fy mhrofiad i:
cyn pasio'r prawf gyrru, r'on i'n beicio yn aml iawn, i'r dre sydd rhyw 30 munud i ffwrdd bob penwythnos bron. Ond, y broblem 'da neud lot mwy na 'na yw bod yr ardal dwi'n byw ynddi yn fynyddig iawn - lot o fryniau serth (iawn!), ac r'odd beicio i un o'r trefi eraill agos yn cymryd born i awr o duchan, siglo a chwysu. Bendant ddim yn ddatrysiad i fod yn "hot and flustered!"
ers pasio'r prawf gyrru, dwi nawr yn gyrru i bob man. a dwi'n teimlo'n uffernol o euog am y peth. y broblem yw, er mwyn gallu beicio i lefydd rownd ffor hyn, mae angen cyhyrau coesau fel rhai Iolo-dyn-yr-adar, ac mae'n rhaid imi gyfaddef, dwi ddim wedi siapio fel fe!
dwi' trial mynd mas ar y beic mor aml ag sy'n bosib, ond a oes unrhyw awgrymiadau da unrhyw un am sut i ddatrys y broblem?
beth y'ch chi'n meddwl am feic sydd a motor bach trydan arno? - rhoi'r motor arno i fynd lan y rhiw, a beico lawr
sorted