sgwennu am yr amgylchedd

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

sgwennu am yr amgylchedd

Postiogan Sian Northey » Iau 04 Maw 2004 3:13 pm

Dwn i'm be ydi polisi maes-e am roi hysbys yn Gymraeg i ddigywddiadau sydd yn digwydd yn Saesneg. Dwi ddim dicach os fydd hwn yn cael ei ddileu.
Ond meddwl oeddwn i byddai gan rai pobl sydd â diddordeb yn yr amgylchedd ddiddordeb mewn cwrs am sgwennu yn greadigol am gefngwlad a bywyd gwyllt Eifionydd sydd yn cael ei gynnal yn Nhy Newydd fis Mai. Y tiwtoriaid fydd Robert Minhinnick (golygydd Poetry Wales) a Rose Flint (bardd, artist a therapydd celf). Bydd hefyd daith ar hyd lan afon Dwyfor gyda'r naturiaethwr Nigel Brown.
Dyddiadau'r cwrs: Mai 3-8 (dechrau nos Lun , gorffen bore Sad)
Cost (yn cynnwys llety a'r holl brydau bwyd) £345 (chydig mwy am stafell sengl) Mae grantiau ar gael.
Manylion pellach o Dy Newydd 01766 522 811 sian.tynewyddATdial.pipex.com
http://www.tynewydd.org
Sian Northey
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Iau 23 Ion 2003 4:45 pm

Postiogan brenin alltud » Llun 08 Maw 2004 12:26 pm

Falle, Sian, fydde gan rai ddiddordeb hefyd yng nghwrs Twm Morys a Twm Elias, ar sgwennu a natur. Oes 'na un yn digwydd leni?

Nes i fwynhau mas draw arni y llynedd :winc: Swn i'n bersonol methu sgwennu am natur Cymru fach yn Saesneg!
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan nicdafis » Llun 08 Maw 2004 3:37 pm

Sa i wedi darllen Robert Minhinick am sbel, ond oedd cyfrol 'da fe nôl yn y 90au gynnar gyda ysgrif am arfordir Caerdydd, sef y fflatiau mwd ar bwys Rover Way, ffordd 'na. Wnaeth hyn cryn dipyn o argraff arnai , a wnes i ddechrau cerdded lawr fan'na bob cyfle y ces i. Dyna yw mesur llwyddiant sgwennu am natur, yn fy nhyb i, ei fod yn wneud i'r darllenwr fynd mas a weld y stwff.
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms

Postiogan Sian Northey » Llun 08 Maw 2004 4:19 pm

Doedd dim bwriad trefnu cwrs Twm a Twm leni OND gan na fyddwn yn gallu cau i wneud gwaith ar y ty fis Gorffennaf fel y bwriadwyd mae'n debygol y bydd cyrsiau yn cael eu cynnal fis Gorffennaf ac Awst - a dwi'n gobeithio y bydd Twm Morys gyda naturiaethwr yn un o'r rhai hynny.
Falch dy fod wedi mwynhau - roedd o'n gwrs da doedd, thywydd bendigedig.
ei fod yn wneud i'r darllenwr fynd mas a weld y stwff.

a/neu gwneud iddynt boeni amdano de Nic.
Sian Northey
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 92
Ymunwyd: Iau 23 Ion 2003 4:45 pm

Postiogan nicdafis » Llun 08 Maw 2004 4:35 pm

Poeni amdano, neu wneud rhywbeth amdano? ;-)
Rhithffurf defnyddiwr
nicdafis
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 7361
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 3:39 pm
Lleoliad: Pentre Arms


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai