Protest yn erbyn fferm wynt

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan dave drych » Sul 03 Gor 2005 12:28 pm

Ydech chi'n sylweddoli sawl melin gwynt sydd ei hangen i greu yr un difrod a phwerdy niwclear?
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 03 Gor 2005 12:40 pm

Wyt ti'n sylweddoli cyn LLEIED o "ddifrod" mae pwerdai niwclear yn ei greu??!!
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dave drych » Sul 03 Gor 2005 1:01 pm

Mae llai o ddifrod yn cael ei greu gan melinau gwynt.

Fedrai weld 'fferm' wynt reit rwan allan o'r ffenestr, dydi o heb cael ei gwblhau eto ac mae lot o lanast. Ond bob tro dwi'n edrych fyny atyn nhw dwi jysd yn meddwl cymaint yn well ydi gweld rhain ar hyd y topiau na fuasai gweld gorsaf niwclear.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 03 Gor 2005 1:08 pm

Mae angen 1000 o'r rhai mawr (3000 o'r rhai llai, sydd yn cael eu codi gan fwyaf) i gynhyrchu'r un faint o drydan a gorsaf niwclear. Mae'r rhifau hyn wedi eu amcangyfrif gan gymryd yn ganiataol eu bod yn cynhyrchu trydan drwy'r amser. Ond maent ymhell o wneud hyn, ac felly byddai angen miloedd yn fwy. Dydy nhw ddim yn cynhyrchu trydan pan NAD yw'n wyntog, a dydy nhw ddim yn cynhyrchu pan mae'n RHY wyntog. Dydi'r ffaith eu bod nhw'n troi DDIM, o anghenrhaid, yn golygu eu bod nhw'n cynhyrchu.

Dwi'n cytuno y byddai'n ddelfrydol dibynnu ar ynni gwyrdd, ond ar hyn o bryd does ganddom mo'r dechnoleg i allu gwneud hyn, ac felly mae'n amhosibl. Hyd nes bydd ganddom dechnoleg i allu sicrhau gallu dibynnu ar ynni gwyrdd, bydd rhaid dibynnu ar ffynhonellau eraill o gynhyrchu trydan.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 03 Gor 2005 1:10 pm

dave drych a ddywedodd: cymaint yn well ydi gweld rhain ar hyd y topiau na fuasai gweld gorsaf niwclear.


Fuasa ti ddim yn gweld gorsaf niwclear ar hyd y topiau, achos mae gorsafoedd niwclear yn defnyddio dwr y môr, ac felly'n gorfod bod ar yr arfordir - ac mae'n llawer haws 'cuddio' gorsaf o'r fath nag ydi 'cuddio' degau o filoedd o felinau gwynt sydd yn GORFOD bod mewn safleoedd agored.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan dave drych » Sul 03 Gor 2005 1:41 pm

Ond mae'n well gennai weld difrod aesthetig am 30 mlynedd o ganlyniad i gosod melinau gwynt na newyn ymbelydrol sy'n gallu roi cancr i fobl.

Pwy sy'n gallu profi y byddwn efo'r technoleg, arian, diogelwch rhyngwladol, adnoddau a'r cymhelliant i ddelio efo'r gwastraff ymhen dau cant blwyddyn? Dim ond angen edrych ar difrod o ganlyniad i'r damwain Chernobyl ac yn Three Mile Island.

Dydw i ddim chwaith yn credu gallwn dibynnu ar melinau gwynt ar eu pennau hunain. Ond nid niwclear ac glô yw'r ateb i hyn - rhaid buddsoddi a datblygu technegau eraill fel hydro, llanw, bio-thermal a solar. Ac gan bod Cymru efo gyfoeth o wynt a dwr, dylwn manteisio ar yr adnoddau yma sydd am ddim i fod mewn sefyllfa cryf.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan Fflamingo gwyrdd » Sul 03 Gor 2005 2:00 pm

Dwi'n cytuno (a'r rhan fwyaf o hynna!), ond mae'n rhaid cael systemau eraill dibynadwy wrth gefn. Heb y rheiny, 'chei di'mo dy baned!
Dwi'n gwybod fod damwain Chernobyl yn echrydus. Ond drwy iddi ddigwydd, mae wedi gorfodi i'r diwydiant niwclear ddatblygu i fod yn saffach a saffach. Mae'r rheolau'n andros o gaeth, ac mae'r diwydiant yn cael ei archwilio a llygaid barcud, yn dragywydd. Does nesa peth i ddim o ymbelydredd yn cael ei ollwng o'r pwerdai - a bod yn onest, mae mwy o ymbelydredd naturiol mewn llefydd fel Aberdeen, Cernyw a Threfor (Pen Llyn) na sy'na mewn llefydd fel Cemaes, lle mae atomfa'r Wylfa. Fusaset ti'n peidio mynd ar dy wyliau/byw yn y llefydd hynny? Does dim 'chwaith mwy o achosion o gancr yn yr ardal honno yng ngogledd Môn. Mae'n debyg fod gan rhywun siawns lot mwy o ddatblygu cancr drwy ysmygu etc...nag o dderbyn trydan sydd wedi ei gynhyrchu o bwerdy niwclear.

Mi wn i fy mod yn ymddangos o blaid ynni niwclear (ac, ydi, mae hyn i rhyw raddau'n wir), ond 'dwi hefyd yn cytuno a RHAN o dy feddylfryd di - mae'n rhaid i ni edrych mwy ar ffyrdd o gynhyrchu ynni 'gwyrdd' ar gyfer y dyfodol. Defnyddio'r hyn sydd ganddon ni er ein mantais. Ond ar hyn o bryd, yn 2005, a thra mae technolegau eraill yn cael eu datblygu i safon delfrydol, mae'n rhaid derbyn na fyddai ganddom, fel gwlad, drydan i wneud y nesa peth i ddim, heb ynni niwclear.
Well 'da fi fod yn daten...byw o dan y ddaear...
Rhithffurf defnyddiwr
Fflamingo gwyrdd
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1465
Ymunwyd: Sul 25 Ion 2004 3:48 pm
Lleoliad: Caerdydd

Postiogan Dielw » Sul 03 Gor 2005 9:51 pm

dave drych a ddywedodd:Ond mae'n well gennai weld difrod aesthetig am 30 mlynedd o ganlyniad i gosod melinau gwynt na newyn ymbelydrol sy'n gallu roi cancr i fobl.

Pwy sy'n gallu profi y byddwn efo'r technoleg, arian, diogelwch rhyngwladol, adnoddau a'r cymhelliant i ddelio efo'r gwastraff ymhen dau cant blwyddyn? Dim ond angen edrych ar difrod o ganlyniad i'r damwain Chernobyl ac yn Three Mile Island.

Dydw i ddim chwaith yn credu gallwn dibynnu ar melinau gwynt ar eu pennau hunain. Ond nid niwclear ac glô yw'r ateb i hyn - rhaid buddsoddi a datblygu technegau eraill fel hydro, llanw, bio-thermal a solar. Ac gan bod Cymru efo gyfoeth o wynt a dwr, dylwn manteisio ar yr adnoddau yma sydd am ddim i fod mewn sefyllfa cryf.
Basa Chernobyl ddim yn digwydd fama. Dydi gwynt ddim yn cynhyrchu fawr o ddim. Ma na botensial i egni llanw dwi'n meddwl, gobethio bydd hyn yn datblygu.. fel arall dwi angen trydan - a trydan niwclear fydd hynny ar hyn o bryd.
One day this chalk outline will circle this city

Survival... Recovery... Prevention la la la
Rhithffurf defnyddiwr
Dielw
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 960
Ymunwyd: Iau 30 Hyd 2003 4:08 pm
Lleoliad: heheheee... urgh

Postiogan dave drych » Llun 04 Gor 2005 11:55 am

Efallai byddi'n anhebyg cael digwyddiad 'Chernobyl' arall efo gorsaf niwclear modern yng Nhgymru, ond fe all ddigwydd. Does ne'm ffordd o brofi gelli'r hyn byth ddigwydd eto, ac felly dwi ddim yn meddwl bod hi'n werth y risg.

Cymaint y mae ynni niwclear yn temptio, dewis braidd yn anghyfrifol ydio o ystyried y perygl. Nid cynyddu cyflenwad trydan ydi'r ateb cynaladwy yn y tymor-hir, rhaid ini lyncu llai o drydan a pwer drwy datblygu nwyddau mwy effeithiol a bod yn fwy feddyliol.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan clybi » Llun 04 Gor 2005 4:18 pm

Mae 'na moddau gwahanol o leihau ein dibynniaeth ar bwer niwclear. Cewch chi cip ar y ddogfen hon:
http://www.green-alliance.org.uk/public ... lOrAtomic/
Rhithffurf defnyddiwr
clybi
Defnyddiwr
Defnyddiwr
 
Negeseuon: 7
Ymunwyd: Llun 04 Gor 2005 1:22 pm
Lleoliad: Pen-y-Bont ar Ogwr

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 6 gwestai

cron