Iolo Williams ai sylwadau ar ffermio

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Iolo Williams ai sylwadau ar ffermio

Postiogan DAN JERUS » Maw 13 Ebr 2004 8:38 am

Sgwn i beth yw barn maeswyr-e ar sylwadau Iolo Williams ynglyn a ffermio'n ddiweddar? Ddim dyfyniad i law gennyf ond mi ddarllenais i ei fod wedi son nad oedd erioed wedi gweld ffermwr tlawd, eu bod i gyd yn gyrru 4x4's ac fod eu dull o ffermio progressive yn gwneud drwg mawr ir amgylchedd.Dwi'n cytuno hefo fo'n hun.Does 'na neb yn cwyno fel ffarmwr :?
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Hywel Ainsley » Maw 13 Ebr 2004 9:03 am

Does 'na'm dwy waith fod amaethwyr wedi newid tirlun Cymru mewn ffordd llawer dwysach na wnaeth diwydiant erioed. Fyddai Llywelyn fawr ddim yn adnabod Eryri foel heddiw a peryg mai rhywbeth felly sy'n poeni Iolo Glunfawr.
Cyfarfod gofynion bwydo lleol fu ffermwyr Cymru'n draddodiadol ac ers i'r gofynion rheinni gael eu diwallu'n ddigonol a rhatach gan gig a grawn o leoedd eraill mae nhw wedi dod yn fwy fwy ddibynol ar grantiau. Mae nhw'n fusnesau di-fusnes, ddim ond yn gallu bodoli mewn sefyllfa ffals a honno'n amhosib i'w chynnal yn y tymor hir.
Mae'n rhaid darganfod ffordd o gynnal cymunedau gwledig Cymreig ond mae'n rhaid iddi fod yn system dryloyw. Mae'r ffermwyr yn twyllo pawb os ydynt yn credu fod ganddynt hawl ddiymwad i fyw mewn tai moethus mewn mannau delfrydol a hynny ar drael gweddill trigolion Cymru.
Gwen deg a gwenwyn 'dani...
Hywel Ainsley
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 18
Ymunwyd: Llun 15 Maw 2004 8:53 pm
Lleoliad: Llanrwst

Postiogan DAN JERUS » Maw 13 Ebr 2004 9:41 am

Cytuno Hywel.Dwi'n cofio imi gael gwahoddiad i fod ar y rhaglen "pawb ai farn" o Gaerfyrddin unwaith.Y pwnc llosg ar y pryd oedd y modd yr oedd anifeiliaid yn cael eu cludo o'r wlad yma i ffrainc.Y bore hwnnw ro ni'n digwydd bod yn y banc yn ciwio tu ol i'r boi 'ma a oedd y edrych fel ffarmwr, bocha coch, three in one tweed etc (ond o ni methu bod y siwr, wrth resm).Roedd o'n pigo travellers cheques gan ei fod yn mynd i mexico, o bobman (odd o'n gweiddi-sirad hefo'r ddynes fach tu ol i'r gwydyr felly o ni methu a helpu gwrando :? )Dwi'n cofio meddwl ar y pryd pa mor ddoniol y byddai os mai ffermwr ydoedd, ac ei fod yntau am fynd ar y rhaglen y noson honno hefyd.Ffyc mi, pwy oedd ar ei draed yn y stiwdio y noson honno, yn cwyno am ddiffyg arian ac yn pwyntio bys ar y panel oedd Iago Gonzales Prythech.Roedd y sefyllfa'n un swreal a dweud y lleiaf.Ddim dweud nad oedd y ffermwr yn haeddu gwyliau'n yn llai 'na neb arall, ond mae sefyllfa or fath yn gwneud i rhywun amau, ynghyd a'r 4x4's, 'na'n draddodiadol tight y mae ffermwyr, nid tlawd o bosib.
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Cardi Bach » Maw 13 Ebr 2004 11:03 am

Dyma'r erthygl yn y WMail gyda dyfyniadau Iolo:

Mae'n werth nodi i mi ddarllen yn gymharol ddiweddar fod yr un faint o goed yng Nghymru heddiw ag oedd yng Nghymru Glyndwr. Sai'n gweud ma'n nhw'n goed tra gwahanol ac yn bodoli mewn mannau gwahanol ac ar gyfer dibenion gwahanol...ond 'na fe.
Rhithffurf defnyddiwr
Cardi Bach
Gweinyddwr
Gweinyddwr
 
Negeseuon: 2694
Ymunwyd: Maw 22 Hyd 2002 7:54 am
Lleoliad: Gal

Postiogan Rhys » Maw 13 Ebr 2004 11:09 am

A mi gafodd llawer o goed ar hyd ynys Prydain eu dymchwel ar gyfer adeiladu llongau yn y rhyfeloedd Imperialaidd yn erbyn Ffrainc. Dim bai y ffarmwrs i gyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Geraint » Maw 13 Ebr 2004 11:10 am

Dwi'n cytuno yn llwyr ar yr effaith ma amaethyddiaeth wedi cael ar dirlun ac amgylchedd y wlad. Mae Iolo Williams yn gweld yr effaith yn glir, gyda dirywiad enfawr yn nifer o rhywiogaethau o adar.

Ond dwi'n meddwl fod en 'harsh' i feio popeth ar y ffarmwr, a cyffredinoli ayb. Ma'r ffarmwr tlawd wedi ddim yn bodoli bellach am ei fod wedi methu cystadlu a wedi gorfod gadael y diwydiant. Dydi fferm fach ddim yn gynhaladwy bellach, rhaid cael incwm ychwanegol.

Hefyd, rhaid cofio rhaid i ffermwyr ddilyn polisiau y llywodraeth i gael arian. Yn y 70au ac 80au, roedd nifer o grantiau ar gael i wella tir yn amaethyddol, sef aredig tir mynddig/rhosdir/corsdir ayb, ac ei ail-blannu efo glaswellt mwy ffrwythlon. Y canlyniad yw caeua gwyrdd taclus ymhobman, sydd ddim yn cynnal bron dim amrywiaeth o fywyd gwyllt.

Yn ddiweddar, oherwydd newid ym mholisiau CAP ewrop, ma na arian ar gael i fynd y ffordd arall, sef ffermio mewn ffordd sy'n gwarchod cynefinoedd, a hybu bywyd gwyllt. Mae'r ffarmwr dal i dderbyn arain o'r llywodraeth, trwy cynlluniau fel Tir Gofal, ond am rhesymau cwbl gores i be roeddent arfer cael arian am!

Dwi'n ffindio hi'n anodd i feio ffermwyr yn llwyr, am fod ei gwaith wedi adlweyrchu polisi y llywodraeth. Wrth sgwrs ei fod yn mynd i drio am grantiau os maent ar gael. Dwi wedi cwrdd a nifer o ffermwyr, ma na bob math o gymeriadau i gael, hyd yn oed rhai sydd efo diddordeb yn y bywyd gwyllt sydd o'i gwmpas, ac yn gweld tristwch yn pethau fel y ffordd mae nifer o adar wedi diflannu.

Mae be ddylai gwneud efo'r sustem grantiau yn beth cymleth iawn. Mae'r symudiad tu at talu iddynt gofalu ar ol y tir yn un diddorol, un sydd yn ei rhoi fel stiwardiaid y tir. Dwi'n cytuno fod rhaid i ffermio fod yn fwy cymunedol a cynaliadwy, ond gyda'r sustem bresennol o cyflenwi arch-farchnadoedd sydd yn rhoi prisiau gwael i'r ffarmwr, a gyda bron pawb yn prynu bwyd o arch-farchnadoedd, mae'n anodd weld sut neith y sefyllfa newid.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan DAN JERUS » Maw 13 Ebr 2004 11:56 am

Geraint:
Hefyd, rhaid cofio rhaid i ffermwyr ddilyn polisiau y llywodraeth i gael arian. Yn y 70au ac 80au, roedd nifer o grantiau ar gael i wella tir yn amaethyddol, sef aredig tir mynddig/rhosdir/corsdir ayb, ac ei ail-blannu efo glaswellt mwy ffrwythlon. Y canlyniad yw caeua gwyrdd taclus ymhobman, sydd ddim yn cynnal bron dim amrywiaeth o fywyd gwyllt.


Roedd y grantiau ti'n son amdanynt yn bodoli mewn gwirionedd ers y pumdegau.Yn ol cyfaill imi, ai daid yn delio hefo ffermwyr y diwydiant laeth yn bennaf, roedd ambell ffermwr adeg hynny'n tynnu'r piss, yn cael grantiau drwy'u clustiau ac yn arwyddo ffurflenni yn datgan y nifer anghywir o'u hanifeiliaid.Toedd pawb ddim wrth reswm, gyda rhai yn gweithio'n galed ac onest.Ti'n gorfod derbyn fod creu unrhyw fywoliaeth o'r tir ac o natur yn mynd i fod yn anodd ac yn lafur oes (os ti'n lwcus), mae hi wedi bod erioed ddo'n tydi? ar un llaw ti eisiau rhoi dy gefnogaeth llawn i ffermwyr Cymraeg ga ei fod yn bwysig hybu unrhyw fusnes sy'n creu cynhyrch lleol (yn enwedig os ydi'r cynyrch hwnnw'n mynd tuag at cynnal y teulu).Mae hanes a chymeriad cefn gwlad yr un mor bwysig ac hanes unrhyw sector arall yng Nghymru.Ar y llaw arall, mae yn fy nigio i braidd nad ydynt i weld yn fodlon newid ei ffyrdd o ran yr amgylchedd.Mae engreifftiau prin natur yn cael ei difa,mae'r tyrbeins gwynt yn eu chael hi ganddynt (agwedd fine, but not on our doorstep o bosib?)Falla fod bywoliaeth anodd or fath yn gwneud rhywun rhoi ei ben i lawr i pob achos ar wahan i gynnal y bywoliaeth hwnnw ond allom ni'm ddim fforddio gwneud hynny bellach.
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Rhys » Maw 13 Ebr 2004 12:49 pm

DAN JERUS a ddywedodd: Ar y llaw arall, mae yn fy nigio i braidd nad ydynt i weld yn fodlon newid ei ffyrdd o ran yr amgylchedd. Mae engreifftiau prin natur yn cael ei difa,mae'r tyrbeins gwynt yn eu chael hi ganddynt (agwedd fine, but not on our doorstep o bosib?)Falla fod bywoliaeth anodd or fath yn gwneud rhywun rhoi ei ben i lawr i pob achos ar wahan i gynnal y bywoliaeth hwnnw ond allom ni'm ddim fforddio gwneud hynny bellach.


O be dwi'n glywed ar y radio ar teledu, mae fferwyr yn awyddus iawn i gael melinau gwynt wedi eu lleoli ar eu tir gan ei fod yn ffynhonell incwm da, a gwell fyth os ydynt yn eu codi eu hunain fel yn achos cwmni Ail Wynt yn Nyffryn Conwy. Trigolion lleol (o'r ardal yn wreiddiol a phobl dwad) ac pobl o drefi a dinasoedd sy'n mwynhau'r golygfeydd sy'n gwrthwynebu ffermydd gwynt.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhys
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2176
Ymunwyd: Llun 19 Awst 2002 8:07 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan DAN JERUS » Maw 13 Ebr 2004 12:58 pm

Dwi'n cofio cael dadl melin wynt hefo merch fferm cwpl o flynyddoedd yn ol a oedd yn cwyno fod y swn yn ypsetio defaid y fferm (o gysidro ei hardal hi, y broblem swn ydi'r peth olaf y dylai defaid boeni am eu ypsetio!) a fod pobl cefn gwlad yn cael eu dympio gyda problemau "pobl eraill" h.y mai problem y "pobl eraill" ma oedd yr amgylchfyd.Hollol boncyrs.Mae hi'n gweithio yn adran cold meats Tescos bellach, chware teg iddi :?
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Sosij Fowr » Maw 13 Ebr 2004 2:09 pm

DAN JERUS a ddywedodd: ro ni'n digwydd bod yn y banc yn ciwio tu ol i'r boi 'ma a oedd y edrych fel ffarmwr, bocha coch, three in one tweed etc (ond o ni methu bod y siwr, wrth resm)


wrth reswm!
Boed Sosij Fowr
Neu Sosij Fach
Yr un yw'r owt-cum
Gwagio sach
Sosij Fowr
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 320
Ymunwyd: Iau 08 Ion 2004 10:46 am
Lleoliad: fyny tintws Tina Tats

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 35 gwestai