Iolo Williams ai sylwadau ar ffermio

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan LowRob » Iau 10 Meh 2004 12:46 pm

Wel, heb fynd i mewn i mechanics y pethau yma, godro yw'r peth naturiol erioed - sut mae mam yn bwydo plentyn?? Mae pobl wedi bod yn godro anifeiliaid ac yn yfed eu llaeth ers miloedd o flynyddoedd. Mae treisio anifeiliaid yn beth hollol wahanol. Dwi ddim yn meddwl ei bod hi'n iawn cymharu'r ddau beth yma.
LowRob
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:39 pm
Lleoliad: Croesoswallt / Wrecsam

Postiogan LowRob » Iau 10 Meh 2004 12:48 pm

Newydd ail-ddarllen neges di-angen - wyt ti'n gwybod sut mae 'gwneud llaeth' yndwyt? Mae dy neges yn awgrymu nad wyt ti'n ymwybodol o drefn naturiol o'r enw 'godro' :ofn:
LowRob
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:39 pm
Lleoliad: Croesoswallt / Wrecsam

Postiogan Geraint » Iau 10 Meh 2004 12:50 pm

Beth sydd yn greulon yw i ddim godro buwch. Os na geithent ei odro, dydy'r llaeth ddim yn diflannu. Ma nhw'n mynd trwy poen enfawr.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan LowRob » Iau 10 Meh 2004 12:55 pm

Ynden wir Geraint, mae dy wybodaeth a dy ddadleuon call wedi gwneud argraff dda iawn arnaf wir!
:D
Trueni na fyddai pawb sy'n lleisio'u barn ar y pwnc yma mor wybodus â ni ynte?
LowRob
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:39 pm
Lleoliad: Croesoswallt / Wrecsam

Postiogan Geraint » Iau 10 Meh 2004 1:37 pm

Ynde. Da ni pobl y canolbarth n gwybod ein stwff.

Piti does na ddim mwy o fobl o Sir Drefaldwyn ar maes-e, fyddai'n lle llawer callach :winc:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Di-Angen » Iau 10 Meh 2004 8:03 pm

LowRob a ddywedodd:Wel, heb fynd i mewn i mechanics y pethau yma, godro yw'r peth naturiol erioed - sut mae mam yn bwydo plentyn?? Mae pobl wedi bod yn godro anifeiliaid ac yn yfed eu llaeth ers miloedd o flynyddoedd.


A ydynt yn cael ei herdio mewn i ystafelloedd i'w wneud? A cael supplements i wneud y siwr bod y llaeth yn ddigon da a bod digon ohono? A cael ei bridio i wneud hyn?

Fel dwedais, dwi ddim yn becso gymaint amdano. Y peth sy'n corddi yw clywed ffermwyr yn dweud eu bod yn "caru" anifeiliaid, neu fel bod rhai ohonynt yn "aelodau o'r teulu". Bullshit. Maent yna i wneud ychydig o arian i'r ffermwyr druan - dydynt ddim yn cael bywyd "naturiol" a does dim pwynt ceisio esgus eu bod nhw. Os mae'r ffermwyr eisiau sympathy ar gyfer eu hachos (a mae gennynt achos iawn mewn agweddau), dylent gadw i ffwrdd o'r ongl yna.
Get out of your fucking seat and jam down to the faggot rhythm of that crackrocksteady beat
Rhithffurf defnyddiwr
Di-Angen
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 833
Ymunwyd: Sul 18 Awst 2002 4:38 pm

Postiogan Gwyddno » Iau 10 Meh 2004 10:30 pm

Garnet Bowen a ddywedodd:Sori i dy ypsetio di, ond toes gen i ddim llawer o gyd-ymdeimlad efo'r ddadl yma fod ffermio yn ffordd o fyw. Busnes a dim arall ydi amaeth. Ac ar y funud, mae o'n fusnes sydd yn methu sefyll ar ei draed ei hun. Pam felly y dylia'r llywodraeth ei gynnal, yn enwedig pan fo hynny'n arwain at newyn yn y trydydd byd?


Efallai am taw 1) ffermwyr sy'n cynhyrchu llawer o'r bwyd rwyt ti'n ei fwyta; 2) pe na byddai ffermwyr yn gofalu am eu tir (rwy'n cyfadde nad yw pob un cystal â'i gilydd o ran hynny) bydde diawl o le 'na, a byddet ti a fi'n ffili mynd i gered yng nghefn gwlad na mwynhau cân yr adar ac ati ac ati; oes rhaid dweud rhagor?

Yn syml iawn mae ffermwyr ac amaethyddiaeth yn hanfodol i gefn gwlad Cymru. Pe na bydde ffermwyr, fydde 'na ddim cefn gwlad. O gwbl. Bydde'r cwbl naill ai'n goedwigoedd conwydd erchyll neu'n goncrît i gyd. Dewis di a gad lonydd i'r ffermwyr sy ond yn gofyn pris teg am eu llafur a'u cynnyrch.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:02 pm
Lleoliad: Ty ar y Mynydd

Postiogan Gwyddno » Iau 10 Meh 2004 10:42 pm

Geraint a ddywedodd:Ynde. Da ni pobl y canolbarth n gwybod ein stwff.

Piti does na ddim mwy o fobl o Sir Drefaldwyn ar maes-e, fyddai'n lle llawer callach :winc:


Ydy bod yn fab i dad o Sir Frycheiniog ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin yn ddigon i fod yn 'Ganolbarthwr Anrhydeddus'? :?
Rhithffurf defnyddiwr
Gwyddno
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 55
Ymunwyd: Gwe 23 Ebr 2004 10:02 pm
Lleoliad: Ty ar y Mynydd

Postiogan Geraint » Gwe 11 Meh 2004 10:14 am

Gwyddno a ddywedodd:
Geraint a ddywedodd:Ynde. Da ni pobl y canolbarth n gwybod ein stwff.

Piti does na ddim mwy o fobl o Sir Drefaldwyn ar maes-e, fyddai'n lle llawer callach :winc:


Ydy bod yn fab i dad o Sir Frycheiniog ac yn byw yn Sir Gaerfyrddin yn ddigon i fod yn 'Ganolbarthwr Anrhydeddus'? :?


Ydi shwr! Ma na dri o ni nawr, ma pethau'n gwella!
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan LowRob » Gwe 11 Meh 2004 10:53 am

Ynden wir, mae pethau'n gwella. Mae Gwyddno hefyd yn siarad sens! :D
Os arhoswch am funud a meddwl beth yn union mae ffermwyr yn ei wneud bob dydd, cewch eich synnu cymaint yw eu cyfraniad at ein hamgylchedd a'n tirwedd, yn ogystal ag economi a diwylliant cefn gwlad Cymru.
Mae'r rhan fwyaf o ffermydd wedi cael eu trin gan yr un teulu ers ganrifoedd, felly'n rhan werthfawr iawn o'n treftadaeth.
Hefyd, fel rhywun sy'n dod o gefndir amaethyddol (dyna syndod i chi de?), byddwn i byth yn ystyried beirniadu diwydiant a diwylliant does gen i ddim profiad ohonynt - fel y mae rhai cyfranwyr wedi'i wneud yma. :(
LowRob
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 27
Ymunwyd: Maw 13 Ebr 2004 3:39 pm
Lleoliad: Croesoswallt / Wrecsam

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 21 gwestai