Mae'r tir wedi'i ddefnyddio gan genedlaethau o drigolion y ddinas i hamddena. Mae bioamrywiaeth y caeau, sy'n gymysgedd o ddolydd blodeuog, coedlannau, coedydd gwlyb a gwlyptiroedd, yn hynod o ran safle trefol, ac yn haeddu ei warchod. Cofnodwyd mwy na 900 rhywogaeth yno, yn cynnwys mathau prin megis y llafnlys mwyaf, gorfanc mwyaf, tylluan glustiog, ystlum noctule, troellwr bach, ffwlbart. Gan ei fod ar drothwy dwy ysgol, mae'n fan hynod hwylus ar gyfer addysgu plant ynglŷn â byd natur.
Dyma union eiriau Dafydd Iwan, llefarydd y cyngor, yn y papurau ar y pryd, yn rhoi addewid pendant y byddai gwarchodfa'n cael ei sefydlu:
Bangor & Anglesey Mail 1/07/1998; Bangor Chronicle 9/07/1998 a ddywedodd: ...On the other hand, planning approval for housing development on other sites at Bangor must be taken into consideration, and nature conservation and the feelings of local inhabitants, must as always be given high priority.
Cyngor Gwynedd has been engaged in a very difficult and complicated process of looking at all the factors and options regarding this site [Eithinog a Chaeau Briwas], and a final package of plans is now nearing completion. It will, of course, not please everyone, but I believe it represents a major step forward in many ways.
Central to it all is Gwynedd's determination to safeguard a large area of land on this site, and adjoining sites, free from all development in the future and to keep it in its natural state.
In fact, there will be a plan put into place to manage it as a natural reserve. House development will be drastically reduced from that originally envisaged by Arfon, and this will be phased hopefully through the new Unitary plan over a considerable period of time.
...I feel confident the new Gwynedd proposals will meet with most of the fears expressed over the past few months.
- Cynghorydd Dafydd Iwan [Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Ardal Arfon]
Parchwyd ffiniau'r warchodfa natur arfaethedig yn nrafft cyntaf Cynllun Datblygu Unedig newydd y sir a gyhoeddwyd yn 2002, ac yn wir neilltuwyd ardaloedd eraill o werth naturiol uchel yn y caeau a nodwyd gan ymgyrchwyr yn y broses ymgynghori.
Wythnos yn ôl, fodd bynnag, heb ei hysbysebu (yn groes i'r gyfraith fe dybir), arddangoswyd y drafft terfynol am ddiwrnod yn Llyfrgell Bangor, gydag ond mis a hanner i'r cyhoedd ymateb, a gwyliau ysgol ar y trothwy. Roedd y cynlluniau ar gyfer y caeau wedi'u gweddnewid, mwy o dai hyd yn oed nag yn y cynlluniau dinistriol gwreiddiol i'w codi, ond darnau bychain o dir agored i'w cadw, ac addewidion Cyngor Gwynedd a Dafydd Iwan i sefydlu gwarchodfa natur gymunedol wedi'u torri'n chwilfriw.
Nid pwrpas yr ail ddrafft yw rhoi cynlluniau munud olaf amhoblogaidd i mewn er mwyn lleihau atebolrwydd a mewnbwn y cyhoedd, ond mae'n amlwg i mi bod Plaid Cymru a Chyngor Gwynedd wedi bod yn twyllo pobl Bangor o'r cychwyn. Doedd ganddynt erioed fwriad i sefydlu gwarchodfa yn Eithinog. Yma, maent wedi profi'n ddiymwad bod pres yn llawer pwysicach iddynt na'r cymunedau y maent i fod i'w meithrin a'u gwarchod.
Dyma dir y mae cenedlaethau o blant wedi medru dianc iddo rhag peryglon trafnidiaeth i ymhyfrydu ym myd natur - dyma lle tyfodd fy niddordeb i a'm mrawd a'm chwiorydd genhedlaeth yn ôl. Mae fy mrawd bellach yn gofnodwr planhigion swyddogol yn yr Alban. Mae un arall o hogiau'r ardal yn warden RSPB ym Môn. Ac o fynd am dro ar hyd y rhwydwaith o lwybrau drwy'r caeau ac ar hyd y gwrychoedd, yn bell o sŵn traffig (yr unig le ym Mangor), fe welwch bensiynwyr a phobl o bob oed fel ei gilydd yn ymhyfrydu yn y tirlun arbennig a'r heddwch. Heb y caeau, byddai rhaid i filoedd o bobl y cylch fynd am dro ar hyd palmentydd, yn anadlu mwg traffig Bangor.
Diolch yn fawr Cyngor Gwynedd. Diolch yn fawr Plaid Cymru. Diolch yn fawr Dafydd Iwan. Rhag eich cywilydd chi. O leiaf mae Dai Lloyd Evans yn onest ac yn agored ynglŷn â'i fwriadau. Mae unrhyw honiad sydd gan Wynedd o fod yn gyngor gwyrdd wedi'i chwalu'n chwilfriw yn Eithinog a Chaeau Briwas, ac unrhyw egwyddorion oedd gan Blaid Cymru ar un adeg wedi mynd dros gof yn eu hawydd barus am arian.