(Wedi bod yn disgwyl i rywun ofyn er mwyn i mi gael brolio.)
I lawr drwy Gymru, Llanidloes, Capel y Ffin i Gaerloyw, Avebury, Cor y Cewri, Caersallog, yna'r Fforest Newydd.
Drosodd o Poole i St-Malo, drwy Lydaw i'r pen mwyaf gorllewinol, drwy Brest i Karnag, St-Nazer/St-Nazaire, yna ar draws gwlad drwy Limousin i Angoulême, drwy'r Perigord/Dordogne (a'r ogofâu) heibio Toulouse i Lourdes.
Yna i fyny i'r Pyreneau a Gavarnie (ac i tua 1800m), yna ar hyd y Pyreneau i Hendaye (Bae Biscay), i Donostia (San Sebastian), tren (arrgh) am ei bod yn storm law i Deba, yna arfordir Gwlad y Basg, a Cantabria i Santander.
Aeth Iseldirwr oedd efo fi ar gyfer y rhan olaf o Deba, ac yn seiclo efo hwylfwrdd y tu ôl i'w feic (!), yr holl ffordd i Foroco. Mi oedd o wedi dilyn priffyrdd syth yn lle ffyrdd cefn cwmpasog drwy Ffrainc, ac wedi cymryd dipyn llai o amser.
Tua 1800 milltir i gyd ella (mi wnaeth fy mesurydd dorri tipyn wedi cyrraedd 1000).
Fy nghariad yn bygwth dod efo'i moped ar fy nhaith nesaf, a chludo'r holl drugareddau a pharatoi'r gwersyll - swnio'n rhy hawdd i mi!
Wyt ti/unrhyw un wedi gwneud unrhyw deithiau traws gwlad maith? Roedd rywun y bûm yn sgwrsio â nhw heno wedi mynd ar dandem i Rufain, cyn iddynt adeiladu'r traffyrdd, a lorïau yn yr Eidal yn ceisio eu taro dros y dibyn yn yr Alpau - hollol wallgo seiclo yn y wlad honno, medda fo. Fawr gwell yng Nghymru! Ond pwnc ar gyfer y seiat Crwydro ella.