Iolo Williams ai sylwadau ar ffermio

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Gwyddno » Gwe 11 Meh 2004 5:58 pm

LowRob a ddywedodd:Ynden wir, mae pethau'n gwella. Mae Gwyddno hefyd yn siarad sens! :D
[...]
Mae'r rhan fwyaf o ffermydd wedi cael eu trin gan yr un teulu ers ganrifoedd, felly'n rhan werthfawr iawn o'n treftadaeth.
Hefyd, fel rhywun sy'n dod o gefndir amaethyddol (dyna syndod i chi de?), byddwn i byth yn ystyried beirniadu diwydiant a diwylliant does gen i ddim profiad ohonynt - fel y mae rhai cyfranwyr wedi'i wneud yma. :(


Rwy'n cytuno â Low (yn enwedig y bit am siarad sens) - dw i ddim yn ffermwr (cyw cyfieithydd yf fi) ond mae f'ewyrth a sawl aelod arall o'm teulu yn dal i drin y tir, dyna fy nghymhwyster i mewn gwirionedd (a'r ffaith ein bod ni wedi cadw ychydig o ddefed, da a moch dros y blynyddodd). Rwy'n gweld y ffaith fod pobl mor barod i ymosod ar ffermwyr a'r diwydiant yn gyffredinol yn anheg iawn. Ffermwyr yw asgwrn cefn gwlad. Dych chi ddim yn gwerthfawrogi pwysigrwydd eich asgwrn cefn nes i chi ei dorri, yr un peth gyda ffermio. Os bydd i'r ffermydd ddiflanu, ni'r "cyhoedd" fydd yn dioddef o'r herwydd yn ogystal â'r teuluoedd.

Mae pawb erbyn hyn yn ymwybodol o'r ymgyrchoedd masnachu teg ac ati sy'n cael eu rhedeg er mwyn rhoi amodau masnachu teg i gynhyrchwyr coffi a siocled ac ati yn Ne America, Affrica ac Asia. Beth am i ni gael ymgyrch o'r fath yma yng Nghymru - chwarae teg i'r ffermwyr, pris rhesymol am eu cynnyrch yn gig, llaeth a grawn. Er lles yr economi cyfan. Mae'n hen bryd i ni beidio â bod mor hunanol a mynny talu llai na'i werth am gynnyrch safonol.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:02 pm
Lleoliad: Ty ar y Mynydd

Postiogan Iesu Nicky Grist » Maw 15 Meh 2004 12:13 pm

Ma'n rhieni i'n dod o ffermydd - felly fy ddylsen i fod yn ffarmwr - ond yn hytrach rwy'n towny i bobl o'r wlad, ond yn 'backward' i bobl y ddinas.

Rhaid mi ddweud fy mod yn rhamantu bod yn ffarmwr o bryd i'w gilydd, a medru profi gwir ddiwylliant, hynny yw, di-wylltio fy nhir - sef lle daw'r gair Cymraeg am ddiwylliant.

Rwy'n cael pleser mawr o arddio, - falle 'ma'r rheswm.

Ond 'tawn i'n ffarmwr, mae'n siwr mai eisie bod yn towny fydden i - heb unrhyw glem o shwd ma' magu ffowls.
Yn enw'r Tad, y Mab, a Juha Kankkunen
Rhithffurf defnyddiwr
Iesu Nicky Grist
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 2744
Ymunwyd: Iau 08 Ebr 2004 10:27 am
Lleoliad: sied go'd

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 28 gwestai