LowRob a ddywedodd:Ynden wir, mae pethau'n gwella. Mae Gwyddno hefyd yn siarad sens!
[...]
Mae'r rhan fwyaf o ffermydd wedi cael eu trin gan yr un teulu ers ganrifoedd, felly'n rhan werthfawr iawn o'n treftadaeth.
Hefyd, fel rhywun sy'n dod o gefndir amaethyddol (dyna syndod i chi de?), byddwn i byth yn ystyried beirniadu diwydiant a diwylliant does gen i ddim profiad ohonynt - fel y mae rhai cyfranwyr wedi'i wneud yma.
Rwy'n cytuno â Low (yn enwedig y bit am siarad sens) - dw i ddim yn ffermwr (cyw cyfieithydd yf fi) ond mae f'ewyrth a sawl aelod arall o'm teulu yn dal i drin y tir, dyna fy nghymhwyster i mewn gwirionedd (a'r ffaith ein bod ni wedi cadw ychydig o ddefed, da a moch dros y blynyddodd). Rwy'n gweld y ffaith fod pobl mor barod i ymosod ar ffermwyr a'r diwydiant yn gyffredinol yn anheg iawn. Ffermwyr yw asgwrn cefn gwlad. Dych chi ddim yn gwerthfawrogi pwysigrwydd eich asgwrn cefn nes i chi ei dorri, yr un peth gyda ffermio. Os bydd i'r ffermydd ddiflanu, ni'r "cyhoedd" fydd yn dioddef o'r herwydd yn ogystal â'r teuluoedd.
Mae pawb erbyn hyn yn ymwybodol o'r ymgyrchoedd masnachu teg ac ati sy'n cael eu rhedeg er mwyn rhoi amodau masnachu teg i gynhyrchwyr coffi a siocled ac ati yn Ne America, Affrica ac Asia. Beth am i ni gael ymgyrch o'r fath yma yng Nghymru - chwarae teg i'r ffermwyr, pris rhesymol am eu cynnyrch yn gig, llaeth a grawn. Er lles yr economi cyfan. Mae'n hen bryd i ni beidio â bod mor hunanol a mynny talu llai na'i werth am gynnyrch safonol.