Ceir vs Beics

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan ffwrchamotobeics » Maw 22 Meh 2004 12:45 pm

Ma ceir yn ffast, ac mae'n amhosib shelffo ar feic, heb son am Ddoggio,so there
Rhithffurf defnyddiwr
ffwrchamotobeics
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 912
Ymunwyd: Mer 27 Awst 2003 9:06 am
Lleoliad: llanbibo

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 22 Meh 2004 12:52 pm

Ia, ond wyt ti 'di trio gneud erioed ffwrch? Oes unrhywun awydd fy helpu i wneud arbrawf i weld os 'di o'n bosib?
A mae beic fi yn ffast.
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 22 Meh 2004 4:05 pm

Wedi prynu beic newydd dros y penwythnos wedi i ryw gont ddwyn y llall (ia meiji, y diwrnod yna adawais i o yn dre...). Tourer bach handi efo popeth sy' angan ar gyfer gneud y nhaith o Fon i Fynwy.

*oddiarypwnc*
Cwestiwn arall, ddylia nhw gael locyps beics yng nghanol Caerdydd neu yn y meusydd parcio? Dwi'm yn trystio gadael y cont yna rwan hyd yn oed efo clo £20. Faswn i'n ei ddefnyddio, a dwi'n siwr fod na ddigon o bobol efo beics drud (ac yswirwyr craff) i neud hynny.

Rhywun isio cychwyn busnas? :D
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 22 Meh 2004 5:00 pm

Sori nwdls. Cachfa am dy hen feic.
Cofia, mae o'n even gwaeth pan mae gen ti panniers a ballu, os ti'n stopio i biso ti'n gorfod tynnu bob dim off y beic a mynd a nhw efo chdi.
Dylsa fod pob tre' fod efo rwla saff i storio beics ond ma'r miri terfysgaeth ma 'di roid y caibosh ar left lygij yn bobman yndi.
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan mred » Gwe 25 Meh 2004 12:41 am

Gormod o strach tynnu paniers! Fydda i ddim yn trafferthu pan yn tourio, a neb erioed wedi dwyn dim (yn cynnwys yn ystod taith 2 fis a hanner). Jyst rho dy sanau budr yn nhop y bagiau!
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Meiji Tomimoto » Llun 28 Meh 2004 2:42 pm

Syniad da! Lle fues ti yn beicio am ddau fis a hanner ta mred?
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan mred » Llun 28 Meh 2004 10:57 pm

(Wedi bod yn disgwyl i rywun ofyn er mwyn i mi gael brolio.) :winc: I lawr drwy Gymru, Llanidloes, Capel y Ffin i Gaerloyw, Avebury, Cor y Cewri, Caersallog, yna'r Fforest Newydd.

Drosodd o Poole i St-Malo, drwy Lydaw i'r pen mwyaf gorllewinol, drwy Brest i Karnag, St-Nazer/St-Nazaire, yna ar draws gwlad drwy Limousin i Angoulême, drwy'r Perigord/Dordogne (a'r ogofâu) heibio Toulouse i Lourdes.

Yna i fyny i'r Pyreneau a Gavarnie (ac i tua 1800m), yna ar hyd y Pyreneau i Hendaye (Bae Biscay), i Donostia (San Sebastian), tren (arrgh) am ei bod yn storm law i Deba, yna arfordir Gwlad y Basg, a Cantabria i Santander.

Aeth Iseldirwr oedd efo fi ar gyfer y rhan olaf o Deba, ac yn seiclo efo hwylfwrdd y tu ôl i'w feic (!), yr holl ffordd i Foroco. Mi oedd o wedi dilyn priffyrdd syth yn lle ffyrdd cefn cwmpasog drwy Ffrainc, ac wedi cymryd dipyn llai o amser.

Tua 1800 milltir i gyd ella (mi wnaeth fy mesurydd dorri tipyn wedi cyrraedd 1000).

Fy nghariad yn bygwth dod efo'i moped ar fy nhaith nesaf, a chludo'r holl drugareddau a pharatoi'r gwersyll - swnio'n rhy hawdd i mi!

Wyt ti/unrhyw un wedi gwneud unrhyw deithiau traws gwlad maith? Roedd rywun y bûm yn sgwrsio â nhw heno wedi mynd ar dandem i Rufain, cyn iddynt adeiladu'r traffyrdd, a lorïau yn yr Eidal yn ceisio eu taro dros y dibyn yn yr Alpau - hollol wallgo seiclo yn y wlad honno, medda fo. Fawr gwell yng Nghymru! Ond pwnc ar gyfer y seiat Crwydro ella.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 29 Meh 2004 8:30 am

Hynod impressed! - Cyfan dwi 'di neud ydi o dre i Gaerdydd, via Aberystwyth - ar draws i'r Gelli Gandryll a lawr wedyn am Gaerdydd. Oeddwn i isho mynd yn fy mlaen i Gas-Gwent neu rwla (Bach fatha Forest Gump!) ond mai'n anodd cael amser o gwaith.
Faswn i wrth fy modd yn neud ffasiwn daith! 'sgwenaist ti gofnod/dyddiadur ne' 'wbath?
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Meiji Tomimoto » Maw 29 Meh 2004 8:44 am

Oeddwn i 'di anghofio! fues i'n seiclo yn Ne Ffrainc - trio mynd o Perpignan i Barcelona yn Ganol haf ar feic oedd 'di torri! Cysgu ar draethau - tua hanner ffordd yno, yna mi ddaeth y glaw! Fellu tren o ochr draw arfordir Spaen.
Fues i'n ardal Milan/Verona stalwm iawn hefyd. Y marmor pinc yn Verona fatha sglefrio ia, ac mae grisia' ar y strydoedd cul i gyd - Peryg bywyd!
Ond wir, Ma' "Lucky escapes" fi i gyd 'di bod ar y ffordd adra o gwaith,
dim disgyn na dim, jest gyrrwyr yn penderfynnu am bod fi ddim yn neud swn "Brrrrrrwmmm" 'mod i'n anweledig hefyd.
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan Rhodri Nwdls » Maw 29 Meh 2004 11:17 am

Meiji Tomimoto a ddywedodd:jest gyrrwyr yn penderfynnu am bod fi ddim yn neud swn "Brrrrrrwmmm" 'mod i'n anweledig hefyd.

Swnio'n gyfarwydd iawn...ma'r flyover wrth y majic rowndabowt yn gont o le a ma nhw newydd deneuo'r ffordd! Ma nhw'n trio ngorfodi fi i fynd ar y palmant.

mred: bladi hel! Clamp o daith!
Maes-eio ers 2002, yo.
Rhithffurf defnyddiwr
Rhodri Nwdls
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3061
Ymunwyd: Sad 23 Tach 2002 4:31 pm
Lleoliad: Maesymwstwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 11 gwestai