Mi fydda'i'n ddiddorol cynnal ryw fath ar arolwg anffurfiol ar ddosbarthiad y gog drwy Gymru y gwanwyn/haf yma - trefnir arolygon cyffelyb gan y YOC yn flynyddol.
Credir bod dosbarthiad y gog wedi crebachu cryn dipyn yn ystod y genhedlaeth ddiwethaf. Fy nghred i ydi ei bod yn aderyn mynydd-dirol i raddau helaeth bellach, llawer o'i chynefin llawr gwlad wedi'i ddifetha gan amaethu gor-ddwys. Beth bynnag, eleni rwyf wedi'i chlywed nifer o weithiau:-
1) bryniau ger Capel Curig
2) uwchlaw Tregarth/Sling
3) ger Deiniolen.
Ychwanegu dau arall! (Meh 4)
4) Nant Gwynant
5) Blaen Nanmor
Unrhyw gofnodion eraill gan bobl?