Ddylid gwahardd hela?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

A ddylid gwahardd hela yng Nghymru?

Dylid
14
47%
Na
16
53%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 30

Postiogan Garnet Bowen » Gwe 12 Rhag 2003 2:10 pm

Difyr iawn (ac eithaf dwys - mae'n mhen i'n brifo ar ol ei darllen hi). Dyma hi i unrhywun sydd a diddordeb.

http://www.newhumanist.org.uk/currentis ... 77_0_8_0_C

Diolch, Owain.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Chris Castle » Gwe 12 Rhag 2003 2:28 pm

Dyw lladd pob cadno ddim yn rheolu poblogaeth cadnawon.
Vermin ydyn nhw weithiau - cymryd oen, ieir ac ati. Ond weithiau maen nhw'n ddefnyddiol - cadw cwningod i lawr ayyb.

Mae hela yn ffordd da o gadw rheolaeth arnyn nhw.

Er fy mod i'n meddwl mae sawl yn farbaraidd am fwynhau gweld anifeiliaid yn lladd anifeiliaid erill, nid reswm dros ei gwahardd yw hynny pryd mae angen drosti.
Rhithffurf defnyddiwr
Chris Castle
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 837
Ymunwyd: Sul 29 Medi 2002 9:15 am

Postiogan mred » Sad 13 Rhag 2003 1:49 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:
mred a ddywedodd: Mi fuaswn i'n cyffelybu ymddygiad presennol dyn, yng nghyd-destun ei amgylchedd, i gancr anymwybyddol/anddirnadol sy'n tyfu'n ddireolaeth, yn y man yn lladd ei gynhaliwr, ac yna'n marw ei hyn. h.y. ymhell o fod yn uwchraddol i rywogaethau eraill, ac yn sicr ddim yn haeddiannol o swyddogaeth gofalwr ar Natur.


Wrth gwrs, tydi ymddygiad dyn tuag at ei amgylchedd ddim yn berffaith, ond mae ymhell o fod yn gancr. Mae gen ti lawer iawn o bobl, tu fewn a thu allan i fyd llywodraeth, sy'n ymdrechu i leihau'r niwed yr ydym ni'n ei wneud i'r amgylchedd. Ac yn sicr, mae'r syniad o ddatblygu cynaladwy wedi llamu ymlaen yn ystos yr hanner can mlynedd ddwytha. Pwy a wyr be fydd wedi digwydd yn yr hanner can mlynedd nesaf?
Sôn ydw i am ymddygiad dynoliaeth yn ei grynswth, a'r strwythurau economaidd ayb. a grewyd ganddo, sy'n ddiymwad yn dinistrio'r biosffêr yr eiliad hwn mewn modd anghynaliadwy a mesuradwy . Dydi'r ffaith bod unigolion goleuedig - na llywodraethau goleuedig (byrhoedlog ddigon tebyg oherwydd nad ydynt yn bodloni blaenoriaethau byr-dymoraidd y pleidleiswyr - sylwer beth ddigwyddodd i agenda werdd wreiddiol Blair) - ddim yma nac acw (yn anffodus!), neu ni fyddai'r hyn sy'n digwydd yn digwydd.

Garnet Bowen a ddywedodd:
mred a ddywedodd:O ran pysgota/hela llwynogod, mae gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ddau weithgaredd - h.y.un yn darparu bwyd, a'r llall yn weithgaredd nad yw'n cyflawni ei swyddogaeth honedig - h.y.lladd er mwyn lladd ydi hela llwynogod.


Mater o farn ydi hynnu. Tydi'r un ochor wedi llwyddo i brofi yn ddi-amheuaeth os ydi hela yn greulon neu peidio. Ond mae hi'n anghywir deud mai "lladd er mwyn lladd" ydi hela. Mae 'na bwrpas pendant i ladd y llwynog, toes na'm dadl dros hynny. Y ddadl ydi sut wyt ti'n mynd o'i chwmpas hi, a phwy sydd yn gyfrifol am ddewis y modd mae hyn yn digwydd - yr unigolyn, ta'r llywodraeth?
Os edrychi di uchod, mi rydwi'n dadlau nad ydi hela llwynogod fel y cyfryw yn debygol o fod ar raddfa ddigon mawr i gael unrhyw effaith ar boblogaeth gyffredinol llwynogod; ac fel y soniwyd gan gyfrannwr, mae rhai helfeydd yn magu llwynogod, sy'n chwalu'r cyfiawnhad mai rheoli llwynogod ydi bwriad hela.

Mae'r wybodaeth ydw'i wedi'i ganfod am gynnyrch sy'n fegan fel tithau wedi dod ar hap fel petai. Dwi'm yn mynd i Tesco - does gynna i ddim car! :winc: Mae'n bosib iawn petai gennyf yr amser, yr adnoddau, yr arian a'r cludiant i brynu a chyrchu'r nwyddau, cyfeillion fyddai'n fodlon mynychu dewis cyfyng iawn o lefydd o bosib lle mae'r cynnyrch fegan ar gael, y byddai modd mynd yn fwy fegan nag ydw i. Ond wedyn mae ystyriaethau eraill yn codi, ynglŷn â chefnodi corfforaethau, hawliau gweithwyr, fy marn i ar greu economïau lleol yn hytrach na globaleiddio, ffermio cnydau gor-ddwys a'i effaith ar natur, ayb. ayb.

Hefyd er enghraifft mi ydw i wedi bwyta cig nifer o weithiau drwy ddamwain yn ystod y 9 mlynedd diwethaf. Sut mae amgylchiadau na ellir eu hosgoi felly'n effeithio ar statws unrhyw lysieuydd neu fegan? Mae'n cefnogi fy nadl mai pragmatiaeth a cheisio lleihau defnydd ar ôl-gynnyrch anifeiliaid, nid ceisio am ryw amcan anghyraeddadwy, sy'n ymarferol yn y byd go iawn. Mae'n well gynna i'r syniad o athroniaeth gyfannol tuag at ymwneud dyn â natur, a'i safle o fewn cadwynau bywyd, nad ydi hi'n cael ei chyfyngu gan ofynion gwisgo bathodyn penodol, lle bo rhai o'r 'rheolau' caeth braidd yn amherthnasol yn fy marn i.

Prun bynnag, dipyn o sgwarnog ydi hyn yng nghyd-destun dioddefaint anifeiliaid. Byddai feganiaeth yn caniatáu bwyta cynnyrch cnydau - am wn i - a dyfwyd mewn dulliau cwbl anghynaliadwy o ran byd natur, a chyda effeithiau difaol ar boblogaethau bywyd gwyllt. O'r tu arall, byddai'n fy rhwystro er enghraifft rhag yfed llefrith fy ngafr yn byw yn hapus i'w llawn hoedran yng ngwaelod yr ardd.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan ceribethlem » Maw 16 Rhag 2003 1:40 pm

Mae'n ddiddorol fod y drafodaeth yma wedi datblygu i drafod cyfiawnhad hela ai peidio, ac yn wir i ddyfynnu Garnet:
Mae'r mwyafrif o'r aelodau llafur ar y funud yn son am wahardd hela llwynog, nid ei reoli.

Mewn gwirionedd yr hyn mae'r bil gan y llywodraeth am ei wneud yw gwahardd hela gyda chwn yn hytrach na gwahardd hela yn gyfan gwbl.
Fel brodor o gefn gwlad Cymru dwi ddim yn gweld fod y system o hela cadno gyda ceffylau a chwn yn un effeithiol nac anghenrheidiol. Fel soniwyd yn gynt (Ramirez?) mae ambell ardal o Gymru yn magu cadnoed er mwyn eu hela. Mae'n rhaid fod hyn yn beth anfoesol i'w wneud.
Lladd y cadnoed sy'n peri problem sydd ei angen, nid lladd cadnoed (a nifer o anifeiliaid anwes) er mwyn sbort.
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Garnet Bowen » Maw 16 Rhag 2003 2:05 pm

ceribethlem a ddywedodd:Fel soniwyd yn gynt mae ambell ardal o Gymru yn magu cadnoed er mwyn eu hela. Mae'n rhaid fod hyn yn beth anfoesol i'w wneud.


Mae moesoldeb yn rhywbeth hollol bersonol, a fy nadl i ydi nad oes gan unrhyw lywodraeth fusnes yn ymyryd ym mywydau personol pobl.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan ceribethlem » Mer 17 Rhag 2003 11:38 am

fy nadl i ydi nad oes gan unrhyw lywodraeth fusnes yn ymyryd ym mywydau personol pobl.


Sori i fynd off y pwnc braidd fan hyn, ond oni ellir dadlau fod llywodraethau yn ol eu natur yn gorfod ymyryd ym mywydau personol pobl?
Cymer treth fel enghraifft, pe na bai llywodraethau yn ymyryd yn fy mywyd personol i yna ni byddent yn fy nhrethi ac yna mi fyddwn i'n fwy cyfoethog!
Nonsens
ceribethlem
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 4530
Ymunwyd: Gwe 11 Hyd 2002 10:22 pm
Lleoliad: mynydd du

Postiogan Garnet Bowen » Mer 17 Rhag 2003 11:58 am

ceribethlem a ddywedodd:Oni ellir dadlau fod llywodraethau yn ol eu natur yn gorfod ymyryd ym mywydau personol pobl?
Cymer treth fel enghraifft, pe na bai llywodraethau yn ymyryd yn fy mywyd personol i yna ni byddent yn fy nhrethi ac yna mi fyddwn i'n fwy cyfoethog!


Mi wyt ti'n berffaith rydd i beidio talu trethi, os wyt ti'n fodlon byw heb fanteision llywodraeth. Ti ddim ishio talu treth cyngor? Paid a prynnu ty. Ti ddim ishio talu treth incwm? Paid a chael swydd.

Mae gen ti berffaith ryddid i fyw mewn pabell ar damaid o dir comin, yn yfed dwr yr afon ac yn byw ar fwyar duon. Ond, os wyt ti ishio defnyddio gwasanaethau'r wladwriaeth - Y ffyrdd ti'n gyrru arnyn nhw, yr heddlu sy'n gwarantu dy fod yn saff, yr addysg sydd wedi sicrhau dy fod ti wedi medru cael swydd, a'r ysbytai sy'n dy wella di pan ti'n sal - yna mae'n rhaid i ti gyfrannu rhywbeth at y gost o'u cynnal nhw.

Wrth gwrs, os wyt ti'n gwrthwynebu i'r holl system yma, yna fe fedri di sefydlu plaid wleidyddol liberatarian neu anarchaidd, ymladd etholiad, ei henill, a dechrau ar broses o ddatgymalu'r wladwriaeth. Wedyn mi fyddwn ni i gyd yn byw mewn gwlad lle mae pawb yn talu yn uniongyrchol am yr hyn mae nhw'n eu defnyddio.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

Postiogan Dylan » Sad 20 Rhag 2003 6:34 am

Garnet Bowen a ddywedodd:Wedyn mi fyddwn ni i gyd yn byw mewn gwlad lle mae pawb yn talu yn uniongyrchol am yr hyn mae nhw'n eu defnyddio.


Neo-liberal a cheidwadol iawn ohonot ti. ;)

fel 'dw i wedi dweud eisoes, 'dw i'n synnu at y sylw y mae'r ddadl yma yn ei gael yn y wasg ac yn yr arena wleidyddol yn gyffredinol. Ond mae'r edefyn yma'n neilltuol o ddiddorol ac yn codi nifer o gwestiynnau athronyddol a moesol. Beth yn union ydi ein perthynas ni ag anifeiliaid?

'Dw i'n cyfaddef bod rhagfarn yn dylanwadu ar fy marn i ar y mater. Mae'r syniad o lwyth o bobl weddol gyfoethog mewn siwitiau coch yn reidio ceffylau tra yn gweiddi 'wooooop' braidd yn chwerthinllyd. 'Dw i'n ildio bod hwn yn dipyn o ystrydeb, a braidd yn anheg. Ond hyd yn oed wedyn, alla i ddim gweld pa mor effeithiol ydi hela â chwn yn y bôn. Fel a ddywedir eisoes, mae cadnoed yn cael eu cenhedlu yn fwriadol mewn rhai llefydd a mae hynny ynddo'i hun yn awgrymu nad ydyw'r broblem o'u herwydd mor ddifrifol â hynny.

Ond ta waeth. Fel 'rydw i wedi dweud eisoes, 'dw i ddim yn poeni llawer am y mater.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Lowri Fflur » Mer 24 Rhag 2003 3:01 am

Garnet Bowen a ddywedodd:
Ond, mae 'na egwyddor rhyddfrydol cryf yn sail i'n cymdeithas ni, ac mi ydw i'n meddwl fod hwnw yn bwysicach na'r hen lwynog bach sy'n cael ei gamdrin. Mae'r egwyddor hwnw'n dweud fod pobl yn rhydd i wneud fel y mynno nhw, cyn belled ac ei bod nhw ddim yn niweidio pobol eraill.


Felly ti' n deud cyn belled a bod chdi ddim yn niweidio POBL mai' n iawn. Gyna chdi anifeiliad anwes, ci? neu cath? Os mae gen ti sa chdi' m yn meindio i fi ddod i nol dy anifael anwes a mynd a fo adra efo fi a totro fo am ychydig o oriau achos egwyddor rhydfrydol byddai hyn yn de? :crechwen: :drwg:
Rhithffurf defnyddiwr
Lowri Fflur
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1296
Ymunwyd: Sul 30 Tach 2003 10:07 pm
Lleoliad: Caernarfon

Postiogan Garnet Bowen » Llun 05 Ion 2004 12:45 pm

lowri larsen a ddywedodd:Felly ti' n deud cyn belled a bod chdi ddim yn niweidio POBL mai' n iawn. Gyna chdi anifeiliad anwes, ci? neu cath? Os mae gen ti sa chdi' m yn meindio i fi ddod i nol dy anifael anwes a mynd a fo adra efo fi a totro fo am ychydig o oriau achos egwyddor rhydfrydol byddai hyn yn de? :crechwen: :drwg:


Mi fyswn i fel unigolyn yn dy rwystro di rhag niwedio fy anifail anwes yn yr un modd ac y byswn i'n dy rwystro di rhag malu fy nghar - gan mai fy eiddo i fyddai'r anifail hwnw.
Rhithffurf defnyddiwr
Garnet Bowen
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2085
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 11:45 am
Lleoliad: Y Fro Gymraeg

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 15 gwestai