Realydd a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:Swnio'n berffaith.
Ydy, heblaw am y darn melinau gwynt.
Hyd yn oed ymhell allan yn y môr?
Cymedrolwr: Dili Minllyn
Dylan a ddywedodd:Mali a ddywedodd:Dylan a ddywedodd:Yn wir. Siwr mai cario 'mlaen i roi llwyth ohonyn nhw oddi ar yr arfordir ydi'r ateb yn y pen draw. Mae Prestatyn yn edrych lot yn well o'r herwydd beth bynnag.
Felly, beth sydd wedi digwydd yn Prestatyn Dylan?
Mali.
lot o felinau gwynt allan yn y môr. Wedi gwneud byd o wahanieth i ddelwedd y dref
Dylan a ddywedodd:felly beth am eu gosod allan ar y môr?
Wel, sain arsed ffindo fe 'fyd, ond dwedwch wrthai, beth yw eich barn arnyn nhw?Cardi Bach a ddywedodd:I'r rhai sydd a diddordeb yn y pwnc melynnau gwynt, mae yna drafodaeth flaenorol arno yn yr adran yma yn rhywle.
Fi ddim yn arsed i ail-weud beth wedes i fan'na,
Realydd a ddywedodd:Un eglurhad a glywais pam fod llywodraeth yn barod i roi cymorth ariannol i ffermwyr oedd gan fod y ffermwyr yn helpu i hybu twristiaeth mewn i Gymru gan fod nhw'n cadw'r tirwedd yn hardd i ddenu'r ymwelwyr oedd wedyn yn talu llawer o arian mewn i'r economi leol.
Fuaswn i'n dweud fod ffermwyr sy'n rhoi'r melinnau hyll yma yn eu caeau yn dinistrio'r golygfeydd naturiol hardd sy'n denu ymwelwyr ac felly falle dylai'r llywodraeth beidio rhoi cefnogaeth ariannol i'w wneud hefo'r rheswm yna. Yn ol beth dwi'n glywed mae arian go dda i'w wneud trwy ganiatau'r pethau yma ar eich tir. Fe fuaswn i'n trethu yr arian yma neu yn banio'r pethau'n gyfangwbl os buasai'r pwer gen i.
Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth
Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 23 gwestai