Ond mater o amser fydd o nes bydd olew a glo yn darfod. Fedra neb ddadlau'r ffaith ein bod yn llosgi'r defnyddiau yma'n gynt na maen't yn cael eu creu yn naturiol.
Sut mae'r genhedlaeth nesaf am parhau gyda'n safon ni o fyw, heb ddibynu ar ynni niwclear?
Fedrai weld alcohol neu olew coginio yn pweru ceir a trafnidiaeth. Ond o ble ddaw trydan?
Nid yw melinau gwynt yn ddigon dibynnol i'n cynnal heb gael gorsaf bwer yn gweithio wrth gefn, a nid yw'n bosib storio ynni gwynt.
A mae "Solar" yn wast amser yma yng Nghymru!
Beth fydd yr ateb, mynd yn ol i ffordd gyntefig o fyw?