Postiwyd:
Maw 12 Medi 2006 5:59 pm
gan Norman
[ cychwyn y gwaith newydd heddiw 'nol y son ]
Postiwyd:
Maw 12 Medi 2006 9:47 pm
gan carwyn
Dave Thomas a ddywedodd:Mae'r wyddfa yn atyniad twristaidd mawr...Ffol fyddai peidio darparu gwasanaethau i'r ymwelwyr a fyddai'n creu gwaith i bobl yr ardal.
ffyc mi mi oedd y prishe'n ddrud yna! rip off llwyr! dwi'n temptid i agor pabell fwyd ar y top i gystadlu efo'r busnes! (pabell o ddefnyddie lleol wrth gwrs, plastig o barc eryri ayyb)
Postiwyd:
Mer 13 Rhag 2006 1:24 pm
gan Tegwared ap Seion
Wedi methu dod o hyd i'r edefyn oedd yn trafod enwau newydd i'r caffi ar ben yr Wyddfa..
Hafod Eryri fydd ei enw.
Postiwyd:
Mer 13 Rhag 2006 6:21 pm
gan krustysnaks
Copa Cabana oedd y cynnig gorau!
Postiwyd:
Mer 13 Rhag 2006 7:06 pm
gan Bendigeidfran
krustysnaks a ddywedodd:Copa Cabana oedd y cynnig gorau!
Ti'n llygad dy le krustysnaks - enw รข thipyn o ddychymyg a hiwmor a thinc rhyngwladol.
Postiwyd:
Iau 14 Rhag 2006 10:36 am
gan Dwlwen
krustysnaks a ddywedodd:Copa Cabana oedd y cynnig gorau!
O'n i'n meddwl fod Caban-y Copa yn un gwell...
Postiwyd:
Iau 14 Rhag 2006 12:03 pm
gan Geraint
Na, doedd ddim angen creu cysylltiad rhwng Cymru a Barry Manilow! Mewn dim, bydde fe di cashio mewn ac yn ffefryn newydd cyfryngau Cymru.
Dwi'n hoffi'r enw. Mae'm draddodiadol, Cymraeg, ac yn gwneud synnwyr.
Postiwyd:
Iau 14 Rhag 2006 3:37 pm
gan Wilfred
Ma'n enw iawn ma siwr. Atgoffa fi o enw cartre hen bobl am ryw reswm.
"Lle ma dy daid dyddia hyn"
"Ma di llwyddo i gal lle yn Hafod Eryri chi."