bartiddu a ddywedodd:Beth am y syniad o grantiau i bawb sydd yn brwdfrydig i gael system solar ar ben ei cartrefi?
Dw i ddim yn gyfarwydd ofnadwy efo'r manylion, ond mae grantiau llywodraeth eisoes ar gael i helpu talu am osod paneli ffotofoltaïg.
Os ydi tai efo paneli ffotofoltaïg yn gysylltiedig efo'r grid cenedlaethol ac yn cynhyrchu mwy o drydan nag sy'n cael ei ddefnyddio ar yr aelwyd, mae'n bosib bwydo'r trydan i mewn i'r grid a chael tâl amdano fo. Bysai troi holl stoc tai Prydain yn rhyw anferth o orsaf bwer ynni haul yn gam mawr iawn at baratoi am y diffyg olew/nwy/glo.