Tudalen 1 o 6

Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Iau 12 Chw 2004 12:45 pm
gan Rhys
Dwi'n gwbod bod hin hen stroi ac hwyrach ei fod wedi'w drafod eisioes, ond mae'n debyg fod y sel bendith ola wedi'w roi gan adran cynllunio'r Parc.

Oes isho ffasiwn beth? Mae ddigon drwg bod tren i foynd ar diogs fyny, a dwi'n meddwl fod y caffi sydd yno'n ddigon da. Mynydd ydi'r wyddfa ffor ffyc secs. Os am gael rhywbeth yno, dylai fod yn fach ac yn ymdoddi i'r tirlun (dan ddeaer fyddai orau) a defnyddio llechi a cherrig nid gwydr. Mae'n siwr mai rhyw ymgynghorwyr o lundain awgrymodd y peth ar ôl cael eu talu miloedd am arolwg, a cyn hir bydd Starbucks a KFC i'w cael yno hefyd. Dwi'n synnu bod cyn lleied o wrthwynebiad wedi bod i'r datblygiad arfaethedig hwn :(

PostioPostiwyd: Iau 12 Chw 2004 2:03 pm
gan Mr Gasyth
Hm, cytuno ac anghytuno Rhys. Ia, mynydd ydi'r Wyddfa, ond dwi'n meddwl fod rhan fwyaf yn derbyn mai mynydd twristiaid ydi o bellach a felly y gorau yr adnoddau sydd ar gael yno, wel y gorau i'r diwydiant twristiaeth yn Llanberis a'r ardal o gwmpas.
Ma pob mynydd arall yn Eryri yn dal i fod heb eu difetha diolch byth.

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Iau 12 Chw 2004 2:44 pm
gan Norman
Rhys a ddywedodd:Dwi'n gwbod bod hin hen stroi ac hwyrach ei fod wedi'w drafod eisioes, ond mae'n debyg fod y sel bendith ola wedi'w roi gan adran cynllunio'r Parc.

a dwi'n meddwl fod y caffi sydd yno'n ddigon da. (



Be ffwc ? W ti di bod yna - man hollol rhemp !! Bwyd rili crap a mar lle n disgyn n ddarna.
Mynydd ucha rhwng Cymru a Lloegr, a rhyw bludi shac yn y top. Dwi meddwl sa gymaint gwell cael cafi a hydnoed lle i aros - fel sydd i cael ar y cyfandir. Aros dros nos ar gopa'r Wyddfa - Aidial, gadel i bobl ddringo a cerdded am fwy na un diwrnod ar y tro. Cyfle i weld y wawr a ballu
(er mod i wedi gweld y wawr or copa o blaen - cerdded ganol nos ).

Be da chi'n feddwl ?

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Iau 12 Chw 2004 3:13 pm
gan Rhys
Norman a ddywedodd:

Be ffwc ? W ti di bod yna - man hollol rhemp !! Bwyd rili crap a mar lle n disgyn n ddarna.


Mond unwaith dwi wedi bod i'r copa rhag fy nghwilydd i.
Bwyd yn crap? - Dos a brechdannau dy hun.
Lle'n disgyn i ddarnau? - Atgyweirio, sydd i angen, nid i'w fflatno.

ma miloedd yn tyrru i'r copa fel mai, felly yn amlwg does neb yn meddwl "www, mae'r caffi ar y top mor ych a fi yn ôl pob sôn, dwi ddim am i'w mentro hi".

Lle i aros ar y top? - Byddai ond yn denu llond bws mini o JMJ gyda 20 can o stella y pen 'yna i brofi machlud haul' my arse. Mae pobl yn medru gweld y machlud nawr os nw o ddifri am y peth, fel ti di gwneud dy hun, .

dwi ddim yn gweld sut fyddai cael mwy o siop ar dop y wyddfa'n helpu busnesau llanber chwaith achos fyddai neb yn trafferthu prynnu dim byd yno a'i gario fyny os yw ar gael ar y copa

PostioPostiwyd: Iau 12 Chw 2004 4:18 pm
gan Mr Gasyth
Rhys a ddywedodd:dwi ddim yn gweld sut fyddai cael mwy o siop ar dop y wyddfa'n helpu busnesau llanber chwaith achos fyddai neb yn trafferthu prynnu dim byd yno a'i gario fyny os yw ar gael ar y copa


Ond y gore di'r cyfleusterau ar ben y wyddfa, y mwya o bobl sy'n mynd fyny'r wyddfa, a felly y mwya o bobl sy'n mynd i llanberis.
QED

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 2:37 pm
gan brenin alltud
Rhys a ddywedodd:Os am gael rhywbeth yno, dylai fod yn fach ac yn ymdoddi i'r tirlun (dan ddeaer fyddai orau) a defnyddio llechi a cherrig nid gwydr.


Ym, dyna'n union yw'r hyn sy'n cael ei gynnig. Gwydr anadlewyrchadwy ( :? ), tyllu mewn i'r mynydd fel does dim bron i'w weld, ailddefnyddio'r deunydd a'r adeiladau sy yno'n barod, llechi 'r'un lliw a'r cymyle' medde nhw...

Rhys a ddywedodd:... Dwi'n synnu bod cyn lleied o wrthwynebiad wedi bod i'r datblygiad arfaethedig hwn


Fe fuodd na nifer o gyfarfodydd yn yr ardal. O'n i yn yr un yn Llanberis, lle naeth 'na gwpwl o Gymry Cymraeg (a Dei Tomos diolch byth) siarad, ond gan fwya' mewnfudwyr Saesneg o'n nhw, wedi gwylltio'n rhacs yn'u Helly Hansens, yn gweiddi 'I don't want people chuckin' crips over my mountain...'.

Siriys.

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 3:58 pm
gan Rhodri Nwdls
Oedd y nhaid i'n un o brici's yr adeilad presennol, hyll o beth dio serch hynny. Nath o sdicio at y pregethu...

Tynnwch y diawl lawr.

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 4:09 pm
gan Wilfred
Caffi newydd neu ddim caffi o gwbl. Rwabath heblaw y shit sydd ar top wan.

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Gwe 13 Chw 2004 7:10 pm
gan Dr Gwion Larsen
Rhys a ddywedodd:
Oes isho ffasiwn beth? Mae ddigon drwg bod tren i foynd ar diogs fyny,
Heb anghofio'r saeson!

PostioPostiwyd: Sul 15 Chw 2004 11:54 pm
gan Rhydian Gwilym
dwi'n meddwl i bod hi'n bwysig cael adeiladau newydd a modern rwan. mae nhw yr un mor bwysig a adeiladau hen - heblaw y rhai sydd wedi dod o'r 50au a'r 60au!!!