Tudalen 4 o 6

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 2:03 am
gan Tegwared ap Seion
Al a ddywedodd:Hoffwn ofyn i Quality Hotel(gwesty y Vic) hefyd i neud rhywbeth am ei arwyddion nhw :drwg:


G'na ta?!

Gwych o deimlad cyrraedd y copa, y enwedig ar

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 3:57 am
gan Huw Psych
Yndi, torri'r hud.
Mae o'n anti-climax ar ol yr holl waith cerdded!!

Yr aer di'r gwaetha, mae o'n drewi. Llygredd yn afiach fyny na!!
Mi o'n i'n disgwyl cal awyr iach neis, ond yn lle hynny ces fy mygu gan fumes.
Ych-a-fi!! :drwg:

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 10:34 am
gan Geraint
Ma'r tren yn costio ugain blydi cwid!

Pwy sy'n elwa o hyn, di'r gymuned neu'r parc yn cael rhwbeth?

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 10:46 am
gan Huw Psych
Ma'r tren yn costio ugain blydi cwid!
Dyna pam ti'n gerdded o!!!
Dydi

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 12:11 pm
gan Tegwared ap Seion
sa chdi ddim yn cael siom siwr! Golygfeydd anhygoel. Hollol wych. A dwin siwr na chafodd Nora na Deborah siom!

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 4:12 pm
gan Huw Psych
Golygfeydd anhygoel...o...Nora a Deborah
!!!

Doeddwn i ddim isho gweld Nora a Deorah. Isho gweld Cymru yn ei holl ogoniant oeddwn i!!

PostioPostiwyd: Iau 03 Tach 2005 4:15 pm
gan Huw Psych
dwin siwr na chafodd Nora na Deborah

Na, dwi'n siwr na chafo nw'u siomi...ond mi ges i.

Mi o'n i am weld Cymru yn ei holl ogoniant mewn awyrgylch llonydd tawel braf...
Ma hi'n beryg mai fi sy'n byw mewn rhyw fyd bach 'ideal'!! :rolio:

Golygfeydd gwych, ond dodd cwmni Nora a Deborah ddim yn bleserus iawn, na'r fumes chwaith!!

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 11:41 am
gan Resbiradaeth Jonas
Yn fy marn i - wast o blydi pres, miliynau o bunnoedd i ddiawl o ddim, mae'n neis meddwl y gallan ni gael paned wedi cyrraedd y top ond eto mae 'na gaffi yno'n barod does - un sy'n hen ddigon da, hyll ella ond tydi lot o betha a lot o bobl. Be sy'n bod ar wario'r pres ar achos llawar mwy teilwng - e.g - sbytu, clybiau ieuenctid,prosiectau cymunedol - dwi jest ddim yn gweld sens yn y peth, poblogaeth Cymru yn gorfod hel y pres i godi sbytu plant - y wyddfa'n enderfynu eu bod nhw isho caffi newydd sbon - ag yn cael llwythi o bres, lle ma'r tegwch yn hynna?

PostioPostiwyd: Gwe 04 Tach 2005 1:07 pm
gan Huw Psych
Ia wir!!
Ond os da chi isho panad ar y top, pam ddim investio mewn fflasg??
Eith o a chi'n bellach yn diwad!!

PostioPostiwyd: Iau 15 Rhag 2005 12:54 am
gan Dave Thomas
Mae'r wyddfa yn atyniad twristaidd mawr, pobl ar draws y byd yn mynd yno. Ffol fyddai peidio darparu gwasanaethau i'r ymwelwyr a fyddai'n creu gwaith i bobl yr ardal.