Protest yn erbyn fferm wynt

Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod

Cymedrolwr: Dili Minllyn

Rheolau’r seiat
Y Ddaear - cara hi neu gad iddi fod. Pwyswch yma i ddarllen canllawiau cyffredinol maes-e.

Postiogan Taflegryn » Maw 03 Mai 2005 11:17 am

Realydd a ddywedodd:
Dylan a ddywedodd:Ond wyt ti o blaid eu rhoi nhw allan ar y môr?


os yw nhw allan o olwg pawb yna iawn. Siawns fod defnyddio grym y mor yn well na gwynt y mor beth bynnag?


Tydi cario trydan ar waelod y mor ddim yn effeithiol iawn yn ol pob son. Ffysics neu wbath.
Rhithffurf defnyddiwr
Taflegryn
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 130
Ymunwyd: Maw 14 Hyd 2003 8:45 pm

Postiogan Macsen » Maw 03 Mai 2005 11:24 am

Dwi o blaid pweru Cymru gyda cythrudd hunangyfiawn Realydd.

Hook 'im up.
Rhywun yn ymosod ar y Gymraeg? - Rhannwch Why Welsh.com!
Rhithffurf defnyddiwr
Macsen
Defnyddiwr Platinwm
Defnyddiwr Platinwm
 
Negeseuon: 6193
Ymunwyd: Maw 12 Awst 2003 8:01 pm
Lleoliad: Penrhiwllan/Waunfawr

Postiogan Geraint » Maw 03 Mai 2005 11:42 am

Mae'r Cynulliad wedi penderfynnu ar ardaloedd lle fydd melinau gwynt yn cael eu canolbwyntio yn y dyfodol (TAN 8 Strategic search areas).Dyma fap o'r ardaloedd. Bydd ceisidau am ffermydd wynt yn yr ardaloedd yma yn fwy debygol o fod yn llwyddianus. Disgwyliwch i'r ardalaoedd yma gael lot o felinnau yn y dyfodol.
Rhithffurf defnyddiwr
Geraint
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5804
Ymunwyd: Llun 30 Medi 2002 3:35 pm
Lleoliad: Dan garreg mewn ogof dan mynydd gogogoch yn y gofod (in space)

Postiogan Mr Gasyth » Maw 03 Mai 2005 11:50 am

Geraint a ddywedodd:Mae'r Cynulliad wedi penderfynnu ar ardaloedd lle fydd melinau gwynt yn cael eu canolbwyntio yn y dyfodol (TAN 8 Strategic search areas).Dyma fap o'r ardaloedd. Bydd ceisidau am ffermydd wynt yn yr ardaloedd yma yn fwy debygol o fod yn llwyddianus. Disgwyliwch i'r ardalaoedd yma gael lot o felinnau yn y dyfodol.


Ma na rwbeth reit eironig yn y fordd ma'r map yne yn cyfeirio at hiraethog fel y 'denbigh moors'. dyma'r enw saesneg poblogaidd ar lle ond y gwir ydi mai prin iawn ydi'r 'moors' sydd ar ol erbyn hyn gan fod ei bod bron yn gyfangwbl o dan goed pin neu gronfeydd dwr. a rwan ma nwh am godi melinau gwynt ar hynny o'r gors sydd ar ol!

Tydw i ddim yn gryf o blaid nac yn erbyn y pethau yma, ond dwi yn cerdu ei bod yn anheg fod cymaint o rai yng Nghymru a'r Alban. Faswn i'n hoffi gweld ymateb y Saeson lleol petaent yn ceisio codi rhai ar y Chilterns neu'r Cotswolds!
Rhithffurf defnyddiwr
Mr Gasyth
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 5303
Ymunwyd: Mer 23 Gor 2003 1:06 pm
Lleoliad: Ar y Foel

Postiogan dave drych » Maw 03 Mai 2005 4:40 pm

Mr Gasyth a ddywedodd: ...ond dwi yn cerdu ei bod yn anheg fod cymaint o rai yng Nghymru a'r Alban. Faswn i'n hoffi gweld ymateb y Saeson lleol petaent yn ceisio codi rhai ar y Chilterns neu'r Cotswolds!


Cytuno'n llwyr. Fyswn i'n hoff o weld melinau yn cael eu gosod yng nghanol Llunden, lle gall mwy o fobl gweld nhw. Neith hyn adael i bawb sylwi beth sydd angen ini rhedeg ein cyfrifiaduron a teledai. Efalle neith hyn arwain ar gostyngiad yn y defnydd o drydan.
n'aye!
Rhithffurf defnyddiwr
dave drych
Defnyddiwr Arian
Defnyddiwr Arian
 
Negeseuon: 648
Ymunwyd: Sad 11 Ion 2003 5:58 pm
Lleoliad: No.36

Postiogan ap concord y bos » Maw 03 Mai 2005 6:15 pm

wel o blaid neu yn erbyn ffermydd gwynt mae nhw'n blydi angenrheidiol ar gyfer ein dyfodol! Dwi ddim yn edrych ymlaen i ddarganfod gwlad su mewn llanast egni mewn chydig o flynyddoedd. Ddeud gwir dwi ddim yn meindio nhw, ond fe ddwedodd fy ffrind rhywbeth digri amdanynt chydig bach yn ol mewn gwers lefel A daearyddiaeth!

fi: fferm wynt yn betha da

met: ai yndi, ond be amdan peintio nhw'n wyrdd ynlle bod nhw'n wyn?

fi: sa hunan lot o help i low flying aircraft yr RAF yn valley.....

TRUE STORY!!!!!!!!!
ysgytlaeth mefus, maes-b 2005, swpyrb........
Rhithffurf defnyddiwr
ap concord y bos
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 470
Ymunwyd: Sad 16 Ebr 2005 10:32 pm
Lleoliad: Dyffryn Nantlle

Postiogan Mali » Mer 04 Mai 2005 2:53 am

Diolch am y linc Geraint. Peth digon diflas fasa gweld melinau gwynt ar Fynyddoedd Hiraethog hefyd.
Yn gweld fod trigolion Llandudno a'r cylch yn gwrthwynebu cynlluniau ar gyfer cael melinau gwynt oherwydd ofnau y byddant yn difetha'r olygfa.
Wel.... yn ôl yr erthygl yma , mae nhw yn sôn am 200 o felinau!
http://news.bbc.co.uk/welsh/hi/newsid_4 ... 506457.stm
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

Postiogan eifs » Maw 10 Mai 2005 8:24 pm

runig beth sydd angen ei wneud ydi adio mwy ar arfordir rhyl, mae'r lle yn edrych digon bler fel mae hi, felly pam lai
Rhithffurf defnyddiwr
eifs
Defnyddiwr Aur
Defnyddiwr Aur
 
Negeseuon: 1275
Ymunwyd: Mer 16 Chw 2005 3:18 pm
Lleoliad: Llanrug/Abertawe

Postiogan jimkillock » Mer 11 Mai 2005 1:54 pm

Tan ddiweddar roedd pobl yn cyhuddo'r Blaid Werdd o ofyn i bobl mynd yn ôl at ddefnyddio cannwyllion.

Ond rwan mae pobl
yn erbyn pris petrol yn codi (er mae olew mynd yn brin);
yn erbyn melinau gwynt ar y tir ;
yn erbyn melinau gwynt ar yr arfordir;
yn erbyn (os yn synhwyrol) ynni niwcliar;

felly, sut dychmgon nhw fyddan nhw'n gyrru eu ceir a rhedeg eu peiriannau golchi? Nhw, dwi'n credu, sy'n awgrymu mynd yn ôl at ddefnyddio canhwyllion, gan beidio awgrymu unrhyw ddull o greu trydan ...

dwi'n dallt y rhesymeg yn erbyn rhai melinau gwynt ar y tir, ond rhywbeth mor bwysig yw osgoi newid hinsawdd: rhaid cael rhyw fath o falans, ond oes?? a peidio bod yn ei herbyn bob tro?

ar yr un pryd dylai nhw cael eu trethi yn lleol neu yn cael eu piau gan y gymuned leol i roi chydig o'r elw yn ôl yn y gymuned. dwi'n sicr os ddigwigith mesurau fel hyn buasai'r ddadl yn newid.

gyda llaw mae yn wir bod nhw mwy effeithlon os ar yr arfordir / môr.
Rhithffurf defnyddiwr
jimkillock
Defnyddiwr Efydd
Defnyddiwr Efydd
 
Negeseuon: 198
Ymunwyd: Gwe 15 Tach 2002 10:54 am
Lleoliad: Bangor

Postiogan Mali » Mer 11 Mai 2005 8:16 pm

Y gwirionedd ydi fod 'na bobl yn mynd i gwyno lle bynnag fydd y melinau gwynt yn cael eu gosod. Mae 'na ddiffyg 'meddwl ymlaen' yma dwi'n meddwl, a dyna be sy'n beryg yn y byd sydd ohoni.
Mali.
Rhithffurf defnyddiwr
Mali
Cymedrolwr
Cymedrolwr
 
Negeseuon: 2574
Ymunwyd: Mer 07 Ion 2004 6:04 am
Lleoliad: Canada

NôlNesaf

Dychwelyd i Amgylchedd a Chynaliadwyaeth

Pwy sydd ar-lein

Defnyddwyr sy’n pori’r seiat hon: Dim defnyddwyr cofrestredig a 32 gwestai

cron