Tudalen 6 o 6

PostioPostiwyd: Iau 14 Rhag 2006 3:55 pm
gan khmer hun
'Se enw'n ymwneud â chwedl Rhita Gawr wedi bod yn dda - Caban y Cawr neu rywbeth - ac yn gyfle yn y caffi drwy gelf ac ati i hyrwyddo hen chwedl Gymraeg y mynydd. Ma'n siwr bo rhywun wedi argymell hynny wrthyn nhw.

Rhagweld bydd Saeson yn cyfeirio ato fel Havod Caff neu Hav-od Rest, a hwnnw sy'n tueddu i gydio wedyn...

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2008 11:57 am
gan Norman
Welodd unrhywun y rhaglen 'Y Wyddfa a'i Chriw' nos Sul ? - Gollishi hi, a rhwng dau ffeddwl o ddefnyddio'r gwasanaeth gwylio eto.

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Mer 11 Meh 2008 7:36 pm
gan Mali
Norman a ddywedodd:Welodd unrhywun y rhaglen 'Y Wyddfa a'i Chriw' nos Sul ? - Gollishi hi, a rhwng dau ffeddwl o ddefnyddio'r gwasanaeth gwylio eto.


Ddim eto , ond dyma fo !
Cofio'r edefyn yma rwan ... :lol:

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Maw 16 Meh 2009 3:20 pm
gan dafydd
Oes rhywun wedi bod i weld Hafod Eryri eto?

Glywes i fod paned o de neis i'w gael yno... te gan gwmni 'English Garden'. Cynnyrch lleol ife?

Re: Caffi newydd ar gopa'r Wyddfa

PostioPostiwyd: Maw 16 Meh 2009 3:50 pm
gan Gwehil Maes Gwyddno
dafydd a ddywedodd:Oes rhywun wedi bod i weld Hafod Eryri eto?

Glywes i fod paned o de neis i'w gael yno... te gan gwmni 'English Garden'. Cynnyrch lleol ife?


E's i draw na b'nawn Gwenar ar ôl i'r holl barti ddod i ben fynu 'na - rhaid deud i fod o'n fodern a godidog (h.y. edrych fel castell braidd), ond ar y cyfan ma cyfleustera'r adeilad yn wych - pob dim sy' 'i angan ar y copa (os oes angan adeilad o gwbl?), a defnydd da o'r gwagle yno, gyda ryw fath o wybodaeth yn unryw le drowch chi'ch pen - ar y byrdda, ar y walia, ar y lloria, ar y ffenestri...

Ma'n ddrwg gin i ddeud, fodd bynnag, nad ydwi 100% yn hoff o olwg allanol yr adeilad. Ar ddiwrnod clir, ac os graffwch chi, allwch chi weld yr adeilad, neu'i siap, o Fangor, ac mewn sawl man i'r Gorllewin 'swnim yn synnu. Ac er, gwych fod Gwenithfaen yr allanol yn dod o Gwt y Bugail, ma'n gwrthgyferbynnu lliw y mynydd ar y copa'n llwyr. Ac gan bod rhes o ffenestri ar ben uchaf yr adeilad, yn syniad i weld "drwy"'r adeilad ar yr olygfa islaw, 'di hyn ddim yn gweithio o bell ffordd - angen i chi fod ar eich cwrcwd wrth y ffenestri i fod yn onest, gan fod y "blancedi" llac (£50,000 o gost!) ar y to yn rhwystro'r olygfa. O wel, bydd yr adeilad yma am ddegawda i ddod, felly well i mi ddechra arfer efo fo! :ffeit:

O.N. sudd oren ddim yn oer chwaith - dim cweit yn "refreshing"...a dwnim sut fydd y cwrw felly! :P