Eithinog, Bangor: Addewidion Dafydd Iwan yn cael eu torri

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Ydi Cyngor Gwynedd o ddifri ynglyn â gwarchod bioamrywiaeth y sir?

Ydi
3
38%
Nac ydi
5
63%
 
Cyfanswm pleidleisiau : 8

Eithinog, Bangor: Addewidion Dafydd Iwan yn cael eu torri

Postiogan mred » Sul 27 Meh 2004 12:02 am

Yn 1998, wedi ymgyrch faith gan bobl leol ac amgylcheddwyr oedd â chefnogaeth Cymdeithas Byd Natur Gogledd Cymru a Chyfeillion y Ddaear, cytunodd Cyngor Gwynedd o'r diwedd i neilltuo peth o safle 50 acer ar ymyl Bangor yr oeddynt yn benderfynol gynt i'w werthu i godi bron i 300 o dai, Eithinog a Chaeau Briwas, yn warchodfa natur gymunedol. Y bwriad oedd i ymddiriedolaeth o bobl leol reoli'r warchodfa. Gorfodwyd y penderfyniad gan olygfeydd o deirw dur a heddlu'n meddiannu gwersylloedd a dinistrio coed llawndwf a gwrychoedd, gyda phobl leol yn gorymdeithio drwy'r ddinas mewn protest, a adlewyrchodd yn ddrwg iawn ar ddelwedd y cyngor.

Mae'r tir wedi'i ddefnyddio gan genedlaethau o drigolion y ddinas i hamddena. Mae bioamrywiaeth y caeau, sy'n gymysgedd o ddolydd blodeuog, coedlannau, coedydd gwlyb a gwlyptiroedd, yn hynod o ran safle trefol, ac yn haeddu ei warchod. Cofnodwyd mwy na 900 rhywogaeth yno, yn cynnwys mathau prin megis y llafnlys mwyaf, gorfanc mwyaf, tylluan glustiog, ystlum noctule, troellwr bach, ffwlbart. Gan ei fod ar drothwy dwy ysgol, mae'n fan hynod hwylus ar gyfer addysgu plant ynglŷn â byd natur.

Dyma union eiriau Dafydd Iwan, llefarydd y cyngor, yn y papurau ar y pryd, yn rhoi addewid pendant y byddai gwarchodfa'n cael ei sefydlu:

Bangor & Anglesey Mail 1/07/1998; Bangor Chronicle 9/07/1998 a ddywedodd: ...On the other hand, planning approval for housing development on other sites at Bangor must be taken into consideration, and nature conservation and the feelings of local inhabitants, must as always be given high priority.

Cyngor Gwynedd has been engaged in a very difficult and complicated process of looking at all the factors and options regarding this site [Eithinog a Chaeau Briwas], and a final package of plans is now nearing completion. It will, of course, not please everyone, but I believe it represents a major step forward in many ways.

Central to it all is Gwynedd's determination to safeguard a large area of land on this site, and adjoining sites, free from all development in the future and to keep it in its natural state.

In fact, there will be a plan put into place to manage it as a natural reserve. House development will be drastically reduced from that originally envisaged by Arfon, and this will be phased hopefully through the new Unitary plan over a considerable period of time.

...I feel confident the new Gwynedd proposals will meet with most of the fears expressed over the past few months.

- Cynghorydd Dafydd Iwan [Cadeirydd Pwyllgor Cynllunio Ardal Arfon]

Parchwyd ffiniau'r warchodfa natur arfaethedig yn nrafft cyntaf Cynllun Datblygu Unedig newydd y sir a gyhoeddwyd yn 2002, ac yn wir neilltuwyd ardaloedd eraill o werth naturiol uchel yn y caeau a nodwyd gan ymgyrchwyr yn y broses ymgynghori.

Wythnos yn ôl, fodd bynnag, heb ei hysbysebu (yn groes i'r gyfraith fe dybir), arddangoswyd y drafft terfynol am ddiwrnod yn Llyfrgell Bangor, gydag ond mis a hanner i'r cyhoedd ymateb, a gwyliau ysgol ar y trothwy. Roedd y cynlluniau ar gyfer y caeau wedi'u gweddnewid, mwy o dai hyd yn oed nag yn y cynlluniau dinistriol gwreiddiol i'w codi, ond darnau bychain o dir agored i'w cadw, ac addewidion Cyngor Gwynedd a Dafydd Iwan i sefydlu gwarchodfa natur gymunedol wedi'u torri'n chwilfriw.

Nid pwrpas yr ail ddrafft yw rhoi cynlluniau munud olaf amhoblogaidd i mewn er mwyn lleihau atebolrwydd a mewnbwn y cyhoedd, ond mae'n amlwg i mi bod Plaid Cymru a Chyngor Gwynedd wedi bod yn twyllo pobl Bangor o'r cychwyn. Doedd ganddynt erioed fwriad i sefydlu gwarchodfa yn Eithinog. Yma, maent wedi profi'n ddiymwad bod pres yn llawer pwysicach iddynt na'r cymunedau y maent i fod i'w meithrin a'u gwarchod.

Dyma dir y mae cenedlaethau o blant wedi medru dianc iddo rhag peryglon trafnidiaeth i ymhyfrydu ym myd natur - dyma lle tyfodd fy niddordeb i a'm mrawd a'm chwiorydd genhedlaeth yn ôl. Mae fy mrawd bellach yn gofnodwr planhigion swyddogol yn yr Alban. Mae un arall o hogiau'r ardal yn warden RSPB ym Môn. Ac o fynd am dro ar hyd y rhwydwaith o lwybrau drwy'r caeau ac ar hyd y gwrychoedd, yn bell o sŵn traffig (yr unig le ym Mangor), fe welwch bensiynwyr a phobl o bob oed fel ei gilydd yn ymhyfrydu yn y tirlun arbennig a'r heddwch. Heb y caeau, byddai rhaid i filoedd o bobl y cylch fynd am dro ar hyd palmentydd, yn anadlu mwg traffig Bangor.

Diolch yn fawr Cyngor Gwynedd. Diolch yn fawr Plaid Cymru. Diolch yn fawr Dafydd Iwan. Rhag eich cywilydd chi. O leiaf mae Dai Lloyd Evans yn onest ac yn agored ynglŷn â'i fwriadau. Mae unrhyw honiad sydd gan Wynedd o fod yn gyngor gwyrdd wedi'i chwalu'n chwilfriw yn Eithinog a Chaeau Briwas, ac unrhyw egwyddorion oedd gan Blaid Cymru ar un adeg wedi mynd dros gof yn eu hawydd barus am arian.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan jimkillock » Sul 27 Meh 2004 8:15 pm

Neges hir, ond gwerthfawr.

Dyma'r gwirionedd am ba mor "gwyrdd" yw Cyngor gwynedd, ac mae rhaid i Bliad Cymru cymryd cyfrifoldeb - ac newid y sefyllfa, neu gymryd y canlyniadau ...
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Meiji Tomimoto » Llun 28 Meh 2004 3:00 pm

Siomedig iawn. a thrist hefyd. O'n i arfer byw yn Lon y Deri ac wrth fy modd yn y caeau 'na.
Dwi'n cael trafferth pob tro efo'r ail bleidlais - dim tro nesa.
Rhithffurf defnyddiwr
Meiji Tomimoto
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 485
Ymunwyd: Iau 16 Hyd 2003 3:45 pm

Postiogan mred » Mer 30 Meh 2004 12:12 pm

Eitha sicr y gwnaiff Plaid ddioddef yn etholiadol os ceisir cadarnhau'r penderfyniad yma, mae sylw mawr yn mynd i gael ei roi yn y cyfryngau i hyn. Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru eisoes yn gwrthwynebu ar sail bioamrywiaeth.

Os ydi aelodau Plaid yng Ngwynedd - maes-e-wyr/wragedd yn eu mysg - yn gwrthwynebu'r anonestrwydd yma - a digon posib mai swyddogion Cyngor Gwynedd wnaeth awgrymu'r cynllun tai yn y lle cyntaf, ond bod cynghorwyr Plaid wedi'i gymeradwyo - dylent bwyso rhag blaen ar gynrychiolwyr y Blaid i'w ddileu.
A'm ysgwyd ar fy ysgwydd a'm cledd ar fy nghlun,
Ac yng Nghoed Celyddon y cysgais fy hun.
Rhithffurf defnyddiwr
mred
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 163
Ymunwyd: Sad 22 Tach 2003 2:15 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan S.W. » Mer 30 Meh 2004 12:28 pm

Dwi heb fyw yng Ngwynedd yn hir iawn a felly ddim yn gwybod lot o'r manylion. Os ydy'r trigolion lleol yn anhapus a hyn yna ar pob cyfri dylid cwyno i Blaid Cymru ar y Cyngor Sir a hefyd yr AC/AS.

Problem ydy bod gymiant o sylw wedi cael ei rhoi i adeiladu tai fforddiadwy i bobl lleol yng Ngwynedd bod pobl yn edrych ymhob man am safleoedd iw datblygu. Mae hyn yn fy mhoeni fi gymaint a'r diffyg tai fforddiadwy. Cyn mynd ati i adeiladu tai newydd ar dir gwyrdd dylid gwneud defydd mawr o dir brown ac ati yn gyntaf a hefyd rheoli tai haf ac ati.

Un or rhesymau fy mod wedi hoffi byw yng Ngwynedd yw ei bod hi'n ardal mor wledig a hardd a byddai adeliadu tai ar hap yn spwylio hyn i bawb ac yn amharu ar gymeriad y lle.

Dwin credu'n gryf y dylai bod pobl lleol yn cael mwy o lais ar bethau fel yma a bod cyfle yn cael ei roi iddynt awgrymu safloedd eraill os oes wir angen y datblygiadau hyn yn rhywle.
Rhithffurf defnyddiwr
S.W.
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 3262
Ymunwyd: Sad 15 Tach 2003 11:02 am

Postiogan jimkillock » Sul 18 Gor 2004 9:49 am

Chydig o wybodaeth pellach: mae Cyngor Gwynedd wedi cytuno i arolwg natur, ond ar yr un pryd wedi datgelu eu bwriad i roi ffordd osgoi drwy'r safle i gyd (buasai'n mynd drwy'r safleoedd mwya sensitif).

Mynd mlaen efo'r protestiadau, byddan ni, ond dan ddim heb obaith bydd Cyngor Gwynedd yn newid eu meddwl gan gysidro canlyniadau eu arolwg ac mwy, barn y bobl leol.

Diddorol bod pobl ar y safle yma'n cyfarwydd â'r caeau.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor


Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 31 gwestai