Cymedrolwr: Dili Minllyn
Wyt ti o ddifrif? Dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi gwneud y daith o Gaernarfod i Gaerdydd mewn llai na 4 awr, ac yn aml iawn mae hi'n medru bod yn agos at 5.
Hedd Gwynfor a ddywedodd:Rhaid ail agor y rheilffordd rhwng Caerfyrddin a Aberystwyth! Fi'n timlo'n gryf iawn am hyn, rhywyn arall ishe helpu trefnu ymgyrch? Odd yr hen rheilffordd yn mynd reit tu ol ti fy rhieni. Yn wir roedd ein sieds ni yn rhan o'r Orsaf! Y peth gwaethaf oedd fod y stretch rhwng Caerfyrddin a Aber yn gwneud llawer o elw! On i'n siarad gyda un o brothorion Pantycelyn blynyddoedd yn ol, ac odd e wedi bod yn gwneud ymchwil i'r llywodraeth yn ystod i'r 80au i'r posibilrwydd o'i ail agor. Rodd e'n ei weld yn bosibiliad - er yn amlwg byddai angen i'r tren newid ei ffordd rhyw ychydig - mae tai ar y trac tu ol i dy fy rhieni erbyn hyn.
O beth i fi'n deall mae modd mynd ar dren o Aber wedyn i Fangor, jest bod angen mynd ar dren bach, ydy hyn yn iawn? Byddai tren cyflym o Gaerdydd i Fangor yn wych. Efallai yn aros stopio yn y mannau yma'n unig - Caerdydd > Abertawe > Caerfyrddin > Llanbed > Aberystwyth > Caernarfon > Bangor
Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 26 gwestai