Protest yn erbyn fferm wynt

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan bibopalwla » Gwe 08 Gor 2005 1:56 pm

Ynni niwclear yw'r unig ateb. Mae'n rhad ac mae digonedd i'w gael a dyw e'n gwneud dim drwg i'r amgylchedd. Tan bod ni'n gorfod delio gyda'r gwastraff. Mae angen buddsoddi miliynau, onid biliynau, mewn datblygu technoleg i greu egni o'r gwastraff. Dwi ddim yn wyddonydd, ond o'r ymchwil dwi di neud, mae'n nhw'n swnio'n optimisig fod e'n bosib.

Ma' melynau gwynt yn wastraff amser ac arian ac yn creu difrod amgylcheddol anferth. Dim 'greenhouse gases' a shit falle, ond reit rownd iddyn nhw, ma'r effeithie'n wael iawn.

O ran Chernobyl, wel, lol yw son amdano fe. Damwain mewn hen orsaf sofietaidd nad oedd yn cael ei gynnal yn iawn. Mae technoleg wedi symud mla'n cryn dipyn hyd yn oed ers hynny.

Niwclear ol ddy we. A eniwe, fi'n credu dylen ni adeiladu cymaint ohonyn nhw ag sy'n bosib yng nghymru. Rhai mawr, salw yn Abersoch a Cricieth a Sir Benfro a Aberystwyth, er mwyn cadw'r Saeson o 'ma. Pwy sydd ishe ty haf ar bwys gorsaf niwclear? Dim fi!
"There are few things more pleasing than to perform a good deed by stealth, which is discovered by accident"
bibopalwla
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 8:20 pm

Postiogan CreyrGlas » Gwe 08 Gor 2005 3:54 pm

bibopalwla a ddywedodd:Ynni Niwclear ol ddy we. A eniwe, fi'n credu dylen ni adeiladu cymaint ohonyn nhw ag sy'n bosib yng nghymru. Rhai mawr, salw yn Abersoch a Cricieth a Sir Benfro a Aberystwyth, er mwyn cadw'r Saeson o 'ma. Pwy sydd ishe ty haf ar bwys gorsaf niwclear? Dim fi!

a pwy sydd ishe ty i fyw ynddo drwy gydol y flwyddyn ar bwys gorsaf niwclear? Dim fi!

er bod ynni niwclear yn lan (hyd nes bod damwen yn digwydd, neu angen clirio'r gwastraff) mae'r perygl o gamgymeriad neu damwain cangwaith yn fwy na'r posibiliad o ddamwain gan felinau gwynt! dychmygwch y sefyllfeydd canlynol, a dewiswch pa un sy well da chi:

Niwclear: Un dydd, ar arfordir gogledd sir benfro, 'mae'r gorsaf ynni niwclear newydd yn peidio a gweithio. mae'r technegwyr yn cael eu danfon i mewn i'r lle i ddatrys y broblem. Ond, mae coc-yp o'r radd flaenaf yn digwydd, gan arwain at ffrwydriad. pobl o fewn pellter agos yn garantid o farw....pobl ychydig yn bellach, llai o tsians o farw, ond yn garantid o gael eu effeithio gan ymbelydredd niwclear...pobl ar draws Gymru, ac ymhellach yn cael eu effeithio gan y llygredd niwclear am flynyddoedd i ddod. Twll o sefyllfa...

Gwynt: Un dydd, ar fynyddoedd y Preseli yng ngogledd Sir Benfro, mae'r fferm wynt newydd yn botsh job. d'yn nhw heb follto'r peth i'r llawr yn ddigon caled. felly, yng nghanol un o wyntoedd cryfion sir benfro, dyma'r mastie 'ma yn cwmpo o un i un, fel dominoes....ond sdim ots, achos ma nhw mewn cae, yn ddigon pell wrth bawb! neb yn cael eu hefeithio....(ok, heblaw am y ddafad anffodus o'dd yn sefyll o dan y blydi peth)...
Rhithffurf defnyddiwr
CreyrGlas
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 70
Ymunwyd: Mer 29 Meh 2005 10:43 am

Postiogan bibopalwla » Gwe 08 Gor 2005 4:20 pm

CreyrGlas a ddywedodd:

O, cym on. Hei, fi 'di ca'l syniad gwell. Pam na wnewn ni gyd aros yn ein gwelyau rhag ofn i rhywbeth fynd o'i le yn y byd, gyda cannwyll yn olau. O na, wrth gwrs, gallai'r canwyll syrthio ar lawr a rhoi'r ty ar dan. O wel, byw yn y tywyllwch amdani de.

Neu beth am hwn. Y byd yn mynd yn obsesd gyda bod yn saff drwy'r blydi amser a'n penderfynu dilyn arweiniad anturus y Creyr a codi melyne gwynt i ga'l trydan. Ond, o diar, ma' nhw'n defnyddio cymaint o egni i'w cynhyrchu, ac yn cynhyrchu cyn lleied o ynni eu hunain mae'r byd yn parhau i dwymo ond heb drydan chwaith. Moroedd yn codi, pawb yn boddi a'r rhai sydd ar ol ar ben y mynyddoedd yn ca'l cancr y croen. Ond sdim ots achos o'dd dim unman 'da nhw i fyw eniwe achos o'dd y miliyne o felyne gweynt o'dd eu hangen i drial rhoi trydan iddyn nhw wedi mynd a'r tir i gyd a doedd dim bywyd gwyllt ar ol i gael ei foddi gan y mor beth bynnag.

Ife 'na be' wedon nhw pan ddarganfyddon nhw drydan? 'O na na bois, ma'r stwff hyn yn gallu lladd. Cadwch e dan eich het a bydd popeth yn iawn.
"There are few things more pleasing than to perform a good deed by stealth, which is discovered by accident"
bibopalwla
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 8:20 pm

Postiogan dave drych » Gwe 08 Gor 2005 5:55 pm

bibopalwla a ddywedodd:Ynni niwclear yw'r unig ateb. Mae'n rhad ac mae digonedd i'w gael

Nagoes. Mae'n adnodd cyfyngedig. Dim ond mewn llond llaw o wledydd gallwch ddod o hyd i Uranium neu un o'r tanwyddau eilradd, megis Nigeria.

a dyw e'n gwneud dim drwg i'r amgylchedd. Tan bod ni'n gorfod delio gyda'r gwastraff.

So mae o yn gwneud niwed ti'n deud?

Mae angen buddsoddi miliynau, onid biliynau, mewn datblygu technoleg i greu egni o'r gwastraff. Dwi ddim yn wyddonydd, ond o'r ymchwil dwi di neud, mae'n nhw'n swnio'n optimisig fod e'n bosib.

Pwy ydi'r 'nhw' ti'n sôn am? Biliynau o £££ mewn niwclear neu technoleg glân? Hmm....fyswn i'n dewis technoleg glân.

Ma' melynau gwynt yn wastraff amser ac arian ac yn creu difrod amgylcheddol anferth. Dim 'greenhouse gases' a shit falle, ond reit rownd iddyn nhw, ma'r effeithie'n wael iawn.

Dim ond effeithiau wrth adeiladu y melinau sydd ne. Ia iawn, concrît yn y llawr, lot o ffyrdd cysylltu drost y tiroedd uchel a stwff, ond fyse angen hynne efo unryw gorsaf sy'n cael ei adeiladu o'r newydd.

O ran Chernobyl, wel, lol yw son amdano fe. Damwain mewn hen orsaf sofietaidd nad oedd yn cael ei gynnal yn iawn. Mae technoleg wedi symud mla'n cryn dipyn hyd yn oed ers hynny.

So dylwn ni anghofio amdan y damwain?! Ddim lol yw sôn amdano os dyden ni ddim isho iddo ddigwydd eto! Beth amdan y damwain yn Three Mile Island? Nid hen orsaf Sofetaidd yng nghanol nunnle oedd hwnne.

Niwclear ol ddy we. A eniwe, fi'n credu dylen ni adeiladu cymaint ohonyn nhw ag sy'n bosib yng nghymru. Rhai mawr, salw yn Abersoch a Cricieth a Sir Benfro a Aberystwyth, er mwyn cadw'r Saeson o 'ma. Pwy sydd ishe ty haf ar bwys gorsaf niwclear? Dim fi!

Haha! :D Siwr bod ffyrdd gwell (a glanach) o'i gadw nhw allan!
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan bibopalwla » Llun 11 Gor 2005 9:20 am

dave drych a ddywedodd:
a dyw e'n gwneud dim drwg i'r amgylchedd. Tan bod ni'n gorfod delio gyda'r gwastraff.

So mae o yn gwneud niwed ti'n deud?

Na, fel wedes i yn y neges (dyfyniad isod), dim os gellir defnyddio'r gwastraff i greu egni. Sydd mae'n debyg, yn bosib.

dave drych a ddywedodd:
Mae angen buddsoddi miliynau, onid biliynau, mewn datblygu technoleg i greu egni o'r gwastraff. Dwi ddim yn wyddonydd, ond o'r ymchwil dwi di neud, mae'n nhw'n swnio'n optimisig fod e'n bosib.

Pwy ydi'r 'nhw' ti'n sôn am? Biliynau o £££ mewn niwclear neu technoleg glân? Hmm....fyswn i'n dewis technoleg glân.

Mae niwclear yn dechnoleg lan, neu o leia' fe allai fod. Fe chwilotaf i eto am fy ffynhonnell ar ol mynd adre' heno.

dave drych a ddywedodd:
Ma' melynau gwynt yn wastraff amser ac arian ac yn creu difrod amgylcheddol anferth. Dim 'greenhouse gases' a shit falle, ond reit rownd iddyn nhw, ma'r effeithie'n wael iawn.

Dim ond effeithiau wrth adeiladu y melinau sydd ne. Ia iawn, concrît yn y llawr, lot o ffyrdd cysylltu drost y tiroedd uchel a stwff, ond fyse angen hynne efo unryw gorsaf sy'n cael ei adeiladu o'r newydd.

Baset, ond yn anffodus, er mwyn ca'l unrhywbeth mas o felyne gwynt, ma' rhaid adeiladu'r diawled yn bob man. Ac felly, peth wmbreth yn fwy o niwed yn ca'l ei wneud nag a fyddai o adeiladu un pwerdy mewn un man.

dave drych a ddywedodd:
Niwclear ol ddy we. A eniwe, fi'n credu dylen ni adeiladu cymaint ohonyn nhw ag sy'n bosib yng nghymru. Rhai mawr, salw yn Abersoch a Cricieth a Sir Benfro a Aberystwyth, er mwyn cadw'r Saeson o 'ma. Pwy sydd ishe ty haf ar bwys gorsaf niwclear? Dim fi!

Haha! :D Siwr bod ffyrdd gwell (a glanach) o'i gadw nhw allan!

Falle wir!
"There are few things more pleasing than to perform a good deed by stealth, which is discovered by accident"
bibopalwla
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 105
Ymunwyd: Gwe 24 Meh 2005 8:20 pm

Nôl

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 4 gwestai