Ceir vs Beics

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ceir vs Beics

Postiogan Rhodri Nwdls » Iau 22 Ebr 2004 5:43 pm

RET79 a ddywedodd:
Dielw a ddywedodd:Oes na rywun yn seiclo i gwaith yma?
Dwi ddim yn hoff o bobl sy'n seiclo i'r gwaith. Mae o'n beryg.
RET79 a ddywedodd:
Rhodri Nwdls a ddywedodd:Beryg i bwy 'lly? Plant sy'n cerddad i'r ysgol?

*sori off topic braidd*


Wel, mae'n gwneud bywyd yn anodd i'r dreifars, gorfod pasio nhw, gas gen i wneud hynna. Hefyd mae rhai o nhw yn drifftio allan i ganol lon weithia.

Beics i lon beics yn unig plis. Pa flas mae pobl yn gael ar reidio bob bore i'r gwaith dwn i ddim. Mae nhw'n cyrraedd yn chwyslud a gorfod cael cawod buaswn i'n meddwl (os oes un ar gael yn y gweithle). Ych a fi dyna ffordd grap i ddechrau'r dydd.

Ti'n meddwl bo fi isio ceir yn sgrialu heibio i'n ochor i tra'n dynesu at y rowndabowt hunllefus wrth Sblot? Tan allith y llywodraeth roi rhwydwaith o ffyrdd beics gystal a beth sydd yno i geir (yn y dinasoedd o leia) mae gan feicwyr yr un hawl i ddefnyddio'r ffordd a sy' gan geir.

Rhaid i ti a dy deip fod yn fwy gofalus does. :winc:

Allai ddim meddwl am ddim gwaeth na mynd i gwaith heb gael cyfle i glirio mhen, mynd yn sdyc mewn traffig, gorfod ffeindio lle i barcio heb son am dalu trwy nhrwyn am betrol, insiwrans, ayyb ayyb

Son am rywbeth i gael rhywun yn chwyslyd a flustered!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan brenin alltud » Llun 26 Ebr 2004 9:48 am

Cytuno â Nwdls eto... does dim byd gwell i ddeffro rhywun yn bore na neidio ar gefn beic, ond yn cofio seiclo i gwaith yng Nghaerdydd cyn iddyn nhw beintio'r llinellau arbennig, ac o'dd e'n arswydus. Ma' isie bod yn rhywun eitha' hyderus gefn beic mewn dinas i fomio heibio ochr bysus sy' ddim yn 'ych gweld chi, a cheir yn tynnu mas o'ch blaen heb fecso dim am y beic tu nol.

Ges i fraw ddwywaith neu dair yn pedlo ffwl-sbid heibio'r castell rhaid dweud... a theimlo fel kamikaze bob bore!

Ond LOT gwell na dreifio i gwaith. So there.
'Sneb yn becso am yr oen / sneb yn becso am y poen...'
Rhithffurf defnyddiwr
brenin alltud
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 725
Ymunwyd: Maw 09 Medi 2003 4:28 pm
Lleoliad: gyda'r adar mân

Postiogan Wormella » Llun 26 Ebr 2004 10:21 am

Mae gwell gen I beico neu cerdded dros ceir (nid wydd a trwydded guru ta beth). My fy'n nhy hanner awr or prif ysgol a ugain muned or dref a mae fy flatmates yn gyru pobman!!

hyd yn oed ar dyddiau hyfryd fel heddiw
-----------------------------------------------------------
Roedd Frans o'r Wlad Awstria....
Yn yodolan ar mynydd mawr......
Rhithffurf defnyddiwr
Wormella
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 40
Ymunwyd: Llun 26 Ebr 2004 6:47 am
Lleoliad: Lerpwl

Postiogan Dwlwen » Llun 26 Ebr 2004 10:28 am

Wy di cael hen ddigon ar ddiffyg amynedd gyrrwyr wrth i fi seiclo - trial bod yn ddiogel y'n ni, nid mynd mas o'n ffordd i drafferthu chi, a yw hi wir mor wael a 'ny bod angen oedi rhyw funud ychwanegol i basio ni'n ddiogel?
Ma pobl sy'n seiclo ar y palmant fwy annoying yn fy marn i - ond mae'n gwbl ddealladwy fod rhai'n nerfus ynglyn a seiclo ar yr hewl. Ma lonau seiclo Caerdydd yn hwyl, nagyn nhw! cludo chi'n ddiogel lawr ffordd syth, a wedyn just pan bo chi'n dod i rhyw dro lletchwith, diflannu. Cynllunio diddorol iawn.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Llun 26 Ebr 2004 10:37 am

Ie, o'n i'n son mewn edefyn arall am ba mor gach mae lonydd beiciau yn gyffredinol yn y wlad hon, o'u cymharu ag ar gyfandir Ewrop. Ry'n ni'n byw mewn cymdeithas sy'n addoli'r car... :rolio:

O ran diffyg amynedd gyrwyr, un o fy mhrif resymau dros beidio a gyrru hyd yn hyn yw'r ffaith bod pobl gall a synhwyrol yn gallu troi mewn i fwncwn rheibus unwaith eu bod nhw mewn car. Rhyfedd beth.
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan Geraint » Llun 26 Ebr 2004 11:54 am

Dwi wedi gweld rhai llefydd yn y DU efo lonydd beiciau gwych ar hyd ffyrdd, e.e Caerlyr, lle mae lanes gwahanol i feics, a hyd yn oed goleadau gwahanol.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Dwlwen » Llun 26 Ebr 2004 12:04 pm

...a ma Rhydychen yn dda iawn 'fyd. Mwya o bobl eith ati i ddefnyddio beic, y fwya tebygol fydd y Cyngor o neud rhywbeth am sefyllfa'r lonydd.
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil

Postiogan DAN JERUS » Llun 26 Ebr 2004 3:33 pm

Ma'n gas gennai'r pobl ma sy'n reidio beics ar y palmant.S'nam byd gwaeth 'na cerdded lawr palmant llawn a phrysur a pawb o pob oedran a thras yn gorfod symud i un ochr i rhyw dwat sydd wedi penderfynnu defnyddio'r palmant fatha'u llwybr beic nhw'u hunain.Unai reidwch ar y ffordd neu cerddwch y ffycars! 8)
Ai beg ior pardyn, ai nefyr shagd iw in a rose garden!
DAN JERUS
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1086
Ymunwyd: Mer 29 Hyd 2003 3:11 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan RET79 » Llun 26 Ebr 2004 6:29 pm

DAN JERUS a ddywedodd:Ma'n gas gennai'r pobl ma sy'n reidio beics ar y palmant.S'nam byd gwaeth 'na cerdded lawr palmant llawn a phrysur a pawb o pob oedran a thras yn gorfod symud i un ochr i rhyw dwat sydd wedi penderfynnu defnyddio'r palmant fatha'u llwybr beic nhw'u hunain.Unai reidwch ar y ffordd neu cerddwch y ffycars! 8)


Cytuno. Wel, fuaswn i ddim yn rhoi y dewis. Cerddwch yw'r unig opsiwn gen i. Dim lon beics? Cerddwch.
RET79
Rhithffurf defnyddiwr
RET79
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1935
Ymunwyd: Sul 01 Meh 2003 8:58 pm

Postiogan Dylan » Maw 27 Ebr 2004 2:38 pm

Tra 'dw inna' hefyd yn casáu pobl sy'n reidio'u beics ar y palmant, alla' i ddim dallt y broblem fel arall. Mae'n sicr yn well na gyrru, ac yn gyflymach o lawer na cherdded.
Rhithffurf defnyddiwr
Dylan
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3282
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 7:59 pm
Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Lleoliad: Caernarfon

Nesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 3 gwestai

cron