 2003 1:49 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dwi'm yn gyrru car.
Dwi bron yn dod at derfyn yr oedd lle gallai gael railcard pobol ifanc (di hyn yn feddwl bo fi'n hen?...)


Oes nad oes gen ti gar sdim rhaid i ti dalu treth ar betrol na treth ffordd na yswiriant car na talu mecanics i drwsio'r peth. A mi wyt ti deg gwaith llai tebygol o gael damwain tra'n teithio..

Yn anffodus dwi'n credu fod pob ffordd o drafnidiaeth yn ddrud ym Mhrydain.
Y bws yw'r rhataf am siwrneiau hir, wedyn y tren, wedyn awyren (weithiau).

Dwi'n gwneud siwrneiau byr, rheolaidd ar y tren felly mae tocyn tymor yn gweithio allan yn rhad iawn (8 bunt yr wythnos).
Rhithffurf defnyddiwr
dafydd
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2146
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 12:21 pm
Lleoliad: Anfeidredd

Re: Railcards

Postiogan Barbarella » Maw 18 Tach 2003 8:36 am

Rhodri Nwdls a ddywedodd:Dwi bron yn dod at derfyn yr oedd lle gallai gael railcard pobol ifanc (di hyn yn feddwl bo fi'n hen?...)

Dy nhw ddim yn neud e'n amlwg iawn, ond ti'n gallu cael cerdyn pobl ifanc am lot hirach na ti'n feddwl... Nes bod ti bron yn 27!

I gael y cerdyn rhaid i ti fod yn 25 neu'n iau - ond ma gen ti bob hawl i adnewyddu dy gerdyn ar y diwrnod cyn dy benblwydd yn 26 ac mi fydd yn ddilys am flwyddyn arall.

Felly bach mwy o amser cyn i ti orfod poeni!
Rhithffurf defnyddiwr
Barbarella
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2289
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 3:15 pm
Lleoliad: Gyda'r gogs

Postiogan jimkillock » Maw 18 Tach 2003 4:49 pm

Sdim terfyn ar dy oed os myfyriwr wyt ti - felly, beth am ymuno cwrs dysgu Cymraeg?
(dim sylwi ar dy Gymraeg - ond awgrymu sgam;-) )
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan RET79 » Maw 18 Tach 2003 5:52 pm

Un o'r rhesymau wnes i brynu car oedd pan wnaf daro 25 mewn deufis fydd gen i ddim railcard felly bydd teithio ar trenau yn fwy drud na petrol mewn car.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan jimkillock » Llun 24 Tach 2003 3:54 pm

RET79 a ddywedodd:Un o'r rhesymau wnes i brynu car oedd pan wnaf daro 25 mewn deufis fydd gen i ddim railcard felly bydd teithio ar trenau yn fwy drud na petrol mewn car.

Duw rhywbeth synhwyrol RET.

felly, ers mae'r rheilffyrdd mewn dwylo prefiat, sut allwn ni leihau cost teithio ar y trên?
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai