Methyl Bromide

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Methyl Bromide

Postiogan Owain Llwyd » Mer 19 Tach 2003 9:46 am

Rheswm arall dros i ni i gyd fod yn ddiolchgar am y dylanwad iachusol mae gweinyddiaeth Bush yn ei gael ar y byd. Mae'r ffasiwn weledigaeth anghyffredin yn gwneud i rywun deimlo'n ostyngedig iawn.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan mred » Sad 22 Tach 2003 2:31 pm

Pwynt gwamal ella. Ond onid y stori yn yr Omen/Damien ayb. ydi bod mab (ymddangosiadol) i wleidydd amlwg yn ceisio creu dinistr ac uffern ar y ddaear er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad a theyrnasiad y Diafol?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Owain Llwyd » Sad 22 Tach 2003 3:50 pm

mred a ddywedodd:Pwynt gwamal ella. Ond onid y stori yn yr Omen/Damien ayb. ydi bod mab (ymddangosiadol) i wleidydd amlwg yn ceisio creu dinistr ac uffern ar y ddaear er mwyn paratoi ar gyfer dyfodiad a theyrnasiad y Diafol?


Ai, pwynt gwamal ella. Ond mi fydd 'nychymyg inna yn crwydro i feysydd tebyg ar adegau hefyd. Mae rhyw ddylanwadau tywyll ofnadwy y tu nol i wneud i bobl erfyn am weld peri dinistr a dioddefaint yn enw rhyddid a gwynfyd i'r holl bobloedd. Angylion tywyllwch yn cymeryd arnyn nhw fod yn angylion goleuni a hynna i gyd. A minnau'n agnostig hefyd. Ar fy ngwir. :ofn:
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Marwolaeth » Sad 22 Tach 2003 4:13 pm

Dyw denydd Methyl Bromide ddim yn deg ar y gwledydd hynny sydd wedi rhoi'r gorau i ddistrywio'r ozone.

Nid uffern ar y ddear a ddeith o hyn, ond efallai llai o sgarffiau yn cael ei gwerthu geaf 2018. Yn lwcus, tydw i ddim yn llosgi yn yr haul.
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan Owain Llwyd » Sad 22 Tach 2003 5:42 pm

Marwolaeth a ddywedodd:Dyw denydd Methyl Bromide ddim yn deg ar y gwledydd hynny sydd wedi rhoi'r gorau i ddistrywio'r ozone.

Nid uffern ar y ddear a ddeith o hyn, ond efallai llai o sgarffiau yn cael ei gwerthu geaf 2018. Yn lwcus, tydw i ddim yn llosgi yn yr haul.


Ia, dwyt ti ddim yn llosgi yn yr haul achos bod effeithiau'r ymbelydredd yn cael eu lleihau'n reit sylweddol gan yr haenen oson.

Academi Gwyddoniaeth Awstralia a ddywedodd:Even a 1 per cent reduction in the amount of ozone in the upper atmosphere causes a measurable increase in the ultraviolet radiation that reaches the Earth's surface. If there was no ozone at all, the amount of ultraviolet radiation reaching us would be catastrophically high. All living things would suffer radiation burns, unless they were underground, in protective suits, or in the sea.


Felly, tydi sgarffiau ddim yma nag acw, mewn gwirionedd.

Wedyn mae gen ti'r effeithiau ar blanhigion a phlanctonau a'r ffasiwn sylfeini i'r gadwyn fwyd. Ac os ydi'r rheina'n marw mae cwestiynau difyr eraill yn codi am lefelau diocsid carbon yr yr awyrgylch. Hei ho.

Ella nid uffern ar y ddaear, ond, os ydi prosesau bywyd yn dechrau dilyn y trywydd yna, dw i ddim isio bod yma i weld y canlyniadau.
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug

Postiogan Marwolaeth » Sad 22 Tach 2003 6:34 pm

Academi Gwyddoniaeth Awstralia a ddywedodd:All living things would suffer radiation burns,


Tydw i ddim yn disgyn i mewn i'r categori yma.

Owain Llwyd a ddywedodd:Ella nid uffern ar y ddaear, ond, os ydi prosesau bywyd yn dechrau dilyn y trywydd yna, dw i ddim isio bod yma i weld y canlyniadau.


Y cwestiwn sydd rhaid i America ofyn i nhw ei hunain ydi faint o amser sydd ar gael cyn bod rhaid iddyn nhw dechrau meddwl am yr amgylchedd yn lle pres.

Yr unig beth mae Bush wedi gwneud dros yr amgylchedd yw, fel y dwed Fox News: "A few photos of him in the Everglades."

BBC a ddywedodd:Methyl bromide is used to kill agricultural pests, and US farmers argue there is no effective alternative.


Beth felly mae ffermwyr y gwledydd sydd wedi cytuno i beidio defnyddio methyl bromide yn ei ddefnyddio?
Fin nos, fan hyn
Lladdwyd Llywelyn.
Fyth nid anghofiaf hyn.
Rhithffurf defnyddiwr
Marwolaeth
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 52
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 1:04 am
Lleoliad: Ymhobman

Postiogan mred » Sad 22 Tach 2003 8:59 pm

Chydig oddi ar y pwnc, ond mae damcaniaeth hefyd y bydd newid hinsawdd, yn groes i'r disgwyl, yn achosi i ni gael gaeafau fel Alaska a Gogledd Canada. Llif y Gwlff, yn ol y ddamcaniaeth beth bynnag, sy'n sicrhau nad ydi'r tywydd yng Gorllewin Ewrop yn debyg i hinsawdd oer ardaloedd eraill yr un pellter o'r cyhydedd.

Ond mae'r holl rew sy'n dadmer yn yr Arctig o ganlyniad i wresogi byd-eang yn effeithio ar halltedd y mor, a'r halltedd hwn yn hanfodol os ydi'r dwr i suddo ym mhen gogleddol cylchdro'r Llif.

Damcaniaeth oedd hon tan yn ddiweddar, ond maent yn dechrau medru mesur y newidiadau, y llif yn arafu ayb. Ac yn ol cofnodion mewn haenau rhew o dymheredd ac halltedd y mor yn y gorffenol, gall y newidiadau yma - o dywydd mwyn i dywydd arctig - ddigwydd yn ddisymwth.

Ond mae damcaniaeth arall yn awgrymu NAD Llif y Gwlff sy'n gyfrifol am ein hinsawdd tymherus, ond yn hytrach patrwm llifeiriant gwyntoedd byd-eang, gyda gwyntoedd cynnes yn cael eu dargyfeirio ar draws Mor yr Iwerydd gan, os dwi'n cofio'n iawn, y Rockies. Ffugwyddoniaeth adweithiol y cwmniau olew neu ddim?

Dim rhaid i'n ffermwyr mynydd ddechrau meddwl am adeiladu canolfannau sgio eto, felly.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Owain Llwyd » Sul 23 Tach 2003 3:57 pm

Marwolaeth a ddywedodd:
BBC a ddywedodd:Methyl bromide is used to kill agricultural pests, and US farmers argue there is no effective alternative.


Beth felly mae ffermwyr y gwledydd sydd wedi cytuno i beidio defnyddio methyl bromide yn ei ddefnyddio?


Dw i ddim yn arbenigwr am hyn, ond, hyd y gwela i, glanhau'r pridd cyn plannu ydi nod defnyddio methyl bromide. Ella bod y pwysau economaidd i ffermwyr dyfu un math o gnwd yn barhaus yn peri rhai o'r problemau sy'n cael eu datrys efo methyl bromide (mae cylchdroi cnydau o'r naill flwyddyn i'r llall yn fodd i osgoi cronni pryfed a heintiau a ballu yn y pridd, felly dydi glanhau'r pridd ddim yn angenrheidiol fel y cyfryw) a byddai ailfabwysiadu'r hen dechnegau call yn ateb i hyn.

Mae technegau eraill yn cael eu datblygu, ond mae'r rheina yn defnyddio petha fatha plastig a diocsid carbon i buro'r pridd, felly mwy o fflipin lygredd afraid. :?
Rhithffurf defnyddiwr
Owain Llwyd
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 335
Ymunwyd: Gwe 09 Mai 2003 9:50 am
Lleoliad: Llanrug


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai