Cymedrolwr: Dili Minllyn
Garnet Bowen a ddywedodd:Wyt ti o ddifrif? Dwi ddim yn meddwl mod i erioed wedi gwneud y daith o Gaernarfod i Gaerdydd mewn llai na 4 awr, ac yn aml iawn mae hi'n medru bod yn agos at 5.
Dwi'n ail-ddeud fy hun rwan, ond mater o hunaniaeth Gymraeg ydi datblygu'r A470. Byddai hi'n haws teithio rhwng Caerdydd, ein brifddinas, a'r fro Gymraeg draddodiadol. Byddai hyn yn ei gwneud hi'n ymarferol i ni ddatganoli rhagor o'r gwasanaethau cyhoeddus i fyny i'r gogledd a'r gorllewin.
Boris a ddywedodd:Duw, Duw. Be di dy gar di Garnet?
Boris a ddywedodd:Onid arwydd gwych o hunaniaeth Cymru fyddai datganiad o wrthwynebiad i chwalu prydferthwch cefn gwlad trwy yrru 'dual carrigeway' trwy ardaloedd o harddwch naturiol?
Garnet Bowen a ddywedodd:Fiesta 1.1. Dwi'n cael traffarth mynd heibio i feics, heb son am geir erill.
Unwaith dwi'n sownd tu ol i un o loris Mansel Davies, ma hi 'di cachu arna fi wedyn am filltiroedd.
Dwi'm yn meddwl bysa fo'n gneud gormod o niwed i amgylchedd y wlad, a beth bynnag, dwi'n dueddol o deimlo fod gwasanaethu anghenion ymarferol pobol yn bwysicach na chadw Cymru yn ddel.
Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai