Ddylid gwahardd hela?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylid gwahardd hela yng Nghymru?

Dylid
14
47%
Na
16
53%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 30

Postiogan nicdafis » Llun 05 Ion 2004 2:18 pm

A 'set ti'n gweld criw o ddynion ifanc yn ymosod ar ferch (dwyt ti ddim yn ei nabod) yn y stryd?

Mae cyfrifoldeb unigolyn yn ymestyn tu hwnt i'w (h)eiddo ei hun, siwrli?
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Mr Gasyth » Llun 05 Ion 2004 6:09 pm

wow, am drafodaeth, ond Garnet a mred dwi'n meddwl eich bod chi'n gor-gymhlethu pethau braidd. Mae o lot symlach na da chi'n feddwl:

Ydy llwynogod yn lladd wyn, ieir ac anifeiliad fferm eraill? Ydyn
A ddylid felly eu rheoli? Wrth gwrs fod, maent yn effeithio ar fywoliaeth ffermwyr ac ar allu pawb arall i gael sosij a chips i swper.
P'run yw'r ffordd orau a llai creulon i'w rheoli? Does dim cytundeb ar hyn, ond death adroddiad Burns (a gomisiynwyd gan y llywodraeth) i'r casgliad nad oedd prwaf fod hela a chwn yn fwy creulon nag unrhyw ddull arall o'u rheoli.
Pam felly gwahardd hela? Rhagfarn bur a dim arall.Os mai creulondeb yw'r ddadl rhaid gwahardd pob dull o reoli llwynogod a phob anifail arall fel trapiau llygod a'r pethe stici ne sy'n dal pryfaid, a physgota wrth gwrs. Oes unrhywun yma'n barod i ddadlau dros wahardd y pethau yma, ynteu ydyn nhw'n ok achos nad oes ganddyn nhw 'image problem' fel sydd gan hela?
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan Garnet Bowen » Maw 06 Ion 2004 8:53 am

nicdafis a ddywedodd:A 'set ti'n gweld criw o ddynion ifanc yn ymosod ar ferch (dwyt ti ddim yn ei nabod) yn y stryd?

Mae cyfrifoldeb unigolyn yn ymestyn tu hwnt i'w (h)eiddo ei hun, siwrli?


Mae hynny'n fater hollol wahanol. Person o gig a gwaed ydi merch, a dyna dwi'n drio ei bwysleisio yn fama - fod pobol yn arbennig, ac yn haeddu cael eu hamddiffyn mewn ffordd wahanol i anifeiliaid.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Garnet Bowen » Maw 06 Ion 2004 8:56 am

Aled a ddywedodd:Pam felly gwahardd hela? Rhagfarn bur a dim arall.Os mai creulondeb yw'r ddadl rhaid gwahardd pob dull o reoli llwynogod a phob anifail arall fel trapiau llygod a'r pethe stici ne sy'n dal pryfaid, a physgota wrth gwrs. Oes unrhywun yma'n barod i ddadlau dros wahardd y pethau yma, ynteu ydyn nhw'n ok achos nad oes ganddyn nhw 'image problem' fel sydd gan hela?


Dyma ydi'r union ddadl dwi'n ei gwneud. Os ydi rhywun eisiau cefnogi hawliau anifeiliaid, yna digon teg. Ond byddwch yn gyson - mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cwyno am hela llwynogod yn berffaith fodlon lladd ac arteithio pob math o anifeiliaid eraill, o wartheg i bryfaid cop.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 19 gwestai