ydi, gwarthus a dweud y gwir. Mae nifer o wledydd "datblygiedig" yn ddigon parod i ecsploitio rhyw dechnoleg newydd cyn gweld ei fod yn beryglus ac felly yn ecsplotio gwlad tlotach i gael gwared o'r niwed.
Beth 'dydi lot o bobl ddim yn sylweddoli ydi bod y Sahara yn mynd trwy gylched. Ydi mae'n anialwch hesb ar y funud ond yn y gorffennol 'roedd yn goedwig a safana ffrwythlon, ac fel yna y bydd yn y dyfodol eto rhyw dro. Mae'r ymbelydredd am fod yna am filiynnau o flynyddoedd. 'Dydi'r anialwch ddim.
Ma hyn yn anhygoel rwy'n cytuno. Enghraifft arall o wledydd datblygiedig yn meddwl y gallan nhw wneud beth a fynnan nhw ar draws y byd. Pa hawl sydd gan Brydain i benderfynu ar ddiogelwch dyfodol y Sahara. Os ydych chi'n credu ambell i fodel newid hinsawdd fe fydd ardaloedd fel y Sahara yn derbyn mwy o law yn y dyfodol felly efallai y bydd yn dychwelyd i safana ffrwythlon ynghynt na'r disgwyl. Byddai cael gwared ar wastraff niwclear yno yn beryclach fyth felly.
Mae'r stori yma yn dangos pa mor anodd yw dod o hyd i ffordd o stori gwastraff niwclear fodd bynnag. Beth ydech chi'n meddwl yw'r ffordd orau?
ym...siwr mai'r ffordd gorau ydi'r ffordd y mae Sellafield (er enghraifft) yn delio ag ymbelydredd 'gref', sef ei brosesu mewn i ryw fath o 'wydr' a'i gloddio o dan droedfeddi o blwm.
Duw, am stori mad arall. Ond efo newid hinsawdd, bydd mwy o wledydd fel ni a Ffrainc isio defnyddio ynni niwcliar; ac felly mwy o syniadau gwallgof fel hyn.
Mae angen gwrthwynebu unrhyw syniad o ynni niwcliar fel dewis synhwyrol ar gyfer ynni domestig - does dim modd "saff" o gael gwared o'r gwastraff.