Dwn i'm be ydi polisi maes-e am roi hysbys yn Gymraeg i ddigywddiadau sydd yn digwydd yn Saesneg. Dwi ddim dicach os fydd hwn yn cael ei ddileu.
Ond meddwl oeddwn i byddai gan rai pobl sydd â diddordeb yn yr amgylchedd ddiddordeb mewn cwrs am sgwennu yn greadigol am gefngwlad a bywyd gwyllt Eifionydd sydd yn cael ei gynnal yn Nhy Newydd fis Mai. Y tiwtoriaid fydd Robert Minhinnick (golygydd Poetry Wales) a Rose Flint (bardd, artist a therapydd celf). Bydd hefyd daith ar hyd lan afon Dwyfor gyda'r naturiaethwr Nigel Brown.
Dyddiadau'r cwrs: Mai 3-8 (dechrau nos Lun , gorffen bore Sad)
Cost (yn cynnwys llety a'r holl brydau bwyd) £345 (chydig mwy am stafell sengl) Mae grantiau ar gael.
Manylion pellach o Dy Newydd 01766 522 811 sian.tynewyddATdial.pipex.com
http://www.tynewydd.org