Tudalen 3 o 6

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 8:50 pm
gan eifs
sgio? ti'n son am y snowdome?

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 8:53 pm
gan Norman
rhy ddiog i cofio fy enw a ddywedodd:dydy o ddim mor poblogaidd a hyna yn cael pobl i sgio lawr o.

eh ?

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 9:05 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
oni cymharu o alps yn fy mhen bach wallgo i.

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 9:10 pm
gan eifs
oh reit, wel does dim digon o eira yna i ddechrau!!!

PostioPostiwyd: Maw 10 Mai 2005 9:16 pm
gan rhy ddiog i cofio fy enw
oes yn gaeaf, reit yn y top

PostioPostiwyd: Maw 24 Mai 2005 8:02 pm
gan Garlleg
Mae'r adeiliad yn edrych yn hen ond wel, dw i ddim yn meddwl bod yr adeiliad yn dolur llygad - 'sai adeiliad newydd yn dolur llygad, dw i'n meddwl, efo gormod o wydrau. Pa mor gryf ydy'r cwareli beth bynnag? Mae'r gwynt yn medru bod yn gryf iawn. Dw i'n cofio rhywbeth am ganolfan siopa - roedd 'na wynt oedd wedi torri rhyw gwareli - be 'sai'n digwydd ar copa'r Wyddfa? Be 'sai Clough Williams-Ellis yn meddwl? Mae Portmeirion yn edrych yn hen hefyd...

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 5:04 pm
gan Norman
Newyddion Diweddara am y caffi 'ma Newyddion BBC
Mewn cyfarfod arbennig bydd aelodau'n clywed fod llythyr wedi ei dderbyn oddi wrth Swyddfa Gyllid Ewropeaidd Cymru yn nodi fod arian digonol wedi ei neilltuo fel y gall y cynllun barhau.


Or diwadd wir dduw - cawn wared a'r cwt presenol !

PostioPostiwyd: Maw 01 Tach 2005 5:49 pm
gan Tegwared ap Seion
Iei! Mi gerddish i fyny mis Medi, a mi o'n i'n tueddu i gytuno efo PC (prins charls!) ma rhaid i mi ddweud!

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 9:44 pm
gan Huw Psych
Iei! Mi gerddish inna fyny mis Medi, a mi o'n i'n tueddu i gytuno efo PC (prins charls!) ma rhaid i mi ddweud! :winc:

Yr hyn dwi'n awgrymu ydi eich bod chi'n ei chwalu o, a ddim yn boddran adeiladu un arall yn ei le.
Mae o'n hyll, mae o'n drewi, ac mae o'n golygu fod pobl yn gollwng sbwriel ar ben mynydd ucha cymru. Grrrrr!!!

Mi fyswn i brin a bod yn mynd mor bell a deud bod angan codi'r trac tren...ond na i ddim.
Mi fydda cal y trena beidio rhedeg mor aml o leia yn rhoi chydig o lonydd ar y copa am fwy na chwartar awr!! :)

PostioPostiwyd: Mer 02 Tach 2005 10:50 pm
gan Al
Os am wario arian ar setup ymwelwyr y Wyddfa, gwariwch ar arwyddion dwy ieuthog :drwg:

Hoffwn ofyn i Quality Hotel(gwesty y Vic) hefyd i neud rhywbeth am ei arwyddion nhw :drwg: