Garnet Bowen a ddywedodd: Mae pob un o drigolion yr Undeb Ewropeaidd yn talu tua £16 yr wythnos i gynnal ffermwyr yr undeb.
O'r hyn rwy'n ei ddeall - dwi ddim yn ffermwr felly cael hyn yn ail law ydw i - pe bai'r archfarchnadoedd yn talu pris tecach i'r ffermwyr am eu cynnyrch (a dwi ddim yn sôn am dorri'r banc - mae Tesco yn gwneud miliynau o bunnau o elw bob dydd yn ôl eu canlyniadau diweddara'), efallai na fyddai'n rhaid i'r UE dalu cymaint mewn sybsidïau a'r Llywodraeth mewn Cymhorthdal Incwm iddyn nhw, byddai'n bosibl gwneud bywoliaeth (nid elw ffantastig, ond bywoliaeth fel pawb arall)
a gwarchod yr amgylchedd ar yr un pryd.
Soniodd rhywun am fagiau plastig: ie, cytuno'n llwyr, gwaith y diafol yn nhw, nhw a byrnau mawr (y big bêls) o silwair (sy'n stwff digon ffiaidd beth bynnag).
Mae'n rhaid i'r diwydiant amaeth gael torri'n rhydd o'r syinad ma fod yn rhaid cynhyrchu'r mwya' gallan nhw. Roedd hynny'n iawn yn y '40au a'r '50au yn syth ar ol y rhyfel ond does dim o'i angen e nawr.
Yn olaf, rwy'n addo, y myth fod ffermwyr yn gyfoethog (fel dwedais i, nid ffermwr ydw i). Ydyn, maen nhw'n gyrru cerbydau 4x4 drudfawr a tractorau mawr sy'n costi 20 mil yr un a combeins sy'n costi Duw a wyr faint, ond dyna offer eu gwaith. Yn yr un ffordd a byddech chi neu fi yn cael HP i brynnu car newydd, maen nhw hefyd yn cael HP, ac yn ailforgeisio'u ffermydd ac yn mynd heb wyliau am flynyddoedd lawer er mwyn fforddio talu am y cerbydau angenrheidiol hyn a phrynu dillad ysgol i'r plant, bwyd i'r teulu, ac yn y blaen ac yn y blaen.
Pe bai ffermwr yn gwerthu'r fferm a'r holl offer a chyfarpar byddai gyda fe gannoedd o filoedd o bunnau a dim un man i fyw a dim gwaith. Pa les wnelai hynny i neb?