RET79 a ddywedodd:Dwi ddim yn hoff o bobl sy'n seiclo i'r gwaith. Mae o'n beryg.Dielw a ddywedodd:Oes na rywun yn seiclo i gwaith yma?
RET79 a ddywedodd:Rhodri Nwdls a ddywedodd:Beryg i bwy 'lly? Plant sy'n cerddad i'r ysgol?
*sori off topic braidd*
Wel, mae'n gwneud bywyd yn anodd i'r dreifars, gorfod pasio nhw, gas gen i wneud hynna. Hefyd mae rhai o nhw yn drifftio allan i ganol lon weithia.
Beics i lon beics yn unig plis. Pa flas mae pobl yn gael ar reidio bob bore i'r gwaith dwn i ddim. Mae nhw'n cyrraedd yn chwyslud a gorfod cael cawod buaswn i'n meddwl (os oes un ar gael yn y gweithle). Ych a fi dyna ffordd grap i ddechrau'r dydd.
Ti'n meddwl bo fi isio ceir yn sgrialu heibio i'n ochor i tra'n dynesu at y rowndabowt hunllefus wrth Sblot? Tan allith y llywodraeth roi rhwydwaith o ffyrdd beics gystal a beth sydd yno i geir (yn y dinasoedd o leia) mae gan feicwyr yr un hawl i ddefnyddio'r ffordd a sy' gan geir.
Rhaid i ti a dy deip fod yn fwy gofalus does.
Allai ddim meddwl am ddim gwaeth na mynd i gwaith heb gael cyfle i glirio mhen, mynd yn sdyc mewn traffig, gorfod ffeindio lle i barcio heb son am dalu trwy nhrwyn am betrol, insiwrans, ayyb ayyb
Son am rywbeth i gael rhywun yn chwyslyd a flustered!