wedi clywed y gog?

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

wedi clywed y gog?

Postiogan mred » Gwe 04 Meh 2004 12:09 am

Mi fydda'i'n ddiddorol cynnal ryw fath ar arolwg anffurfiol ar ddosbarthiad y gog drwy Gymru y gwanwyn/haf yma - trefnir arolygon cyffelyb gan y YOC yn flynyddol.

Credir bod dosbarthiad y gog wedi crebachu cryn dipyn yn ystod y genhedlaeth ddiwethaf. Fy nghred i ydi ei bod yn aderyn mynydd-dirol i raddau helaeth bellach, llawer o'i chynefin llawr gwlad wedi'i ddifetha gan amaethu gor-ddwys. Beth bynnag, eleni rwyf wedi'i chlywed nifer o weithiau:-

1) bryniau ger Capel Curig

2) uwchlaw Tregarth/Sling

3) ger Deiniolen.

Ychwanegu dau arall! (Meh 4)

4) Nant Gwynant

5) Blaen Nanmor

Unrhyw gofnodion eraill gan bobl?
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Geraint » Gwe 04 Meh 2004 1:32 am

Wedi ei chlywed yn Ystalafera blwyddyn yma.

Wedi diflannu bellach o lle gefais fy magu, Mochdre ger Drenewydd. O ni arfer ei chlywed pob blwyddyn tan rhai blynyddoedd yn ol. Newyddion da i'r adar a oeddent yn pigo ar.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan denzil dexter » Iau 10 Meh 2004 11:47 am

do wir, mi glywes i un uchel ei chloch yn cerdded ar hyd stryd fawr Bangor! wedi dweud hynny, roedd na lot ohonnyn nhw..
mae'n ddrwg geni os dwi wedi camddeall :P
Rhithffurf defnyddiwr
denzil dexter
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 537
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 9:17 am
Lleoliad: Os na dwi'n fan hyn - dwi rhwle'n agos!

Postiogan Geraint » Iau 10 Meh 2004 11:52 am

wa-wa-waaa :rolio:

[pwyntio at y band, sy'n taro symbol]

[fel Rhydwen Bowen Phillips]

:lol:
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Gwahanglwyf Dros Grist » Iau 10 Meh 2004 11:54 am

Geraint a ddywedodd:wa-wa-waaa :rolio:

[pwyntio at y band, sy'n taro symbol]

[fel Rhydwen Bowen Phillips]

:lol:


Hei, nawr gwed 'shamone' a gad i'r diafol hwpo'i bidyn lawr dy gorn gwddw'... :rolio:
I think I'll call myself Donald Twain.
Rhithffurf defnyddiwr
Gwahanglwyf Dros Grist
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 8063
Ymunwyd: Maw 06 Mai 2003 3:30 pm
Lleoliad: Rhyw burdan di-derfyn

Postiogan denzil dexter » Iau 10 Meh 2004 12:04 pm

(denzil dexter yn moesymgrymu) sori ond roedd hi mor amlwg a rhechen mewn car!! 8)
Rhithffurf defnyddiwr
denzil dexter
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 537
Ymunwyd: Gwe 10 Hyd 2003 9:17 am
Lleoliad: Os na dwi'n fan hyn - dwi rhwle'n agos!

Postiogan Leusa » Iau 10 Meh 2004 10:08 pm

Cwm Nantcol (Dyffryn Ardudwy)
o meri an meri an meri an se dore mi jac y do jac y do galileo mi mi mi galileo mi mi mi
Rhithffurf defnyddiwr
Leusa
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 3035
Ymunwyd: Gwe 28 Chw 2003 11:52 pm

Postiogan Dwlwen » Gwe 11 Meh 2004 8:42 am

Tymbl Uchaf, ar y ffordd i Llannon
Hold on just a second
Don't tell me this one you know
I know this one I know this song
I know this one I love this song

pictiwrs
Rhithffurf defnyddiwr
Dwlwen
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2307
Ymunwyd: Maw 10 Chw 2004 1:34 pm
Lleoliad: mewn bola morfil


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 27 gwestai