Ceir vs Beics

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dave drych » Mer 21 Gor 2004 12:24 pm

Y rheswm bod cymaint o 'car culture' yng Nghymru? Dydi Cymru ddim yn FFLAT!! Mae'n ok imi seiclo lawr i dre gan ei fod downhill ond mae'n ffoc o job seiclo'n ol adre. Oherwydd y ffaith yma mae rhaid imi gludo bike carrier car ar fy nghefn a hitchio lifft gan r'wun ac esbonio fy mod yn ddiog.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan trafferth mewn tafarn » Sad 09 Ebr 2005 1:58 pm

unrhywun yng nghaerdydd wthnos ma wedi sylwi mor anodd yw hi i seiclo? tywydd uffernol i fynd nol a mlan i'r gwaith ar y beic. mae di mynd yn anhygol o wyntog a pheryglus! yn aml wedi ca'l yn chwythu o'r lon feics o fla'n ceir. ddim yn sbort wedyn.

a dim ond yr wthnos cynt odd y tywydd yn lysh ar gyfer seiclo -haul yn gwenu, ddim rhy dwym, ddim rhy o'r. tywydd yn nyts!

ond ma ishe mwy o lonydd beics ma. ma cyrdydd hen ddigon fflat i seiclo o le i le, cyhyd a bod lonydd deche i ni. mae'n hala colled arna i pan ma ceir yn gyrru ar y rhan goch. (o hyd ar penarth road :drwg: ) dyw cerddwyr ddim yn hapus pan ych chi ar y palmant. cas rhywun tam bach o palmant-rage arna i cyn y nadolig am fod ar y palmant ar park place! :wps: (byth to!)
trafferth mewn tafarn
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 77
Ymunwyd: Maw 27 Ion 2004 3:38 pm

Postiogan Cartwn 'head » Mer 08 Meh 2005 12:01 am

dave drych a ddywedodd:Mae'n ok imi seiclo lawr i dre gan ei fod downhill ond mae'n ffoc o job seiclo'n ol adre.


Falle nad wyt ti'n fit neu ydi dy feic yn drwm? Mae beic o dan 30 pwys i'w cael am brisiau rhyfeddol o isel y dyddiau yma, ac mae eithafwyr yn adeiladu rhai sydd yn agos i 9 pwys! gw. http://www.light-bikes.com/BikeGallery/
Os nad wyt ti'n fit dyfalbarhad ydi'r ateb, hy. mynd ar y beic yn rheolaidd am o leiaf 5 milltir y tro.
"mae popeth yn y bydysawd yn crynnu" Victor Wooten
Rhithffurf defnyddiwr
Cartwn 'head
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 48
Ymunwyd: Gwe 15 Ebr 2005 4:44 pm
Lleoliad: Cymru

Postiogan CreyrGlas » Iau 30 Meh 2005 6:47 pm

fy mhrofiad i:

cyn pasio'r prawf gyrru, r'on i'n beicio yn aml iawn, i'r dre sydd rhyw 30 munud i ffwrdd bob penwythnos bron. Ond, y broblem 'da neud lot mwy na 'na yw bod yr ardal dwi'n byw ynddi yn fynyddig iawn - lot o fryniau serth (iawn!), ac r'odd beicio i un o'r trefi eraill agos yn cymryd born i awr o duchan, siglo a chwysu. Bendant ddim yn ddatrysiad i fod yn "hot and flustered!"

ers pasio'r prawf gyrru, dwi nawr yn gyrru i bob man. a dwi'n teimlo'n uffernol o euog am y peth. y broblem yw, er mwyn gallu beicio i lefydd rownd ffor hyn, mae angen cyhyrau coesau fel rhai Iolo-dyn-yr-adar, ac mae'n rhaid imi gyfaddef, dwi ddim wedi siapio fel fe! :winc:

dwi' trial mynd mas ar y beic mor aml ag sy'n bosib, ond a oes unrhyw awgrymiadau da unrhyw un am sut i ddatrys y broblem?

beth y'ch chi'n meddwl am feic sydd a motor bach trydan arno? - rhoi'r motor arno i fynd lan y rhiw, a beico lawr :D sorted 8)
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 2 gwestai

cron