Cynhesu Byd Eang a'r "Day After Tomorrow"

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Cynhesu Byd Eang a'r "Day After Tomorrow"

Postiogan Mali » Llun 14 Meh 2004 2:43 am

'Roedd Ed Begley Jnr [ rhywun yn cofio St Elsewhere?] yn Vancouver yr wythnos diwethaf yn sefyll tu allan i sinema oedd yn dangos y ffilm 'The Day After Tomorrow'. 'Roedd yn trio tynu sylw pobl tuag at beryglon 'global warming'. Fe deithiodd yma yr holl ffordd o California mewn modur bychan hybrid - hanner gas a hanner trydan.
Ddim yn siwr os ydi'r ffilm wedi ymddangos acw eto. Beth bynnag dyma fraslun ohono: <a href="http://metromix.chicagotribune.com/movies/mmx-040526-movies-review-mw-dayafter,0,6541330.story?coll=mmx-movies_top_heds">adolygiad yn y Chicago Herald</a>.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan mred » Maw 15 Meh 2004 12:02 am

Mi fuom ni'n ei gweld hi heno.

Yr ymateb cyffredinol oedd bod y pwnc yn sicr yn un difrifol (serch bod y cyfryngau'n rhoi sylw anhaeddiannol i farn ciwed fechan o siwdo-wyddonwyr sy'n gwrthod y ffenomenon am resymau ynghlwm â budd personol), ond na lwyddodd y cyfarwyddwr i wneud dim ond trifialeiddio'r broblem.

Drwy ganolbwyntio ar hynt a helynt un grŵp o bobl, nad oedd yn ennyn cydymdeimlad beth bynnag (yn wahanol i hyd yn oed blocbyster megis Towering Inferno), collwyd golwg ar yr effeithiau erchyll byd-eang. Hefyd, roedd yr argraff y byddai'r tywydd wedi setlo i'w batrwm newydd o fewn ychydig wythnosau yn anghredadwy.

Ac onid ymateb yr UD (ac Ewrop/Rwsia efallai) i Oes yr Iâ newydd yn eu gwledydd fyddai bomio strwythurau gwledydd i'r de, e.e. Mecsico, a'u gwladychu, yn hytrach nag erfyn i gael lloches fel ffoaduriaid?

Efallai y byddai fformat hanner rhaglen ddogfen/hanner ffilm yn gweddu'n well i'r pwnc.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Mali » Mer 16 Meh 2004 3:32 am

Helo Mred,
Heb weld y ffilm eto, ond yn gobeithio mynd i'w weld dros y penwythnos, gan ei fod ymlaen yn y dref agosaf atom.
Fe dynwyd fy sylw at y ffilm i gychwyn gan sylwadau Dr David Suzuki ar raglen foreuol ar Radio CBC yr wythnos diwethaf. Dyma ei safle we.
http://www.davidsuzuki.org/

Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan Llyfwr Pwdin Blew » Mer 16 Meh 2004 10:04 am

Ffilm difrifol. Sut all unrhyw berson lyncu'r eglurgad a roddwyd yn y ffilm am pam plymiodd y byd i oes ia arall o fewn 48 awr!

Mae cynhyrchydd y ffilm angen gwersi daearyddiaeth er mwyn iddo sylweddoli nad yw tywydd oer yn creu corwyntoedd gwyllt, a bod y syniad o wrthdroad tymheredd eithafol o fewn llygad y storm yn chwerthinllyd.

Rhowch y ffilm"Deep Impact" i mi unrhyw ddydd - oleiaf mae'n gredadwy ac wedi ei seilio ar ffeithiau cywir!
Rhithffurf defnyddiwr
Llyfwr Pwdin Blew
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 239
Ymunwyd: Gwe 05 Medi 2003 10:43 am
Lleoliad: Sir Ddinbych


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 25 gwestai