Tudalen 2 o 6

PostioPostiwyd: Maw 23 Tach 2004 12:55 pm
gan sanddef
Tren i fynfy'r wyddfa efo caffi ar y copa,syniad mor americanaidd o ddiflas,yn hollol groes i harddwch y lle...i ffwrdd a nhw!

PostioPostiwyd: Maw 23 Tach 2004 1:08 pm
gan Rhys
sanddef rhyferys a ddywedodd:Tren i fynfy'r wyddfa efo caffi ar y copa,syniad mor americanaidd o ddiflas,yn hollol groes i harddwch y lle...i ffwrdd a nhw!


haleliwia

PostioPostiwyd: Maw 23 Tach 2004 1:42 pm
gan Macsen
Pam tren diflas i dop y wyddfa? Mae na botensial mawr i gar sglefrio!*

Tydw i'm yn gweld dim o'i le ar adael i dwristiaid blonegog fynd ar y tren i fyny'r wyddfa a chael eistedd mewn caffi moethus. Tydi nhw'm yn rhwystro'r rheini sydd wir eisiau mynydda rhag gwneud hynny, nag ydyn? Live and let die from clogged arteries. A bydd unrhyw sbwriel yn chwythu lawr i Llanberis, ac felly yn gweddu i'r dim a'i gwmpasoedd.

*Roller coaster i chwithau.

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 7:31 pm
gan Mali
Yn gweld nad oes digon o arian ar gyfer cael caffi a chanolfan ar gopa'r Wyddfa.
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4 ... 516519.stm
Ac i ddeud y gwir , pam fod angen yr adeilad yma ar y copa? Yr unig beth sydd angen yno wir ydi lle chwech ar gyfer yr ymwelwyr!
Ac os oes angen canolfan o gwbwl, pam ddim adnewyddu adeilad yn Llanberis ei hun ?
Mali.

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 9:26 pm
gan Dai dom da
Pan es i gyda'r teulu i fyny'r wyddfa tua 4 mlynedd nol, nagyd dwi'n cofio meddwl pan gyrhaeddon ni'r top oedd: ''Ble ffac ma'r caffi hyn de'', ac wedyn sylweddolon ni mae'r caffi oedd yr hen sied-looking thing hyn oedd yn ganol y niwl. A phan es i mewn, wedd y lle yn fwy na beth nes i feddwl, ond yn ddamp, diflas a brwnt. Newyddion da dwi'n meddwl bo nhw'n meddwl adeiladu adeilad newydd, ond a wes angen adeilad na yn y wedi'r cwbwl? Yn fy marn i, oes. Mae'n neis cael rhywle twym i ishte ynddo, yn enwedig pan yw hi'n ddiwrnod oer (oer wedd y tywydd pan es i fyny, oer iawn)

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 9:51 pm
gan Norman
Mali a ddywedodd: pam fod angen yr adeilad yma ar y copa?

erm, gweler y resymau uchod.
I grynhoi,
Wilfred a ddywedodd:Caffi newydd neu ddim caffi o gwbl. Rwabath heblaw y shit sydd ar top wan.

PostioPostiwyd: Llun 09 Mai 2005 11:47 pm
gan Mali
Yn cytuno fod angen rhyw fath o adeilad yno yn lle'r peth hyll sy 'na rwan , ond adeilad llai o lawer na'r un ar y gweill fasa'n gwneud tro.
Beth sydd o'i le mewn mynd a bwyd a diod efo chi , cyn belled eich bod chi'n dod a'r sbwriel yn ôl i lawr . Wedi'r cyfan , mynd yno i werthfawrogi'r harddwch mae'r ymwelwyr, nid i eistedd mewn caffi.
Mali.

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 9:02 am
gan Cwlcymro
Cytuno efo Norman a Wilfred. Unai tynnwch y peth lawr, neu adeiladwch un newydd. Dydi'r adeilad presennol yn dda i ddim.

Fedrai'm gweld nhw'n tynnu'r holl beth lawr, tren et al, felly adeilad newydd amdani.

Ma unrhywun sydd isho dringo mynydd go iawn yn cadw ddigon pell o'r Wyddfa erbyn hyn eniwe, dim cerddad mynydd ydi dilyn llwybr 'chippings' a mynd i gaffi ar y top!

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 8:22 pm
gan eifs
mae angen caffi newydd yno, ond dwim yn siwr os oes angen un mor fflash na'r un sydd yn mynd i gael ei adeiladu

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 8:26 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
dwi cytuno hefo eifs yn fana. achos dydy o ddim mor poblogaidd a hyna yn cael pobl i sgio lawr o.