Ma honna i weld yn un anodd.
Tra ar yr un llaw, yn y tymor byr (20 mlynedd dyweder) ma ymestyn yr hewl o'r de i'r gogledd i weld fel opsiwn da - byddai'n golygu cyswllt haws ar gyfer buddsoddi mewn ardaloedd gwledig, yn enwedig yng Nghanolbarth Cymru, haws cario 'bulk' i ganolfannau llai, cyswllt gwaith haws, h.y. i bob pwrpas bydd yn datblygu'r economi - ar y llaw arall, wrth wneud hyn, bron yn anochel ddywedwn i, bydd angen ymestyn yr hewl ymhellach mewn ugain mlynedd i gynnal y tyfiant. Yn y tymor hir felly, nid yn unig fod hyn dipyn yn waeth i'r amgylchedd, ond y gwir yw y bydd hi'n haws 'comiwto' I Gaerdydd a Chasnewydd a'r De Ddwyrain o lefydd fel Aberhonddu, - ai llesol i economi gwledig canolbarth Cymru fyddai hyn? Fi'n amau - yn y bon atgyfnerthu economi'r de ddwyrain fyddai hyn yn wneud. Gan fod Caerdydd yn ganolfan siopa i bobl o bob cwr o Dde/Gorllewin/Canolbarth Cymru bellach, byddai hyn yn golygu fwy o siopwyr yno a mwy o arian yn mynd i'r economi yno, ac allan o economi y llefydd tlotach - sydd yn 'cownter-prodyctif' wrth gwrs.
Ar y foment hon mewn amser, fi'n dueddol o gydymdeimlo fwy gyda'r syniad o ail agor y rheilffyrdd, a sicrhau fod tren cyson yn mynd o Gaerdydd i Aber i Fangor fydd yn cario bylc, ac yn cymryd ddim fwy na 5 stop ar y daith. Golyga hyn dren cyson i Fangor o Gaerdydd fydd yn cymryd rhai oriau yn unig. wrth gwrs dyw hyn ddim yn realistig eto - dyw'r rhwydwaith ddim yn bodoli - ond dyna'r math o beth sydd angen (weden i nawr)